Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru

1. Cyflwyniad i Reoli Perygl Llifogydd

October 16, 2023 Cyfoeth Naturiol Cymru Season 2 Episode 1
Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru
1. Cyflwyniad i Reoli Perygl Llifogydd
Show Notes Transcript

Yn y gyfres hon, byddwch yn clywed gan wahanol dimau Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gweithio gyda’i gilydd i leihau'r perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru.

Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw'r perygl o lifogydd, yr hyn yr ydym yn ei wneud i'w reoli yng Nghymru, a pha effaith y mae'r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.

·       Tudalennau Gwe Rheoli Perygl Llifogydd

·       Atebion sy’n seiliedig ar natur ar gyfer rheoli arfordirol

·       Cynlluniau Rheoli Traethlin

·       Cronfa Ddata Cenedlaethol Asedau Llifogydd

·       Rhybuddion llifogydd

·       Gwirio lefelau'r afonydd, glawiad a data môr

·       Rhagolygon perygl llifogydd 5 diwrnod

·       Gwiriwch eich perygl llifogydd ar fap (Map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru)

·       Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio / Datblygu Cyngor

·       Swyddi, prentisiaethau a lleoliadau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau ar unrhyw beth a gwmpesir yn y gyfres podlediad hon, cysylltwch â ni ar FloodRiskManagement.Strategic@naturalresourceswales.gov.uk

LLION: Helo a chroeso i gyfres fach hon o bodlediadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar reoli perygl llifogydd. Fy enw i yw Llion Bevan ac rwy’n gweithio fel Uwch Swyddog Cyfathrebu i Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn y gyfres hon, byddwch yn clywed am y gwahanol dimau sy’n gweithio gyda’i gilydd i leihau’r perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru. Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw perygl llifogydd, beth rydym ni’n ei wneud i reoli’r risg yng Nghymru, a pha effaith mae’r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. 

Yn y bennod gyntaf hon, bydd Mike Evans, sy'n gweithio fel Pennaeth Gweithrediadau Canol De Cymru yma yn CNC,  yn ymuno â ni. Mae gan Mike gyfoeth o brofiad y bydd yn ei rannu gyda ni heddiw. Cawn glywed ychydig am ei gefndir, ei addysg, a'i yrfa hyd yn hyn cyn i ni fynd ati i ofyn cwestiynau yn cynnwys beth yw llifogydd? Pam a phryd maen nhw'n digwydd? A sut allwn ni eu hatal? 

Helo Mike. Yn gyntaf, hoffwn i dy groesawu di a dweud diolch am ddechrau ein cyfres fach o bodlediadau ar Reoli Perygl Llifogydd.

Cyn mynd i mewn i’r pwnc ei hun, hoffwn i ofyn sut ddes ti i fod yn Bennaeth Gweithrediadau Canol De Cymru yma yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Alli di ddweud ychydig am dy gefndir?  

Mike – Bore da. Diolch am y cyfle i siarad gyda chi’r bore ‘ma. Wel, gan fy mod i mor hen, mae’n stori hir o ran sut yr ydw i wedi cyrraedd i fod yn Bennaeth Gweithrediadau Canol De Cymru. Fel plentyn yn tyfu yng Nghaerdydd, roedd gen i obsesiwn am bysgod, ac rwy’n cofio’n glir pryd y ces i fy ngwialen bysgota gyntaf, ac yna prynu’r un gwell. Wedyn, pan oeddwn i’n 12 mlwydd oed, fe wnes i ennill pencampwriaeth De Cymru i bysgotwyr ifanc. Roeddwn i wastad yn cadw pysgod gartref, mewn tanciau ar draws yr ardd ac yn y tŷ. Ond er fy mod i’n ifanc, roeddwn i’n sylwi bod rhywbeth mawr o’i le gydag afonydd yng Nghaerdydd. Roedd yr afonydd Taf, Elai a‘r Rhymni yn brin iawn o bysgod, oherwydd y llygredd diwydiannol a oedd yn bodoli ar y pryd. Efallai bod y profiad o drio cael pysgod ble nad oedd dim wedi fy nhroi i’n fath o amgylcheddwr!

Wrth dyfu i fyny, fe wnes i barhau i bysgota, a chefais waith yn adeiladu pyllau pysgod mewn gerddi o gwmpas Caerdydd, ac yn cadw anifeiliaid yn y tŷ. Roeddwn i’n gyrru fy rhieni yn wyllt - roedd ein tŷ ni yn fwy fel sŵ na thŷ cyffredin. Roedd adar, cannoedd o adar yn bridio, a physgod a thanciau ymlusgiaid, felly roeddwn i’n dipyn o ‘fanatic’ am anifeiliaid.

Wedyn, fe wnes i gwblhau gradd mewn Swoleg ym Mhrifysgol Bryste, cyn dechrau teithio’r byd. Ac wrth fynd rownd y byd, roeddwn i’n sylwi bod cysylltiad uniongyrchol rhwng safon bywydau pobl a safon eu hamgylcheddau nhw. Ac wrth i mi ddod yn ôl i Brydain, dechreuais weithio dros gyrff fel Cyfeillion y Ddaear ac NGO’s eraill, ac yn gwneud mwy a mwy am yr amgylchedd a hawliau pobl am amgylchedd da. Wedyn, penderfynais wneud gradd ychwanegol ym Mhrifysgol Plymouth mewn Rheoli Pysgodfeydd, cyn mynd dramor i weithio am dair blynedd yn Ynysoedd y Philippines gyda physgotwyr morol. Y nod i mi fod yno oedd i helpu pobl, ond fe wnes i ddysgu lot mwy oddi wrthyn nhw nag yr oeddwn yn ei ddysgu iddyn nhw. Roedd yn brofiad anhygoel. Wedyn, fe ddois i’n ôl i Byrdain a chael gwaith gyda mwy o NGO’s cyn ymuno ar y pryd gyda’n corff ni, sef y ‘National Rivers Authority’ yn fy swydd ddelfrydol fel Swyddog Pysgodfeydd yn Norwich, lle’r oeddwn i’n gwneud ymchwil, arolygon yn y Norfolk Broads. Mae’n lle delfrydol, ac roeddwn i’n cydweithio’n glos gyda phobl, a dyna’r thema amgylchedd a phobl sydd wedi fy nilyn drwy gydol fy nhyrfa. Ar ôl 6 mlynedd yn Lloegr, fe ddois i’n ôl i Gymru fel Rheolwr Pysgodfeydd dros Asiantaeth yr Amgylchedd. Ar y pryd, doeddwn i ddim yn siarad Cymraeg o gwbl, felly fe es i ati i ddysgu’r iaith, ac rwy’n eithaf rhugl. Rwy’n siarad fy iaith Gymraeg fy hunan, ond does dim llawer o broblem yn ein tŷ ni beth bynnag.

Ar ôl bod yn Rheolwr Pysgodfeydd yng Nghymru am dipyn, cefais gwpwl o swyddi ym maes newid yn yr hinsawdd, yn arwain a datblygu polisi yn y maes. Wedyn, 10 mlynedd yn ôl, creodd Llywodraeth Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru, a chefais y fraint o fod yn Bennaeth Tystiolaeth, Gwybodaeth a Chyngor am 7 mlynedd i sefydlu’r adran. Roedd yn waith anodd i drio creu corff gyda phwerau ehangach, yn tynnu pob agwedd o’r amgylchedd at ei gilydd. Felly’n brosiect uchelgeisiol, ond roeddwn i’n ei fwynhau fwy nag unrhyw beth yr ydw i erioed wedi’i wneud. Wedyn, tair blynedd yn ôl, fe wnes i benderfynu dod yn ôl fel Pennaeth Gweithrediadau yma yn fy ardal fy hun yng Nghaerdydd a’r Cymoedd, ac rwy’n mwynhau’n fawr iawn. Tipyn o her, oherwydd y ‘lockdowns’ wedi dechrau, ac yna yn 2020, cawsom ni’r llifogydd mwyaf yr ydw i erioed wedi mynd trwyddo, ac mae hynny’n cael effaith ar ein gwaith hyd heddiw. Mae hynny’n un o’r pwyntiau arwyddocaol yn fy ngyrfa, llifogydd Dennis a ddigwyddodd ym mis Chwefror 2020.

 

Llion: Gwych, diddorol iawn, gyda thipyn o deithio hefyd ynddo fe. I ddechrau ar y pwnc felly, roeddwn i eisiau dechrau gyda chwestiwn sylfaenol iawn. Beth yn union yw llifogydd a pham maen nhw’n digwydd?

Mike – Mae ffenomenon llifogydd yn un hollol naturiol – heb lifogydd, ni fyddai tirwedd Cymru yn bodoli. Felly mae llifogydd yn naturiol. Pan mae’n bwrw glaw, mae dŵr yn llifo dros y tir, i mewn i’r afonydd ac i’r môr, yn ffrwythloni’r tir sy’n gwneud Cymru’n wyrdd, ac yn creu siâp ein gwlad. Mae llifogydd fel yr ydyn ni’n ei ystyried yn broblem dynol i ddweud y gwir, oherwydd rydym ni wedi adeiladu dros llifdiroedd yng Nghymru, felly pan mae’n bwrw glaw, nid oes unrhyw le arall i’r dŵr i fynd, heblaw ein tai a’n heiddo, felly mae’n broblem ddynol, mae’n ffenomenon naturiol. Ond wrth gwrs, pan rydym ni’n cael tywydd eithafol fel yn ystod stormydd Dennis, Ciara a Jorge, mae dŵr ym mhobman, felly mae’n llifo i lawr y mynyddoedd, mae’n mynd lawr y strydoedd, ac weithiau wrth gwrs, rydym ni’n cael llifogydd o’r môr. Mae lefel y môr yn codi pan fydd stormydd mawr, ac mae dŵr yn gallu gorlifo ar ein glannau. Felly ie, dyna beth yw llifogydd.

Llion: Diolch. Mi wnes di sôn bod llifogydd yn fwy o broblem dynol na rhywbeth naturiol, felly oes yna ffyrdd o atal llifogydd rhag digwydd? 

Mike – Wel, dydyn ni ddim yn gallu atal llifogydd rhag digwydd. Mae’n rhaid i ni fyw gyda llifogydd, ac un o heriau ein cymdeithas ni yw sut i fyw gyda llifogydd. Ac yn y dyfodol rydyn ni’n gwybod, oherwydd newid yn yr hinsawdd, bydd mwy a mwy o lifogydd, a mwy a mwy o lifogydd mawr, eithafol. Felly, dydyn ni ddim yn gallu atal, ond rydyn ni’n gallu rheoli risg o fyw gyda llifogydd. A dyna ein rôl ni – rhybuddio pobl, adeiladu amddiffynfeydd ac yn y blaen. Felly, byw gyda llifogydd ydi ein her ni.

 

Llion: Diddorol. Ydy CNC yn gyfrifol am bob math o lifogydd?

Mike – Nid pob math, ond mae hynny’n swnio’n od i’r bobl sy’n gwrando, oherwydd dŵr sy’n llifo yw dŵr. Ond yn ôl y gyfraith, rydym ni’n gyfrifol am yr afonydd mawr, neu’r “main rivers” fel maen nhw’n cael eu galw’n Saesneg. Dyna ein rôl ni. Cronfeydd yng Nghymru a llifogydd o’r moroedd ar yr arfordir. Ac mae cyrff eraill fel cwmnïau dŵr ac awdurdodau lleol yn gyfrifol am lifogydd o nentydd bach a dŵr wyneb sy’n llifo i lawr strydoedd a'r mynyddoedd a’r lleoedd yma.

Llion:  Rwyt ti wedi sôn am y risg o lifogydd. Sut gallwn ni fel cymdeithas reoli'r risg honno? 

Mike – Y cam cyntaf yw bod yn ymwybodol o’r risg sy’n wynebu pob un ohonom ni. Paratoi ar gyfer llifogydd fel unigolion yn ein tai, fel cymdeithas, fel Llywodraeth ac fel CNC. Dydyn ni ddim yn gallu atal llifogydd fel yr oeddwn i’n ei ddweud, ond rydym ni’n gallu adeiladu amddiffynfeydd, a dyna beth mae pobl yn meddwl amdano wrth feddwl am reoli risg llifogydd, felly mae hynny’n fwy amlwg. Rydym ni’n tueddu i ystyried nawr sut yr ydym ni’n gallu rheoli’r tir i wneud llifogydd yn llai tebygol yn y dyfodol. Mae’n anodd yn rhai o’n dalgylchoedd ni oherwydd eu bod nhw mor serth, ac maen nhw’n ymateb mor gloi i’r glaw sy’n disgyn ynddyn nhw. Ond yn sicr, rydym ni’n gallu gwneud mwy am reoli tir. Rydym ni’n gallu rhybuddio pobl pan mae llifogydd yn dod. Felly mae yna sawl peth, ac rwy’n gwybod ein bod ni’n eu trafod nhw yn ystod y podlediadau sydd i ddod, a dydw i ddim yn mynd i fanylu arnyn nhw nawr.

Llion: Mae’n iawn. Fel wyt ti wedi sôn am yn barod, mae llifogydd yn ffenomenon naturiol ac felly’n gallu digwydd unrhyw bryd. Beth yw rôl CNC pan fydd llifogydd yn digwydd, a hefyd beth sy’n digwydd pan fo llifogydd yn digwydd yn ystod y nos neu’r tu hwnt i oriau gwaith arferol? Beth yw’n trefn ni yn yr achos hynny?

Mike – Mae ein rôl ni yn fwy fel “peace time”, felly’r gwaith caib a rhaw rydym ni’n ei wneud bob dydd rownd y cloc i gynnal ein hasedau ni, fel “sluices”, amddiffynfeydd, coredau a phethau felly. Ond pan mae llifogydd ar fin digwydd, rydym ni’n rhoi rhybuddion er mwyn i bobl baratoi ar gyfer y llifogydd, i weithredu, i fod yn barod. Rydym ni’n gorff ymateb lefel 1 fel yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân, felly pan fo llifogydd ar fin digwydd, mae ein timau’n barod i weithio rownd y cloc 365 diwrnod. Dydyn ni ddim yn gorff 9 tan 5. Maen ein timau wedi cael eu hyfforddi, ac wedi cael profiadau dros yr amser hir, felly pan fo llifogydd yn digwydd, rydym ni allan yn y maes yn gwneud gwaith caib a rhaw, rydym ni’n cyhoeddi rhybuddion, rydym ni’n gwneud yn siŵr bod yr afonydd yn glir, a’r coredau ac ati’n llifo’n rhwydd.

Llion: Yn gynharach, fe wnes ti sôn am y newid yn yr hinsawdd a sut mae hynny’n newid y risg.

Sut mae newid yn yr hinsawdd wedi effeithio ar y risg ond hefyd yn effeithio ar ein gwaith ni, a’r perygl o lifogydd yng Nghymru yn y dyfodol? 

Mike – Bydd yr her i ni ac i arian cyhoeddus yn cynyddu yn y blynyddoedd i ddod, ac nid ydym yn gallu ymateb i bob her. Fyddwn ni ddim yn gallu amddiffyn pob cymuned yn y dyfodol. Ond mae ein cynlluniau ni a’n prosiectau ni, mae rhai o’n cynlluniau ni newydd ddechrau yn Rhydaman a Chasnewydd – maen nhw’n ystyried y newid yn yr hinsawdd ac yn gwneud yn siŵr bod yr amddiffynfeydd yn ddigon uchel i ddelio gyda lefelau uwch yn y dyfodol. Felly, rydym ni’n adeiladu newid yn yr hinsawdd i mewn i’n prosiectau ni. Ond yn fwy anodd na hynny yw gweld ble byddwn ni ymhen degawdau a pha heriau y byddwn ni’n eu hwynebu fel cymdeithas. Dydyn ni ddim yn gallu taflu mwy a mwy o arian at amddiffynfeydd, a pha mor uchel mae pobl eisiau i’r amddiffynfeydd fod? Dydi pobl ddim eisiau byw gyferbyn â waliau enfawr sy’n cadw’r afon ar yr ochr arall, oherwydd nid yw hynny’n gynaliadwy. A’r broblem yw, wrth adeiladu amddiffynfeydd uwch, pan maen nhw’n methu, mae’r effaith yn fwy na delio gyda dŵr yn unig. Felly rydym ni’n gallu adeiladu problemau mwy wrth feddwl ein bod ni’n gallu rheoli’r amgylchedd. Mae’n rhaid i ni gyd-fyw gyda phroblemau yn y dyfodol, ond efallai y bydd angen i ni wella safon ein gwybodaeth fel bod pobl yn gallu ymateb. Mae’n rhaid i ni esbonio beth yw’r problemau yn well, a’r termau technegol yr ydym ni’n eu defnyddio, mae’n rhaid iddyn nhw fod yn fwy hawdd i bobl eu deall, a chydweithio’n fwy clos gyda chymunedau sydd ar y rheng flaen ac yn wynebu’r her.

 

Llion: Fe wnes di sôn am dimau CNC yn gynharach. Sut ydyn ni’n addasu i’r newid yn yr hinsawdd? O ran prosiectau, yn amlwg, rydym ni’n adeiladu hynny i mewn, ond yn fwy cyffredinol ledled CNC, sut ydyn ni’n ymateb?

Mike – Wel, rydym ni wedi cael llifogydd mawr fel yr ydw i wedi sôn amdano sawl gwaith yn 2020, ac mae hynny’n gyfle i ni gasglu gwybodaeth a dysgu wrth brofi stormydd enfawr. Rydym ni wedi casglu llwythi o wersi o brofiadau Storm Dennis yn enwedig, er enghraifft, rydym ni’n gwella ein rhybuddion llifogydd, rydym ni’n gwella ein gwefan i wneud yn siŵr pan fo pawb yn mynd ar y wefan nad yw’n methu fel y digwyddodd yn ystod Storm Dennis. Mae yna sawl peth wedi cael ei roi mewn lle ac rydym ni’n dal ati i wneud yn siŵr bod ein systemau yn fwy cryf yn erbyn yr her. Gyda llifogydd dros wythnosau, rydym ni’n tynnu mwy a mwy o bobl i mewn ar ein rotas i wneud yn siŵr eu bod yn gadarn ac yn gallu gwrthsefyll y galw pan fo llifogydd mawr yn dod. Felly mae gwaith parhaol – rhagweld beth sy’n dod a sut yr ydym ni’n gallu ymateb.

 

LLION: Gwych. Mae'n sicr yn swnio fel her enfawr, ond mae'n galonogol iawn clywed beth sy’n digwydd, ac mae’n amlwg yn waith pwysig iawn. Un cwestiwn olaf cyn i ni orffen. Rydym ni’n gofyn hwn i bawb rwy’n credu. Beth yw dy hoff ran o dy swydd? Beth sy’n dod â thi allan o’r gwely yn y bore?

Mike: Wel, mae pob dydd yn wahanol, a dyna beth sy’n bwysig i mi. Pob dydd, rydw i’n dysgu rhywbeth newydd. Rydw i’n ddigon lwcus i weithio reit o amgylch Cyfoeth Naturiol Cymru, ac fel Pennaeth Gweithrediadau, rwyt ti’n gyfrifol am bob agwedd ar yr amgylchedd a’r bobl yn dy ardal di. Ond y peth sy’n gwneud i mi godi allan o’r gwely bob bore yw bod yn rhan o dîm. Fel y soniais ynghynt, rydw i’n swyddog proffesiynol, yn ecolegydd, yn rheolwr pysgodfeydd, ond dydw i erioed wedi teimlo nad ydw i’n ffitio i mewn gyda’r tîm llifogydd lle’r ydw i’n gweithio gyda arbenigwyr yn y maes, ond rydw i’n meddwl mod i’n cyfrannu at y tîm. Mae bod yn rhan o dîm mor dalentog ac ymroddgar dros weithio dros bobl Cymru’n fraint a dweud y gwir, ac mae’n bleser cael gweithio dros Cyfoeth Naturiol Cymru.

LLION: Diolch yn fawr, Mike, a diolch am gymryd yr amser i siarad gyda mi heddiw. 

Mike: Dim problem, croeso.

 

Llion: Dw i’n gobeithio eich bod wedi mwynhau’r bennod hon. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau, gallwch gysylltu â ni ar Facebook, Twitter neu Instagram neu drwy’r cyfeiriad e-bost sydd yn nodiadau’r sioe yma. Fe welwch hefyd ddolenni i’n tudalennau gwe ar reoli perygl llifogydd lle gallwch weld rhai o'r pethau dyn ni wedi sôn am yma heddi.

Diolch am wrando!