Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru

3. Rheoli Risg Llifogydd yn Naturiol

October 16, 2023 Cyfoeth Naturiol Cymru Season 2 Episode 3
Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru
3. Rheoli Risg Llifogydd yn Naturiol
Show Notes Transcript

Yn y gyfres hon, byddwch yn clywed gan wahanol dimau Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gweithio gyda’i gilydd i leihau'r perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru.

Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw'r perygl o lifogydd, yr hyn yr ydym yn ei wneud i'w reoli yng Nghymru, a pha effaith y mae'r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.

·       Tudalennau Gwe Rheoli Perygl Llifogydd

·       Atebion sy’n seiliedig ar natur ar gyfer rheoli arfordirol

·       Cynlluniau Rheoli Traethlin

·       Cronfa Ddata Cenedlaethol Asedau Llifogydd

·       Rhybuddion llifogydd

·       Gwirio lefelau'r afonydd, glawiad a data môr

·       Rhagolygon perygl llifogydd 5 diwrnod

·       Gwiriwch eich perygl llifogydd ar fap (Map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru)

·       Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio / Datblygu Cyngor

·       Swyddi, prentisiaethau a lleoliadau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau ar unrhyw beth a gwmpesir yn y gyfres podlediad hon, cysylltwch â ni ar FloodRiskManagement.Strategic@naturalresourceswales.gov.uk

LlB:Helo a chroeso i gyfres fach hon o bodlediadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar reoli perygl llifogydd. Fy enw i yw Llion Bevan ac rwy’n gweithio fel Uwch Swyddog Cyfathrebu i Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn y gyfres hon, byddwch yn clywed am y gwahanol dimau sy’n gweithio gyda’i gilydd i leihau’r perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru. Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw perygl llifogydd, beth rydym ni’n ei wneud i reoli’r risg yng Nghymru, a pha effaith mae’r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. 

 

Helo. Croeso i Bennod 3 yn y gyfres fach o bodlediadau ar leihau’r perygl o lifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Nia Williams, Uwch Swyddog yn nhîm Pobl a Lleoedd Gogledd Orllewin Cymru sy’n ymuno gyda mi heddi i siarad am reoli llifogydd yn naturiol. Croeso Nia a diolch yn fawr am ymuno gyda fi

 

NW: Wel, diolch yn fawr am y gwahoddiad!

 

LlB: I ddechrau, bydde yn dda i glywed am dy gefndir a sut ddes di i weithio yn y maes yma?

 

NW: Wel, Na i jyst deud helo i bawb. Nia ydw i a dwi’n gweithio fel roeddet ti’n son yn nhîm Pobl a Lleoedd Gogledd Orllewin Cymru. Dwi wedi bod yn gweithio yn y maes ers amser hir iawn. Nes i ymuno gyda Asiantaeth yr Amgylchedd yn Gaerdydd yn 2000 ac oedd gen i swydd ym maes materion cyhoeddus ac ro ni’n monitro gwaith y Cynulliad pryd hynny. Roedd o’n ddifyr iawn achos y Cynulliad yn newydd i gyd ac wedyn yn 2005 nes i symud i weithio yn Cyngor Cefn Gwlad i weithio ar llunio polisïau lleol. Ac adeg hynny nes i ddod i ddeall mwy am lifogydd a sut oedd o’n effeithio ar bobl. Gan bo fi’n dod yn wreiddiol o Ogledd Cymru, yn 2012 ges i’r cyfle i symud nol i fyny i’r Gogledd – i Fangor - gyda’r Cyngor Cefn Gwlad – pan ro ni yn gweithio ar waith mwy strategol ar gynllunio. Wedyn ddaru ni ddatblygu i fod yn Cyfoeth Naturiol Cymru, ac ers hynny ma na lot o Ddeddfau newydd wedi eu creu yng Nghymru – sef Deddf yr Amgylchedd a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae fy ngwaith i, a’r tim Pobl a Lleoedd wedi datblygu o rheina mewn ffordd. A dyna ydy fy mhrif swydd i rwan  - sef gwneud yn siŵr bod y Deddfau yna yn cael eu gweithredu yn y Gogledd Orllewin.

 

LlB: Diolch i ti. Podlediad am reoli llifogydd yn naturiol ydy hwn. Allet ti esbonio beth ydy rheoli llifogydd yn naturiol a pan fod angen e?

 

NW: Un ffordd de ni yn gallu gwrthdroi y dirywiad mewn bioamrywiaeth a mynd i’r afael â heriau newid hinsawdd ydy defnyddio mwy o atebion sy’n seiliedig ar natur. Un o’r pethau de ni neud yn y Gogledd Orllewin ydy gweithio ar raddfa dalgylch gyfan. De ni neud hyn ar hyn o bryd yn Ynys Môn a Dyffryn Conwy a de ni wedi sefydlu partneriaethau gyda lot o wahanol rhanddeiliaid yn yr ardaloedd yma. “Llifo” de ni’n galw’r ffrwd gwaith yma yn y Gogledd Orllewin a mae o’n tynnu gwaith Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, Datganiadau Ardal a gwaith sy’n dod allan o’r Dalgylchoedd Cyfle at ei gilydd mewn Lle. 

 

Un peth de ni gwneud rŵan ydy sbio ar y dalgylch cyfan a trio edrych ar yr heriau sy’n wynebu natur a’r argyfwng hinsawdd run pryd. Fel ti’n gwybod, yn ardal Dyffryn Conwy, mae nhw wedi cael llifogydd ofnadwy yn ddiweddar yn ardal Llanrwst, ac un o’r prif flaenoriaethau o ddaeth allan yn y Datganiad Ardal oedd yr angen i fynd i’r afael â llifogydd yn enwedig yn yr ardal yna.

 

Un o’r pethau de ni yn meddwl gwneud mwy o waith arno ydy adfer mewndiroedd, trwy wneud pethau fel rhwystro ffosydd, ail ddyfrhau cynefinoedd mawndir a chorsydd sydd yn arwain at fwy o storfeydd dŵr a charbon hefyd. Ma hynna yn rhywbeth de ni yn sbio i wneud yn yr ardal. Hefyd plannu mwy o goed yn yr ucheldiroedd ac ail osod gwrychoedd. Mae pethau fel yn i gyd yn helpu i leihau peryglon llifogydd a hefyd cefnogi cadwraeth bioamrywiaeth a cysylltu cynefinoedd gyda’u gilydd. Enghraifft o brosiect fel hyn yn y Gogledd Orllewin ydy Prosiect Uwch Conwy sydd yn mynd i’r afael ac effeithiau newid hinsawdd a cholledion natur yn yn yr ardal a dalgylch Afon Conwy er lles pobl a natur. Ma nhw wedi bod yn gweithio yn agos iawn gyda cymunedau, sefydliadau gwahanol a thirfeddianwyr. Mae hyn yn bwysig iawn yn y math yma o waith achos heb iddyn nhw weithio efo ni. Mae bron yn amhosib i ni wneud y gwaith mewn ffordd. Mae nhw wedi bod yn gwneud gwaith fel plannu coed, adfer mewndir ac ail gysylltu’r gorlifdir. Mae nhw hefyd wedi adfer afonydd a gadael iddyn nhw gael lle i orlifo sydd yn helpu wedyn efo’r system llifogydd i lawr yr afon. Ma na lot o bethe difyr yn mynd yn eu blaen yn y Gogledd Orllewin!

 

LlB: Wyt ti’n gallu rhoi rhai enghreifftiau o bethau y gall bobl wneud i atal llifogydd a beth yw’r syniadaeth tu ôl ei wneud yn naturiol?

 

NW: Wel y syniad tu ôl ei wneud yn naturiol mewn ffordd ydy eich bod chi angen dau approach – un falle mwy caled on hefyd un mwy naturiol. Mae angen i’r ddau weithio gyda’u gilydd. Mae’r adfer naturiol yn rhoi cymaint o fuddiant i natur  - ma hynna yn bwysig iawn, ond dio ddim yn unig am atal dŵr. Wrth wella mewndir de ni hefyd yn gwella storfeydd carbon sydd yn dda iawn gyda’r targedau newid hinsawdd. Mae’n rhaid i ti weithio efo’r ddau ddull mewn ffordd iddo weithio a hefyd gweithio ar y dalgylch gyfan. Mae’n siŵr amser maith yn ôl doedd hyn ddim yn digwydd, ond dyna sydd yn digwydd rŵan a de ni yn gweithio mewn partneriaeth ar hyd yr afon nid mewn un ardal penodol.

 

LlB: Felly mae e’n fater o edrych arno mewn dalgylch i stopio llifogydd mewn tref neu bentref penodol, efallai mae mater o roi rhyw fath o ymyrraeth Naturiol lan yr afon yw’r ateb?

 

NW: Ie, a dyma ma nhw wedio trio neud efo’r Prosiect Uwch Conwy mewn ffordd. Ma nhw wedi plannu miloedd o goed fyny yn yr ucheldir, a ma hyn fel rhwng “sponge” y natal y llif rhag mynd I lawr ochrau’r mynyddoedd mor sydyn. Mae hynna’n atal y dŵr rhag cyrraedd yr afon mor sydyn. A thrwy agor rhai o’r llefydd oedd yn arfer llifogi ond sydd wedi eu cau mewn, a chael yr afon i lifo fel oedden nhw yn arfer y llifo – y flood plains. Ma nhw yn agor rheina allan a wedyn ma gan yr afon le i ehangu pan mae na lot o law yn lle bod y dŵr yn mynd lawr yr afon yn fwy sydyn. Mae hyn yn gwneud pob dim i fod yn fwy ara deg mewn ffordd. 

 

LlB: Mae’n ddiddorol yn nag yw e – ma atal llifogydd yn naturiol bron a bod yn golygu weithiau galluogi gorlifo mewn llefydd sydd ddim yn heriol i gymunedau. Ac arafu popeth i lawr cyn mynd i gymunedau. Mae tipyn o drafodaeth wedi bod yn barod ar y podlediad yma am yr argyfwng hinsawdd, allet ti esbonio ychydig am sut mae’r argyfwng hinsawdd yn effeithio ar dy waith di?

 

NW: Dwi’n gwneud lot o waith efo Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn benodol un Gwynedd a Môn a Chonwy a Dinbych ac ar hyn o bryd de ni’n ail-ysgrifennu cynlluniau llesiant i’r ardaloedd. Mae hyn wedi digwydd pum mlynedd yn ôl ac de ni’n ail wneud y broses rŵan. Ma nhw yn dod i derfyn – jyst cadarnhau y rhai newydd, ac yn wahanol iawn i’r rhai cyntaf oedd gennym ni pum mlynedd yn ôl mae’r argyfyngau natur a hinsawdd lot mwy uchel i fyny fel blaenoriaeth rŵan. Mae pobl yn deall y pwysigrwydd a’r effaith ma hyn yn cael ar eu cymunedau, ac un peth de ni’n annog y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i wneud, gyda’r partneriaid sy’n eistedd rownd y byrddau, ydy asesiad risg o newid hinsawdd yn eu hardaloedd fel eu bod yn deall pa bentrefi – nid yn unig rhai wrth ymyl afon – ond hefyd rhai arfordirol sydd dan y bygythiad mwyaf o newid hinsawdd. Mae o yn digwydd ar raddfa lot mwy sydyn nac oedd pobl wedi disgwyl, yn enwedig yn y Gogledd Orllewin. Ma gennon ni lot o bentrefi sydd reit isel ac o dan lefel y môr a ma nhw o dan fygythiad mawr. De ni yn edrych am atebion o natur ar sut y medrwn ni helpu nhw hefyd – pethau fel twyni tywod. Mae na lot o erydu arfordirol yn digwydd hefyd sydd yn broses naturiol ond yn bygwth lot o bentrefi yn yr ardal. Lot o bethau’n digwydd! Ond os ydyn ni’n cael asesiad risg i gychwyn, bydde o fudd mawr i’r Byrddau Gwasanaethu Cyhoeddus i wybod yn union pa ardaloedd i ganolbwyntio arno, ar frys.

 

LlB: A beth yw’r cyfloedd ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol yng Nhymru?

 

NW: Ma na sefydliadau penodol sy’n rheoli risg rhag llifogydd sef Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdodau Lleol. Mae gennon nhw rôl penodol mewn rheoli risg. Ond pan de ni’n sbio ar risg llifogydd mae o lot mwy eang na jyst gweithio efo nhw. De ni yn gweithio’n agos efo’r sector iechyd, y sector cyhoeddus mewn ffordd, achos pan mae na lifogydd effeithio ar bobl a chartrefi ma nhw. Mae rhai ardaloedd o dan gymaint o fygythiad, mae eisiau meddwl am lle bydde’r bobl yn cael eu ail-gartrefu os byddai trychineb ofnadwy yn digwydd yn yr ardal. De ni wedi gwneud lot o waith efo Housing Associations lleol, a sbio lle bydde ni yn gallu ail gartrefi pobl dros dro. Mae’r sgwrs yn un eang iawn. Mae o lot mwy na sefydliadau amgylcheddol.

 

LlB: Mae o’n her fawr. A allwn ni yn Cyfoeth Naturiol Cymru fynd i’r afael â hyn ar ben ein hunain neu oes angen rhywfaint o help arnon ni a gweithio gyda pobl arall?

 

NW: Mae o’n bwysig ofnadwy ein bod ni’n gweithio gyda bobl eraill. Allwn ni ddim taclo y fath argyfwng ar ben ein hun. Mae o’n rhywbeth enfawr i’w daclo. Dwi’n meddwl mai un o'r prif bethau de ni angen gwneud ydy gweithio yn agos iawn – pan mae’n dod i atebion yn seiliedig ar natur ydy gweithio gyda ffermwyr. Mae 80% o dir Cymru yn cael ei ffermio, a mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli 10%. Ac er y gallwn ni wneud pethau ar ein tir    ein hunain, ond mae’n rhaid i ni weithio yn agos iawn gyda ffermwyr, yn enwedig ffermwyr sydd gyda tir mewn dalgylchoedd sydd dan fygythiad, i weld sut y gallwn ni weithio gyda’n gilydd i ddod i fyny gydag atebion sy’n seiliedig ar natur, sy’n gweithio i ffermwyr a’r cymunedau lleol. Mae o’n anodd iawn meddwl weithiau am adael tir ffrwythlon, da i fynd o dan ddŵr pan mae na lifogydd, ond dyna ydy’r sgwrs anodd sydd angen i’w chael gyda ffermwyr. Un peth de ni yn gwneud hefyd ydy gweithio lot mwy agos efo cymunedau – siarad efo nhw, trio deall y straeon sydd ganddyn nhw i’w dweud. Mae’n bwys iawn gweithio efo nhw. Ac fel dwi wedi sôn, gweithio efo rhanddeiliaid a bobl proffesiynol. Mae’n bwysig iawn do â pawb at eu gilydd a siarad. Dwi meddwl bod y Scheme Ffermio Cynaliadwy newydd – y bydd ganddyn nhw bwyslais ar ariannu pethau yn y maes yma. Mae gennyn nhw ffrwd arian yn benodol ar sut y gallwn ni ddod i fyny efo atebion yn seiliedig ar natur, sydd yn beth positif iawn dwi’n meddwl hefyd.

 

LlB: Ydy wir. Mae wedi bod yn dda iawn clywed am yr holl waith cadarnhaol sy’n digwydd yn y maes yma. Cyn i ni gau’r pennod am heddi, ni’n hoffi gofyn i bobl beth yw ei hoff rhan o’u swydd nhw. Beth sy’n cael ri i neidio mas o’r gwely yn y bore a dod i’r gwaith?

 

NW: Mae na lot o bethau! Mae’r ardal dwi’n gweithio ynddi yn brydferth iawn i gychwyn, ond dwi yn licio siarad, dwi’n licio gweithio gyda partneriaid a dwi’n meddwl fel sefydliad ma na lot o arbenigedd tu mewn i Cyfoeth Naturiol Cymru, ond mewn ffordd mae’r cymunedau a’r bobl sy’n gweithio’n agos iawn efo cymunedau yn aml iawn efo’r atebion sy’n mynd i weithio’n lleol. Mae’n bwysig iawn gweithio efo nhw a de ni yn trio gwneud mwy o hyn yng Ngogledd Orllewin Cymru, sef gweithio efo “gatekeepers”, sy’n gweithio efo cymunedau a chael nhw i wneud lot o’r gwaith ymgysylltu ar ein rhan ni. Mae’n ddifyr ofnadwy gweithio efo nhw a deall y straeon a’r problemau mae’r cymunedau yn do ar eu traws o dydd i ddydd. Mewn ffordd i fi y gwaith diddorol ydy gweithio efo partneriaid, a trio gwneud gwaith arloesol a gwneud pethau gwahanol iawn efo cymunedau. Yn aml iawn ma cymunedau really eisiau helpu a bod yn rhan o ddatrys y broblem. Ma’n grêt cael clywed eu lleisiau nhw. Digon i wneud eniwe!

 

LlB: Os, os. Gwych, diolch am dy amser di heddi.

 

NW: Diolch yn fawr am y cyfle i siarad!

 

 

LlB: Dwi'n gobeithio eich bod wedi mwynhau’r bennod hon. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu gwestiynau, gallwch chi gysylltu â ni ar Facebook, Twitter neu Instagram neu drwy’r cyfeiriad e-bost sydd yn nodiadau'r sioe yma. Fe welwch hefyd hefyd dolenni i'n tudalennau gwe ar reoli perygl llifogydd lle gallwch weld rhai o'r pethau ‘dy ni wedi sôn am yma heddiw.

 

Diolch am wrando!