Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru

4. Y Rhaglen Gyfalaf

October 16, 2023 Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru
4. Y Rhaglen Gyfalaf
Show Notes Transcript

Yn y gyfres hon, byddwch yn clywed gan wahanol dimau Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gweithio gyda’i gilydd i leihau'r perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru.

Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw'r perygl o lifogydd, yr hyn yr ydym yn ei wneud i'w reoli yng Nghymru, a pha effaith y mae'r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.

·       Tudalennau Gwe Rheoli Perygl Llifogydd

·       Atebion sy’n seiliedig ar natur ar gyfer rheoli arfordirol

·       Cynlluniau Rheoli Traethlin

·       Cronfa Ddata Cenedlaethol Asedau Llifogydd

·       Rhybuddion llifogydd

·       Gwirio lefelau'r afonydd, glawiad a data môr

·       Rhagolygon perygl llifogydd 5 diwrnod

·       Gwiriwch eich perygl llifogydd ar fap (Map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru)

·       Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio / Datblygu Cyngor

·       Swyddi, prentisiaethau a lleoliadau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau ar unrhyw beth a gwmpesir yn y gyfres podlediad hon, cysylltwch â ni ar FloodRiskManagement.Strategic@naturalresourceswales.gov.uk

LLB: Helo ’na a chroeso i gyfres fach podlediad Cyfoeth Naturiol Cymru ar Reoli Perygl Llifogydd! Fy enw i yw Llion Bevan a dwi’n gweithio fel Uwch Swyddog Cyfathrebu i Gyfoeth Naturiol Cymru. 

Yn y gyfres fach hon byddwch yn clywed gan y gwahanol dimau sy'n gweithio gyda'i gilydd i leihau'r perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru. Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw perygl llifogydd, beth rydyn ni’n ei wneud i reoli’r risg yng Nghymru, a pha effaith mae’r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol. 

Helo a chroeso i bennod 4 o’r gyfres fach ar Reoli Perygl Llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru! Heddiw, mae Dafydd Sidgwick yn ymuno â fi, ac mae e’n mynd i siarad â ni am ein rhaglen gyfalaf – y rhaglen sy’n gyfrifol am adeiladu ein hasedau rheoli perygl llifogydd. 

Croeso Dafydd a diolch am roi o dy amser i siarad gyda fi heddiw. I ddechrau, alli di ddweud ychydig i fi am dy gefndir? Dy addysg, llwybr gyrfa, sut ddest ti i reoli'r rhaglen gyfalaf?

DS: Ie... ’swn i wastad yn mwynhau Daearyddiaeth a Mathemateg yn yr ysgol, so nes i astudio Daearyddiaeth, Mathemateg a Ffiseg fel pynciau Lefel A. Wedyn o’n i’n awyddus i fynd i’r brifysgol i astudio rhyw fath o Ddaearyddiaeth. Fy mhrif nod ar y pryd oedd mynd i Brifysgol Caerdydd. Ddim yn rhy bell, ond yn ddigon pell o gartref. Aberystwyth a Lerpwl oedd fy opsiynau eraill, ond o’n i rili moyn mynd i Gaerdydd. So, nes i edrych pa gyrsiau oedd Prifysgol Caerdydd yn eu cynnig yn hytrach na chwilio am gwrs penodol a wedyn gweld pa brifysgolion oedd yn ei gynnig. 

O’dd cwrs Daearyddiaeth Forol ar gael yng Nghaerdydd, yn yr adran Gwyddorau Daear – so hwnna es i am. Ces i’r graddau o’dd eu heisiau, a es i i Gaerdydd i astudio. Roedd y flwyddyn gyntaf mwy fel Cwrs Gwyddorau Daear – Geology te – ac o’n i ddim yn lico fe o gwbwl. Wedyn yn yr ail a’r drydedd flwyddyn droiodd e mewn i fwy o stwff fel Daearyddiaeth Forol – nes i joio hwnna. Serch hynny, ar ôl gorffen yn y brifysgol, o’n i ddim wir yn gweld fy hun yn defnyddio’r pwnc – oni wedi ca’l digon, o’n i moyn neud rhwbeth hollol wahanol. 

Ond realiti wedyn... ar ôl dwy flynedd o jobs dros dro ac am ryw reswm o’n i’n ffansio bod yn ddyn camera – ond nath hynna ddim gweithio -  so nesi ailfeddwl a dechrau meddwl mwy am yr hirdymor. So nes i ddechre meddwl falle dylen i ddefnyddio’r radd o’dd ’da fi. 

Gwelais i swyddi’n cael eu hysbysebu gydag Asiantaeth yr Amgylchedd. O’n i wedi clywed sôn amdano – o’n i’n gwbod bod e’n sefydliad mawr. Sai’n siŵr sut o’n i’n gwybod – o’n i ddim yn adnabod unrhyw un oedd yn gweithio iddyn nhw na dim byd fel ’ny – jyst wedi clywed amdano, gweld y faniau rownd lle – o’n i’n gwbod bo nhw’n sefydliad eitha mawr. So nes i feddwl na’i drio gweld os oedd swyddi gyda nhw.

Nes i drio am gwpwl o swyddi mewn gwahanol lefydd, a chal cynnig dwy swydd. Un mewn diwydiant ac un gydag Asiantaeth yr Amgylchedd. O’dd y swydd mewn diwydiant yn cynnig ychydig mwy o arian, ond ar y pryd o’n i jyst yn meddwl... mewn sefydliad llywodraeth... o’n i’n meddwl y byddai amodau gwaith da, a mwy o gyfleoedd i symud rownd a mwy o job security... so es i am hynna.

So ges i job yn yr adran Trwyddedau Ansawdd Dŵr. Alla’i ddim dweud fy mod i wedi fy nenu'n arbennig at y rôl yna, o’n i moyn cal mewn i’r cwmni fel petai... cal troed mewn... gweld be allen i neud.... so nes i hynna am tua blwyddyn, wedyn nes i symud i gael swydd gyda'r tîm Hydrometreg a Thelemetreg. O’n i’n rili lico hynna ac o’n i yna am tua chwe blynedd. 

Ar ôl chwe blynedd, meddylies i nad oedd lot o gyfleoedd i wella fy hun a symud mlaen, so nes i drïo ffindo swydd arall lle bydde mwy o gyfleoedd i symud lan y rhengoedd. Symudais felly draw i'r adran Rheoli Perygl Llifogydd, a fi wedi bod yma ers rhyw saith mlynedd nawr. Yn ystod y cyfnod hwnnw symudais i o Gaerdydd lan i ogledd Cymru. Mantais enfawr i fi oedd gallu ’neud hynna – ma’n anodd meddwl.... ar ôl Covid nawr, ma pawb yn gweithio adre’, s’dim lot o ots lle ti’n gweithio... ond cyn Covid o’dd neb rili’n gallu neud hynna.... lwcus iawn ges i gadw’r un job wrth symud o Gaerdydd i’r Gogledd. So, ie, ma’ hynna’n un o’r manteision o weithio i gwmni mor fawr, â swyddfeydd bobman... chi’n gallu symud rownd. A dyna lle ydwi nawr, rili.

LLB: Ac a oedd wastad ’da ti ddiddordeb yn yr amgylchedd, neu mewn rheoli dŵr? 

DS: O’n i wastad yn lico Daearyddiaeth yn yr ysgol. Tan i fi ddechre’r cwrs [gradd], o’n i heb rili wneud lot da’r agweddau dŵr... ar ôl gwneud y radd oni’n neud lot mwy o stwff amgylcheddol a rheoli dŵr. 

O ran fy swydd nawr – llifogydd. Nes i ddim astudio unrhyw beth am lifogydd yn yr ysgol. Astudiais i Ddaearyddiaeth rhwng 11 ac 21 oed a wnes i ddim un modiwl ar lifogydd. Na’i gyd o’dd hi yn yr ysgol o’dd dysgu am yr Amazon, corwyntoedd a llosgfynyddoedd a phethe fyl’na... a dyna pam fi'n credu bod podlediad fel hwn yn syniad da i helpu pobl i ddysgu am berygl llifogydd yng Nghymru.

Astudiais i un neu ddau o fodiwlau yn y brifysgol fi’n defnyddio yn fy swydd nawr... ond ar y cyfan, o’dd dim lot yn berthnasol... O edrych yn ôl, fi’n credu bydde dysgu am lifogydd a sut ma’n nhw’n cael eu rheoli wedi bod lot mwy perthnasol a diddorol na dysgu am lava a beth bynnag arall. 

Ma’ gweithio i Asiantaeth yr Amgylchedd, a nawr Cyfoeth Naturiol Cymru, yn bendant wedi ennyn mwy o ddiddordeb ynof i yn yr amgylchedd a dŵr yn benodol. O’n i ddim yn meddwl lot amdano cyn ymuno! Ond ma’ lot mwy o ddiddordeb ’da fi nawr bo’ fi’n gwybod mwy am y pwnc.

Yn y swydd flaenorol, yn y tîm Hydrometreg, ces i ddealltwriaeth wych o sut mae dŵr yn cael ei reoli a’i fonitro, sut mae data’n cael ei ddefnyddio.... A wedyn, o symud i faes llifogydd, ces i fwy o wybodaeth benodol am sut mae data yn cael ei ddefnyddio. Cyn dachre, allen i ddim gweud bo lot o ddiddordeb ’da fi... ond ar ôl cwpwl o flynyddoedd yn gweithio fan hyn, ma hynna wedi newid. 

LLB: Felly beth yw dy swydd di ar hyn o bryd? Beth yw’r prif agweddau ohono fe.

DS: Ma lot o be fi’n neud nawr lot i neud ’da arian, rili.... yn yr adran llifogydd, os oes ishe arian ar unrhyw un, ni – tîm fi, fy swydd i – sy’n delio â’r ceisiadau i gyd. Ni’n gweithio â bob math o bobol. Unrhyw beth i neud da llifogydd – ma’n glanio ar fy nesg i. 

Adeiladu amddiffynfeydd newydd... systemau modelu newydd... unrhyw beth i neud da llifogydd, fi’n darllen beth ma’r timau moyn neud a fi’n penderfynu pwy sy’n cal yr arian. Ma’n ddiddorol – fi’n cal gwitho gyda lot o wahanol bobol.

LLB: O, da iawn. Mae’r rhaglen gyfalaf yn amlwg yn bwysig iawn, ond dyw e ddim yn derm bydd llawer yn gyfarwydd ag e, alli di esbonio ’chydig am beth yw’r rhaglen gyfalaf? 

DS: Ie ie.... fel pawb arall o’n i’n tueddu i feddwl taw arian yw arian. Ond yn fy swydd i, fi di dysgu bo gwahanol fath o arian. 

Mae dau gwahanol beth: refeniw a chyfalaf.... capital.  Y gwahaniaeth, rili, yw: refeniw yw arian o ddydd i ddydd – pethe chi’n neud trwy’r amser – a wedyn ma cyfalaf fwy i neud ’da prosiectau – os ydech chi’n adeiladu rhywbeth penodol gyda’r arian. 

Y ffordd hawsa’ i ddisgrifio fe yw: adeiladu wal lifogydd i amddiffyn cant o dai – chi’n gwario pum miliwn i adeiladu’r wal... wel, arian cyfalaf yw hwnna. 

Ond ar ôl i’r wal gael ei hadeiladu wedyn.... ma ishe cynnal a chadw... ma ’na gostau edrych ar ôl y wal o ddydd i ddydd – dyna yw refeniw. 

Ma ’na reolau arnon ni – s’mo chi’n gallu gwario arian penodol ar refeniw, a chi ffili neud pethe penodol ’da arian cyfalaf. So rhan o fy job i yw gwneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei wario’r ffordd iawn.

Unrhyw beth sydd ishe arian... arian cyfalaf... so, prosiectau.... rhywun sy moyn prynu rhywbeth penodol, neu adeiladu rhywbeth.... ma nhw gyd yn rhan o ‘programme’ fel ma nhw’n galw fe... 

So ma gyda ni tua 150 o brosiectau bob blwyddyn. Ni’n gwario tua £17m bob blwyddyn. Ond ma hynna’n newid. 

Eleni, ni’n gwario tua £23m. Blwyddyn dwetha’, tua £20m. Mewn blynyddoedd eraill gall e fod tua £12m neu £15m.

Ma’n dibynnu ar ba brosiect sydd gyda ni’n barod, faint o adnoddau a phobol s’da ni’n barod i reoli’r prosiect a faint o arian sydd gan y wlad i roi inni adeiladu nhw. 

Galle fod yn unrhyw beth: o brosiect sy’ werth miliynau - £10 miliwn i £15 miliwn – pethau ni wedi adeiladu yn y Rhath yng Nghaerdydd, ne Llanelwy.... neu os ti moyn prynu tractor newydd. neu 4x4 newydd, neu system fodelu newydd...

Neu pan welwch chi ar y newyddion ‘flood warnings have been issued’ – ma hynna i gyd yn dod o systemau sydd gyda ni. Pob math o bethau fyl’na – ddim jyst adeiladu welydd. Pob math o wahanol brosiectau. Tua 150 o brosiectau y flwyddyn – lot o wahanol bethau. 

Ma fe gyd yn cael ei reoli – checio faint ni’n gwario – a ’neud yn siŵr bo ni’n gwario fe’n gywir... a ’neud yn siŵr, os wedwn ni bo ni am wario £17m, bo ni yn ei wario fe.

LLB: Pam bo angen rhaglen gyfalaf arnon ni? Sut ydyn ni'n penderfynu i ble mae'r arian yn mynd? Pa brosiectau sy'n cael y cyllid?

OK. Wel, mae angen rhaglen arnon ni er mwyn cynnal yr amddiffynfeydd a’r systemau meddalwedd sydd ’da ni’n barod, ac i gyflwyno rhai newydd. Gwneud yn siŵr bo ni’n rheoli'r risg a achosir gan lifogydd a bod pobl ac eiddo yn cael eu hamddiffyn. 

Tai pobol, busnesau pobol.... gwneud yn siŵr bo’ dŵr ddim yn dod mewn!

Ma’r holl beth ar sail risg – s’mo ni’n gallu ’neud popeth. Ma pot o arian a ma raid inni benderfynu, fel adran, sut i flaenoriaethu... pa waith sydd am gal ei ariannu. 

Ma pob math o bethe’n cael eu hystyried: pethe fel – beth yw’r risg i’r gymuned benodol? Digwyddiadau llifogydd diweddar... os oes rhywle wedi cael pump [digwyddiad] o lifogydd yn y deg mlynedd diwethaf, byddan nhw’n amlwg yn symud lan y rhestr. Os yw’n systemau ni’n dweud bo risg rili gwael i’r pentref penodol hwn – yna bydd hwnna’n cael ei symud lan. 

Ni’n edrych ar bethe economaidd, ffactorau technegol, amgylcheddol, cymdeithasol – lot o stwff. 

Falle bod hi’n economaidd adeiladu wal yn rhywle – ond falle nad yw’r bobol sy’n byw ar y stryd eisiau edrych mas drw’r ffenest ar wal reit tu fas i’r tŷ. Falle bo’ ’na goed  ‘na, allwn ni ddim eu torri – ma ’na lot i feddwl amdano. Be ni’n gweud yw; ni’n canolbwyntio ar y cymunedau lle ma’r perygl mwyaf. Na’r unig ffordd allwch chi neud e.

Ma pot o arian – chi’n penderfynu pwy sy angen e fwya’, a nhw sy’n cael yr arian. 

Ma’ gwahanol ffordd o edrych arno fe... ma rhai pethau’n adweithiol, ma rhai pethau’n rhagweithiol. Ma’ gwaith rhagweithiol yn cynnwys defnyddio ein mapiau llifogydd i weld ble mae’r risg ac adeiladu amddiffynfeydd cyn i rywle gael llifogydd. 

Mae gwaith adweithiol yn waith sy'n digwydd mewn ymateb i ddigwyddiad llifogydd. So, dau bentre: un pentre wedi cael llifogydd... a chi’n gweud ‘ok, yn amlwg ma ishe ni neud rhwbeth fan hyn’ a chi’n neud gwaith ’na.... ond falle bydd y pentre arall erioed wedi cael llifogydd, ond bod ein mapiau ni’n gweud galle fe ddigwydd unrhyw bryd – so ni’n adeiladu fy’na hefyd. So ma gwahanol ffyrdd o asesu pethe. Lot o bethau fel’ny.

 

LLB: Diolch, a ma fe’n ddiddorol be’ ti’n gweud o ran bo’ ’na bot o arian penodol ac yn anffodus dyw e ddim yn gallu lledu i wneud popeth, fel petai. Ma angen asesu beth yw’r stwff pwysig. Mewn achosion ble does dim modd gwneud rhywbeth, beth sy’n digwydd wedyn? 

Wel ma gwahanol opsiynau ’da ni. Weithiau chi’n gorfod adeiladu wal, pethau fyl’na... ond weithiau ma raid meddwl mwy ‘ok, falle bo dim opsiwn adeiladu economaidd, neu smo fe’n dechnegol bosib...’ so wedyn ma raid i chi feddwl am bethe fel rhybuddio pobol, rhoi digon o amser iddyn nhw... 

Ma systemau ’da ni lle ma’ pobol yn cal galwad ffon yn dweud ‘reit, yn yr oriau nesa, ma ishe i chi baratoi achos ma llifogydd ar y ffordd’... neu, o gymryd cam yn ôl, chi’n gweithio gyda cynghorwyr sir a phethe fyl’na i wneud yn siŵr bo pobol ddim yn adeiladu tai mewn llefydd sy wedi cal llifogydd, neu lle ma’n mapiau ni’n dweud bo risg o lifogydd yna... be ni’n dweud yw, allwch chi ddim jyst adeiladu’ch ffordd mas o’r broblem. 

Ma lot o wahanol bethe... allwch chi drïo dal dŵr nol lan yn y mynyddoedd, er enghraifft, neu y ffordd chi’n defnyddio’r tir.... oes, ma ishe concrit a welydd mewn llefydd.... ond ma hefyd angen gweithio gyda phobol i sicrhau bo nhw ddim yn adeiladu tai mewn llefydd sydd â risg i fwy o bobol. 

A wedyn rhybuddio pobol... so, falle, os bo wyth awr cyn llifogydd, allwch chi ’weud wrthyn nhw... a gallan nhw symud eu heiddo lan lofft... symud pethe, lleihau faint o ddifrod sydd i bethe fyl’na. Ma lot o wahanol opsiynau a phopeth yn cael ei gysidro.

 

LLB: Ydy pethe fel opsiynau naturiol i reoli risg llifogydd hefyd yn bethe sy’n cael eu hystyried o dan y rhaglen ’ma?

Ydy, ma hynna’n bwysig iawn. Ma wastad prosiect yn edrych ar bethe fyl’na – pob project, ni’n gorfod meddwl am sut allwn ni ddefnyddio pethe naturiol ... byddwn ni wastad yn trial edrych ar yr opsiynau yna cyn neud unrhyw beth, fel concrit... ma angen trio gweithio gyda natur. Ond beth sy’n bwysig i bobol wybod yw taw cyfuniad o bopeth yw e. Fyddwn ni byth yn gweud ‘s’dim ishe concrit, fyddwn ni dim ond yn gweithio gyda natur’ a fyddwn ni byth yn gweud ‘s’dim ishe gwitho da natur – jyst concrit bobman!’ Ma’n bwysig i bobol wybod bo’ ni’n ystyried popeth, a chael cyfuniad o bopeth iddo fe weithio. Does dim un ateb i lifogydd, ma rhaid neud popeth gyda’i gilydd. Ond ma gweithio gyda natur yn mynd yn fwyfwy pwysig. Deg mlynedd yn ôl, bydden i ddim yn gallu ateb y cwestiwn... bydden i ddim yn gwybod am beth ni’n sôn, ond erbyn heddiw, ma lot mwy o sôn a gwaith yn cael ei roi mewn i’r peth.

 

Gwych, a t’mod, o’r sgyrsiau fi di cal yn barod yn y gyfres ’ma, ma’r mater o newid hinsawdd wedi codi ym mhob sgwrs. Pa fath o ddylanwad ma’ hynna’n cael ar waith y rhaglen gyfalaf.

Ma newid hinsawdd yn cal effaith enfawr ar y gwaith ry’n ni’n neud. Ma mwy o lifogydd yn digwydd. Ma rhaid derbyn hynna. Ma mwy o bethau’n mynd i ddigwydd, so ma angen mwy o arian i ddelio â hynna. A ma eisiau meddwl yn wahanol – ddim jyst twlu arian at y peth – ma ishe meddwl yn wahanol hefyd. Ma’ pob math o brosiectau o fewn y rhaglen yn cal eu hysgogi gan y risg o newid yn yr hinsawdd – so ma rhan fwya o’n cynlluniau llifogydd newydd ni’n cynnwys rhagamcanion newid hinsawdd. Gwedwch bo ni’n adeiladu wal... so ma’r sylfeini’n gorfod bod maint penodol... be ni’n neud nawr yw neud nhw’n lletach – so os oes angen codi lefel y wal ymhen 20 neu 50 mlynedd, mae’r sylfeini’n barod ar gyfer yr uchder.

Ond fel wedes i’n gynharach... dwi’n defnyddio ‘adeiladu wal’ fel enghraifft trwy’r amser – ond s’mo ni’n gallu jyst adeiladu ein ffordd mas o drafferth. 

So ma lot o brosiectau eraill yn edrych ar newid hinsawdd a sut mae newid hinsawddd yn mynd i effeithio arnon ni yn yr hirdymor. So ma prosiect ‘gofynion buddsoddi hirdymor’ gyda ni – ma fe’n edrych ar ragamcanion newid hinsawdd a sut fydd hynna’n effeithio’r asedau sydd gyda ni ar hyn o bryd. So ni’n edrych ar faint fydd e’n costio i gadw nhw yn eu lle am gan mlynedd. Faint bydde fe’n costio i godi’r lefel ymhen can mlynedd. Ni’n edrych ar gymunedau dros Gymru i gyd – ni’n edrych ar lefelau’r môr, er enghraifft... yden ni’n mynd i allu cadw pobol lle ma’ nhw? Neu yden ni am edrych ar opsiynau i symud pobl? A gweithio gyda natur. Allwn ni ddim adeiladu wal rownd y wlad a disgwyl i bawb fod yn iawn – ma ishe meddwl yn wahanol. Yn anffodus, ma perygl newid hinsawdd yn newid y ffordd ry’n ni’n gorfod gweithio.

 

LLB: Mae'n gymhleth iawn nagyw e? A does dim un ateb hud yn anffodus. 

 

Diolch yn fawr iti am dreulio amser gyda ni heddi Dafydd, mae’n amlwg bod y gwaith ’ma’n bwysig iawn, ond hefyd yn gymhleth iawn, i edrych ar ôl, yn y pen draw, ein cymunedau yng Nghymru... 

 

Un cwestiwn olaf cyn i ni fynd, beth yw dy hoff ran o dy swydd, beth wyt ti’n ei fwynhau y mwyaf?

 

Yr amrywiaeth fydden i’n dweud – nid jyst y gwaith, ond y bobl hefyd. Fel wedes i, ma tua 150 o brosiectau bob blwyddyn, so dw i’n gweithio gyda llu o wahanol bobl o dimau gwahanol ar draws y busnes, ar brosiectau gwahanol – pob math o bethau. Mae rhywbeth gwahanol ar y gorwel bob amser... So bydden i’n dweud hynna: gweithio gyda gwahanol bobol ar brosiectau hollol wahanol – rhywbeth gwahanol bob dydd. 

 

LLB: Gwych. Diolch yn fawr Dafydd!

 

Rwy'n gobeithio eich bod wedi mwynhau’r bennod hon. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu gwestiynau, gallwch chi gysylltu â ni ar Facebook, Twitter, neu Instagram. Neu drwy’r cyfeiriad e-bost sydd i'w weld yn nodiadau'r sioe yma. Fe welwch chi hefyd ddolenni i'n gwefannau rheoli perygl llifogydd lle gallwch chi weld rhai o'r pethau y buon ni’n siarad amdanyn nhw yma heddiw.

 

Diolch am wrando!