Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Sianel podlediad sy'n trafod materion yn ymwneud a phrif nodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri; gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal; hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau ei nodweddion arbennig; a meithrin lles economaidd a chymdeithasol ei chymunedau. • • • A podcast which discusses topics relating to the aims of the Eryri National Park Authority; to conserve and enhance the natural beauty, wildlife and cultural heritage of the area, promote opportunities to understand and enjoy its special qualities; and to foster the economic and social well-being of its communities.
Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Cynhadledd Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE: Llwyddiannau a’r dyfodol
Use Left/Right to seek, Home/End to jump to start or end. Hold shift to jump forward or backward.
Yn y rhifyn hwn o Bodlediad Eryri, mae Rhiannon Jones o Brosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE yn cyflwyno recordiad o gynhadledd arbennig y prosiect a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor ym mis Ebrill.
Wrth i’r prosiect gyrraedd ei wythfed flwyddyn, mae’r gynhadledd yn gyfle i ddathlu llwyddiannau’r gwaith hyd yma, myfyrio ar y gwersi a ddysgwyd, ac edrych ymlaen at y dyfodol drwy gryfhau partneriaethau a gosod targedau tymor hir ar gyfer adfer Coedwigoedd Glaw Celtaidd yng Nghymru.
Cawn gyfres o gyflwyniadau gan siaradwyr allweddol: Jonathan Cawley, Prif Weithredwr y Parc Cenedlaethol yn croesawu pawb ac yn trafod gwaith y prosiect a’r argyfwng natur; Y Gwir Anrh. Liz Saville Roberts yn adlewyrchu ar yr iaith Gymraeg, hanes yr ardal, a’r cysylltiad rhwng pobl a’u cynefin; a Gethin Davies, Rheolwr y Prosiect, yn rhoi trosolwg o’r prosiect, ei lwyddiannau, ei heriau a’r cyfleoedd i’r dyfodol.