Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru

2. Addasu Arfordirol a Newid Hinsawdd

October 16, 2023 Cyfoeth Naturiol Cymru Season 2 Episode 2
Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru
2. Addasu Arfordirol a Newid Hinsawdd
Show Notes Transcript

Yn y gyfres hon, byddwch yn clywed gan wahanol dimau Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gweithio gyda’i gilydd i leihau'r perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru.

Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw'r perygl o lifogydd, yr hyn yr ydym yn ei wneud i'w reoli yng Nghymru, a pha effaith y mae'r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.

·       Tudalennau Gwe Rheoli Perygl Llifogydd

·       Atebion sy’n seiliedig ar natur ar gyfer rheoli arfordirol

·       Cynlluniau Rheoli Traethlin

·       Cronfa Ddata Cenedlaethol Asedau Llifogydd

·       Rhybuddion llifogydd

·       Gwirio lefelau'r afonydd, glawiad a data môr

·       Rhagolygon perygl llifogydd 5 diwrnod

·       Gwiriwch eich perygl llifogydd ar fap (Map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru)

·       Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio / Datblygu Cyngor

·       Swyddi, prentisiaethau a lleoliadau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau ar unrhyw beth a gwmpesir yn y gyfres podlediad hon, cysylltwch â ni ar FloodRiskManagement.Strategic@naturalresourceswales.gov.uk

LLB: Helo a chroeso i gyfres fach o bodlediadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar reoli perygl llifogydd. Fy enw i yw Llion Bevan ac rwy’n gweithio fel Uwch Swyddog Cyfathrebu i Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn y gyfres hon, byddwch yn clywed am y gwahanol dimau sy’n gweithio gyda’i gilydd i leihau’r perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru. Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw perygl llifogydd, beth rydym ni’n ei wneud i reoli’r risg yng Nghymru, a pha effaith mae’r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. 

Yn yr ail bennod, byddaf yn siarad â Llew Rhys, Uwch Swyddog Addasu’r Arfordir yng ngogledd Cymru, am waith Cyfoeth Naturiol Cymru ar addasu’r arfordir.

Shwmae Llew. Croeso a diolch yn fawr am rannu dy amser di gyda ni heddi. Cyn i ni fynd i mewn i’r pwnc ei hunan, tybed allet ti roi rhywfaint o dy gefndir i ni o ran addysg a llwybr gyrfa ac ati a beth sydd wedi dy arwain di i ddod yma i weithio yn Cyfoeth Naturiol Cymru.

LlRh: Diolch Llion am fy ngwahodd i i drafod pethau. Dwi’n fachgen o Borthmadog yn wreiddiol. Ar ôl yr ysgol, es i i Brifysgol Aberystwyth i astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol a chael gradd yn hwnna a gradd Meistr hefyd wedyn. Ar ôl hynny, es i i Gaerdydd a chael cyfle ar ôl sbel i weithio yn y Cynulliad Cenedlaethol oedd wedi cael ei sefydlu. Ers hynny, mae fy ngyrfa i o tua 25 mlynedd wedi dilyn datblygu polisi mewn gwahanol feysydd a hefyd cysylltiadau cyhoeddus – perswadio pobl o’r polisïau hynny i’w datblygu gyda’r Llywodraeth, cymunedau gwledig, cynghorau sir ac yn y blaen.

Mae llawer o fy ngyrfa i wedi ymwneud â’r amgylchedd mewn un ffordd neu’r llall, llawer yn gweithio ar ynni adnewyddadwy a thrio perswadio’r Llywodraeth a’r gymdeithas a rhanddeiliaid i dderbyn a mabwysiadu’r dechnoleg yna er mwyn helpu’r amgylchedd a diwydiant ac economi Cymru yn y dyfodol. Hefyd, rhwng swyddi fues i’n teithio llawer o’r byd, drwy Affrica, De America, Asia, Awstralia a Seland Newydd, Gogledd America hefyd, felly drwy fy ugeiniau mi wnaeth hynny fy helpu i edrych ar y byd yn eang a deall mwy am ddatblygu cynaliadwy a’r amgylchedd mewn gwahanol lefydd dros y byd. Mi ddes i yn ôl i Gymru ac ar ôl cyfnod hir yng Nghaerdydd mi benderfynais i symud yn ôl adra i ardal Porthmadog a dechrau fy musnes fy hun. Ar ôl rhai blynyddoedd mi welais i gyfle yn Cyfoeth Naturiol Cymru a rŵan dwi wedi dod i swydd lle dwi’n edrych ar addasu’r arfordir. Mae’r arfordir yn newid wrth gwrs oherwydd newid hinsawdd, ac felly mae lefel y môr yn codi o ganlyniad i hynny ac i ddweud y gwir mae hynny’n effeithio’n uniongyrchol ar y gymuned lle dwi’n byw, oherwydd mae’r gymuned yma ar dir sydd wedi cael ei feddiannu gan y môr, felly mae o dan lefel y môr sy’n golygu ei bod o dan fwy o fygythiad wrth i lefel y môr newid unwaith eto. Felly mae’n hynod agos ata i mewn ffordd ac mae’r holl lwybrau dwi wedi’u dilyn yn dod adra at wneud y gwaith yma.

LlB: Diddorol – teithio i bedwar ban byd ond dod yn ôl adre yn y pen draw. Ac mae’n ddiddorol bod gan y ddau ohonon ni radd Gwleidyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth, felly mae’n braf gweld un arall! Cyn i ni drafod y pwnc mewn llawer o fanylder, falle y byddai’n defnyddiol dechrau gyda rhai cysyniadau a beth yw prif sylfaen y swydd. Felly yn gyffredinol, beth yw cynnydd yn lefel y môr?

LlRh: Mae’n dibynnu ar ba fodel rwyt ti’n ei ddefnyddio ac ar y lleoliad, felly dydy o ddim yn gyson i bob man, ond rydyn ni’n gwybod bod yna gynnydd yn digwydd yn lefel y môr. Mae’n un o effeithiau uniongyrchol newid hinsawdd – mae hynny’n ffaith. Dydy o ddim yn fyth neu’n rhywbeth mae rhywun yn ei ddychmygu: mae’n digwydd ac mae’n digwydd ar garlam oherwydd newid hinsawdd ac felly rydyn ni’n siarad am ychydig o ddegawdau lle bydd cymunedau o amgylch Cymru’n cael eu heffeithio. Mae yna lawer o ymdrechion i drio deall hyn a hefyd i drio mesur beth fydd y lefel gywir ond mae’n anodd iawn rhoi un ffigur. Mae’n mynd i fod yn wahanol mewn gwahanol ardaloedd a lleoliadau ond mae yna bolisi wedi bod ers talwm a sail y polisi ydy bod dealltwriaeth gan Lywodraeth Cymru a gennym ni fel Cymry na allwn ni newid yr hyn sy’n digwydd. Os wyt ti’n meddwl am chwedl y brenin Cnut yn trio gorchymyn y môr i beidio dod i mewn neu am chwedl Cantre’r Gwaelod o Gymru, mae’r chwedlau yma yn bwysig ac mae’n bwysig ein bod ni’n eu cofio ac yn cymryd gwersi ohonyn nhw. Does yna ddim newid yn codi lefel y môr a dydy’r môr ddim yn gwrando ar unrhyw orchymyn gan unrhyw ddyn neu ddynes. Mae’r ymdrechion fel cymdeithas a chenedl ac yn rhyngwladol hefyd, i beidio â gwaethygu newid hinsawdd. Ond mae’n rhaid i ni dderbyn ein bod ni’n rhy hwyr i wneud hynny. Mae’n rhaid i ni dderbyn bod newid hinsawdd yn mynd i ddigwydd dros y degawdau ac efallai’r cwpl o ganrifoedd nesaf. Ac felly’r cwestiwn mawr i ni ydy sut mae byw efo hynny, sut mae addasu, sut mae rheoli hynny a beth allwn ni ei ddylanwadu? Dyna’n sicr ydy’r prif gonsyrn efo lefel y môr yn codi, oherwydd dwi’n meddwl bod y dystiolaeth yn dangos bod lefelau’r môr yn codi’n uwch na’r hyn sydd wedi cael ei ddamcaniaethu yn y gorffennol. Felly mae yna fwy o fygythiad o ran digwyddiadau difrifol, ond hefyd ddigwyddiadau cyson, felly efallai y cawn ni storm a llifogydd un flwyddyn, bod yna fwy o stormydd yn y mynyddoedd a bod lefelau’r môr yn codi’r ochr arall felly mae’r afonydd sy’n mynd o’r mynyddoedd i’r môr yn ei chael hi mewn dwy ffordd. Maen nhw’n cael y stormydd a mwy o law yn dod i lawr yr afonydd, a gyda llanw uchel mae hynny’n gallu bod yn pinch point yn y cymunedau arfordirol sy’n gallu creu problemau. Felly mae’r digwyddiadau yma’n mynd i ddigwydd yn fwy aml a byddan nhw’n fwy difrifol, felly dyna’r hyn rydyn ni’n edrych arno i ddweud y gwir.

LlB: Gwych, diolch. Ac wrth edrych ar y syniad o addasu arfordirol a chreu cynefinoedd, beth yw’r syniadau penodol y tu ôl i’r rheini? Sut mae addasu? 

LlRh: Mae sawl ffordd o addasu. Cyfrifoldeb CNC yn gyntaf ydy amddiffyn bywyd pobl ac eiddo, felly dyna beth rydyn ni’n meddwl amdano. Felly mae’n rhaid i ni roi mwy o sylw i ardaloedd poblog ac mae’n rhaid meddwl sut allwn ni eu hamddiffyn nhw. Mae yna wahanol bolisïau ar gyfer gwahanol lefydd. Mae yna asesu ac archwiliadau ar gyfer llawer o lefydd i werthuso pa mor dda ydy’r amddiffynfeydd llifogydd sydd yna’n barod. Cyfrifoldeb CNC ydy edrych ar eu holau nhw ac ystyried eu dichonoldeb at y dyfodol. Mae’r sylw a’r buddsoddiad mwyaf yn mynd i fynd i’r cymunedau poblog lle mae’r mwyaf o bobl yn byw a lle mae’r gwasanaethau a phob dim. Mae yna lefydd eraill mwy gwledig ar yr arfordir a gallwn ni feddwl sut mae addasu i gyd-fynd efo natur. Gall hyn hefyd fod o fudd i’n hymdrechion ni i helpu’r cymunedau poblog. Felly rhywfaint o feddwl beth all natur ei wneud hefyd, ac mae yna hefyd ddyletswydd ar CNC i edrych a chwilio a darganfod llefydd a chyfleon i ni greu cynefinoedd. Hynny yw, lle mae’n addas ac yn briodol troi ychydig bach o dir yn fath gwahanol o dir. Er enghraifft, gallwn ni feddwl am dir amaeth isel sydd efallai’n gweithio’n weddol fel porfa neu fel lle i gynhyrchu silwair ar hyn o bryd ond rhaid meddwl beth arall all y tir yma fod. Fel sefydliad, rydyn ni’n edrych i greu morfeydd heli, creu cynefinoedd sydd hefyd yn helpu natur. Felly rydyn ni am wella natur hefyd gan fod yna argyfwng natur hefyd; mae yna gyfle i greu cynefinoedd sy’n helpu adar a phlanhigion a mathau eraill o fywyd gwyllt sydd yn rhan o’r ystyriaeth yn hyn oll. 

LlB: Ac fel rwyt ti wedi sôn yn barod, mae realiti’r cynnydd yn lefel y môr yn rhywbeth sy’n hysbys i ni yn barod fel rhywbeth sydd eisoes yn digwydd. Ond wrth edrych tuag at y dyfodol, sut wyt ti’n meddwl y gallai hynny effeithio ar ein gwaith ni a hefyd gymunedau Cymru yn y dyfodol?

LlRh: Dwi’n meddwl mai rhan o fy ngwaith i ydy gwneud pobl, cymunedau a rhanddeiliaid yn fwy ymwybodol o’r hyn sy’n mynd i ddigwydd a dwi’n gweld codi ymwybyddiaeth a thrafod yn rhan bwysig iawn o fy ngwaith i.  Rydyn ni yn trio trafod efo partneriaid eraill sy’n cynnwys cymunedau neu randdeiliaid, oherwydd dwi’n meddwl bod CNC yn gwneud pethau’n wahanol y dyddiau yma ac yn cydnabod nad oes gennym ni’r holl atebion a’n bod ni eisiau cyd-gynhyrchu’r atebion efo eraill. Dwi’n meddwl bod y ddyletswydd ar CNC yn drwm a bod rhaid i eraill gydnabod hynny hefyd mewn gwahanol ffyrdd. Mae’r bygythiad i gymunedau, bywydau, tai, isadeiledd, ein ffyrdd, ein rheilffyrdd, ein rhwydwaith trydan, ein rhwydwaith dŵr yn un difrifol, ac mae’n rhaid cydnabod a deall hynny. Rydyn ni yn trio deall y broblem yn gyntaf, cyn mynd ati i feddwl am opsiynau. Yn CNC, rydyn ni’n cymryd y camau yma yn gyfrifol; mae’n gallu ymddangos yn rhwystredigaeth weithiau dwi’n meddwl oherwydd rydyn ni’n trio deall y broblem yn gyntaf ein hunain cyn mynd allan i drafod ein safbwynt ni o’r broblem efo eraill. Dwi’n meddwl ei fod o’n gallu bod yn rhwystredigaeth i’n partneriaid ni weithiau o wybod ein bod ni’n edrych ar y broblem a bod nhw’n meddwl ein bod ni’n eu cau nhw allan. Dydyn ni ddim: y cam nesaf fydd hynny ac rydyn ni eisiau’r cam yna. Felly mi fydd yna lefydd lle y gwnawn ni drio dal y tir gymaint ag y gallwn ni, neu addasu i ddal y tir drwy uwchraddio’r amddiffynfeydd llifogydd. Mi fydd yna lefydd eraill lle byddwn ni’n mynd efo natur ac efallai’n creu cynefinoedd. Felly mae’n neges eithaf anodd i’w chyfleu dwi’n meddwl ond dyna pam rydyn ni yma a dyna sut dwi’n gweld fy swydd i. 

LlB: Rwyt ti wedi sôn tipyn am beth yw ein rôl ni ond hefyd bwysigrwydd rôl rhanddeiliaid eraill a chymunedau yng Nghymru. Allet ti ddweud ychydig mwy am gynlluniau rheoli traethlin yng Nghymru?

LlRh: Gallaf. Mae Cynlluniau Traethlin dros arfordir Cymru gyfan, SMP2 fyddai’r acronym fyddech chi’n ei weld. Mae pob rhan o Gymru o dan uned o’r Cynllun Traethlin ac mae hynny’n golygu fod pob rhan neu uned yn wahanol i’w gilydd. Yr hyn sy’n ddiddorol gyda’r Cynllun Traethlin, yr ymgais ers ei greu tua degawd yn ôl ydy meddwl beth sy’n mynd i ddigwydd i bob rhan o’r arfordir, felly dyna pam mae pob rhan o’r arfordir yn cael ei gweld yn wahanol. Mae yna gyfnodau, neu’r hyn sy’n cael ei alw’n epochs, efo pob rhan o’r arfordir, ac mae’r cyfnod nesaf fel mae’n digwydd yn dechrau yn 2025. Mae llawer o’r darnau yma o’r arfordir yn mynd i newid o’r hyn rydyn ni’n disgwyl gorfod ei wneud i’r lleoliad yma neu’r lleoliad arall. Efo trefi a chymunedau mawr arfordirol, mae disgwyl i ni eu hamddiffyn nhw gymaint ag y gallwn ni, ond mae’r amddiffyniad yna’r gorfod golygu edrych ar yr asedau sydd gennym ni sy’n amddiffyn yr arfordir a rhag yr afonydd yn barod, a meddwl sut allwn ni addasu’r rhain i fod yn fwy cydnerth ar gyfer y dyfodol, yn enwedig os ydyn nhw wedi heneiddio ac nad ydyn nhw mor effeithiol bellach. Mae rhai ardaloedd eraill ar yr arfordir lle bydd rhaid penderfynu: mae’r polisi’n newid mewn rhai llefydd i beidio ag amddiffyn gymaint, addasu gyda beth sy’n mynd i ddigwydd. Gallai hyd yn oed olygu peidio â gweithredu o gwbl. Felly mae’r rhain yn benderfyniadau mawr ac mae llawer o gyfrifoldeb ar ysgwyddau CNC ac mae’n rhaid eu gwneud ac oherwydd bod cyfnod newydd yn dod, mae’n hynod o gyfredol i’r amser yma. Mae’r cyfnod wedyn yn para tua 50 mlynedd ac mae’r llall yn para tua 100 mlynedd. Ond rŵan mae’r cyfnod nesaf yn ein hwynebu ni. 

LlB: Diddorol. Rwyt ti wedi sôn tipyn am sut mae angen edrych ar wahanol rannau o’r arfordir mewn ffordd wahanol a gyda rhai, y bydd tipyn o waith i drio cadw’r amddiffyniad ond gyda eraill, yn anffodus neu yn anochel hyd yn oed, bydd angen cymryd cam yn ôl efallai. Mae hwnna’n amlwg yn bwnc llosg ac mae hefyd yn un emosiynol iawn, felly wrth ymgysylltu â’r cyhoedd neu randdeiliaid, alla i ddychmygu fod hwnna’n eithaf heriol ac mae’n rhaid fod gennym ni’r dystiolaeth a’r ffeithiau yn barod iawn a’n bod ni mor sicr ag y gallwn ni fod. Pa mor bwysig yw’r gwaith o gael y dystiolaeth a’r ffeithiau wrth gael y trafodaethau yma?

LlRh: Yn sicr, dyna pam mae gan CNC ryw gynllun ac maen nhw’n gorfod. Mae’r cynllun wedi cael ei lunio gan y Llywodraeth fel ein bod ni’n gorfod mynd drwy’r camau yma o wybod beth sy’n digwydd gymaint ag y gallwn ni drwy fodelu, drwy edrych ar y radar i weld sut mae’r tir a thrio meddwl beth sy’n debygol o ddigwydd. Wrth gwrs, gallwn ni drio defnyddio cymaint o ddata ag y gallwn ni a dyna beth rydyn ni’n trio ei wneud, trio cael y modelu mor gywir â phosib, ond wrth gwrs gan gydnabod na allwn ni gael popeth yn gywir. Mi ydyn ni’n mynd i gael rhai pethau yn anghywir efallai, oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod yn union sut mae’r dyfodol yn mynd i fod a beth mae’r tywydd a’r hinsawdd yn mynd i’w wneud. Mae o wrth gwrs yn bwnc emosiynol iawn ac rydyn ni’n cydnabod hynny ac mae yna gymunedau dan fygythiad. Felly rydyn ni’n trio cyd-gynhyrchu opsiynau ac atebion i raddau, felly rydyn ni’n mynd drwy’r broses ac mae’n broses hir a dwi’n meddwl fod yna rwystredigaeth oherwydd ein bod ni’n cychwyn ar y broses yn trio diffinio beth ydy’r broblem, beth ydy lefel y risg, i ni ddeall hyn yn gyntaf. Ond wedyn y bwriad ydy mynd i’r cymunedau a mynd at randdeiliaid a thrafod i weld beth ydy’r opsiynau fel ein bod ni’n gallu llunio rhestr hir o opsiynau ac efallai fod y rhestr honno’n cynnwys popeth y gallwn ni feddwl amdano, yn cynnwys opsiwn B efo opsiwn Dd efallai, felly cyfuniad o opsiynau. Mae yna broses wedyn o asesu’r opsiynau yna, eu prisio nhw, gweld beth ydy’r effaith a’r sgil-effeithiau nad ydyn ni efallai’n eu hystyried, felly beth ydy canlyniadau anfwriadol yr opsiynau hynny, a wedyn dod â nhw i lawr i restr fer o opsiynau er mwyn trafod ac ymgynghori unwaith eto gyda rhanddeiliaid a’r gymuned. Wedyn yn y pen draw, gallwn ni ddod at opsiwn a ffefrir a thrio dod o hyd i’r cyllid i weithredu hwnna. Felly mae’r mynd drwy gamau, ara’ deg efallai, ond gofalus a threiddgar i edrych ar beth sy’n digwydd a beth ydy’r opsiynau a beth sy’n mynd i bara oherwydd rydyn ni’n siarad am ddegawdau fan hyn, nid ateb syml dros dro. Rydyn ni eisiau gwybod fod cenedlaethau’r dyfodol yn ddiogel hefyd.

LlB: Mae hwnna’n bwynt pwysig iawn. Fel oeddet ti’n ei ddweud, mae angen gweithio’n agos gydag unrhyw gymuned gydag unrhyw fath o brosiect fel hyn. Pa fath o dimau a pha fath o ddata sy’n mynd i mewn i lywio’r math yma o gynlluniau?

LlRh: Mae gan bob prosiect reolwr a swyddog gweithredol. Mae CNC yn sefydliad eang iawn efo llawer iawn o gyfrifoldebau ac un o’r sialensau mwyaf ydy gwneud yn siŵr ein bod ni’n cydgysylltu efo’n gilydd, a siarad efo pawb sydd â diddordeb yn fewnol yn CNC. Dyna un o fy nyletswyddau i: gwneud yn sicr ein bod ni’n siarad fel lle – dwi wedi cael fy lleoli yn y gogledd-orllewin ond mae yna lefydd eraill. Mae gennym ni dimoedd amgylcheddol, timoedd sy’n edrych ar ansawdd dŵr ac ar lefelau llifogydd a llifoedd mewn afonydd, felly mae’n rhaid cydgysylltu popeth ac mae’n dipyn o sialens gwneud hynny. 

LlB: Diolch Llew a diolch am siarad gyda fi heddi. Mae’n amlwg bod tipyn o waith o’n blaenau ni ond dwi’n siŵr ein bod ni’n barod iawn i’w wneud e. Un cwestiwn olaf cyn i ni orffen heddi, beth yw dy hoff ran o dy waith? Rwyt ti wedi sôn am sawl gwahanol fath o beth ond beth sy’n dy gael di mas o’r gwely yn y bore i ddechrau gweithio?

LlRh: Efo’r swydd yma, dwi’n meddwl mai’r cyfrifoldeb a’r angen i wneud gwahaniaeth a chodi ymwybyddiaeth am yr hyn sydd i ddod. Dwi’n digwydd byw ym Mhorthmadog ac mae un o’n prosiectau mwyaf ni ym Mhorthmadog. Felly mae lefel y risg a’r wybodaeth dwi’n ei chael yn fy nychryn i ac wrth gwrs dwi hefyd yn ymwneud efo’r gymuned, dwi’n gadeirydd cyngor y dref, dwi’n gwneud tipyn efo’r gymuned, felly heblaw am unrhyw beth arall mae o ar fy stepen drws i. Felly mae’r ysgogiad i drio gwneud i bobl a’r gymuned ddeall a siarad efo rhanddeiliaid ond hefyd edrych i mewn i’r opsiynau ac astudio’r atebion posib sydd gennym ni. Dwi’n meddwl mai dyna sydd yn fy ngyrru i ymlaen a hefyd dwi’n mwynhau y gwaith dwi’n ei wneud – fy nghefndir i ydy gweithio efo rhanddeiliaid a chymunedau ac felly mae’n naturiol i fi a dwi’n hoffi ei wneud o a dwi’n credu’n gryf bod angen i CNC wneud ei waith yn broffesiynol ac yn dda ac i safon uchel a dwi’n meddwl mai dyna sy’n fy ysgogi i yn y bore.

LlB: Gwych. Diolch yn fawr Llew.

LlB: Dwi’n gobeithio eich bod wedi mwynhau’r bennod hon. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau, gallwch gysylltu â ni ar Facebook, Twitter neu Instagram neu drwy’r cyfeiriad e-bost sydd yn nodiadau’r sioe yma. Fe welwch hefyd ddolenni i’n tudalennau gwe ar reoli perygl llifogydd gallwch weld rhai o’r pethau wnaethon ni sôn amdanyn nhw yma heddi. 

Diolch am wrando.