Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru

5. Deall a Dadansoddi Risg Llifogydd

October 16, 2023 Cyfoeth Naturiol Cymru Season 2 Episode 5
Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru
5. Deall a Dadansoddi Risg Llifogydd
Show Notes Transcript

Yn y gyfres hon, byddwch yn clywed gan wahanol dimau Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gweithio gyda’i gilydd i leihau'r perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru.

Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw'r perygl o lifogydd, yr hyn yr ydym yn ei wneud i'w reoli yng Nghymru, a pha effaith y mae'r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.

·       Tudalennau Gwe Rheoli Perygl Llifogydd

·       Atebion sy’n seiliedig ar natur ar gyfer rheoli arfordirol

·       Cynlluniau Rheoli Traethlin

·       Cronfa Ddata Cenedlaethol Asedau Llifogydd

·       Rhybuddion llifogydd

·       Gwirio lefelau'r afonydd, glawiad a data môr

·       Rhagolygon perygl llifogydd 5 diwrnod

·       Gwiriwch eich perygl llifogydd ar fap (Map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru)

·       Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio / Datblygu Cyngor

·       Swyddi, prentisiaethau a lleoliadau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau ar unrhyw beth a gwmpesir yn y gyfres podlediad hon, cysylltwch â ni ar FloodRiskManagement.Strategic@naturalresourceswales.gov.uk

LLB:    Helo ’na a chroeso i gyfres fach podlediad Cyfoeth Naturiol Cymru ar reoli perygl llifogydd. Fy enw i yw Llion Bevan a dw i’n gweithio fel Uwch Swyddog Cyfathrebu i Gyfoeth Naturiol Cymru. Yn y gyfres hon byddwch yn clywed gan wahanol dimau sy’n gweithio gyda’i gilydd i leihau perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru. Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw perygl llifogydd, beth ydyn ni’n wneud i reoli’r risg yng Nghymru, a pha effaith mae’r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. 

LLB:    Helo a chroeso i’r pumed bennod yn ein cyfres fach ar Reoli Perygl Llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru! Heddiw mae Lois Evans a Twm Jonathan, sy'n gweithio yn ein grŵp Dadansoddi Perygl Llifogydd yng Ngogledd Cymru, yn ymuno â ni. Croeso i chi, a diolch yn fawr am ymuno gyda fi! 

I ddechrau, byddai’n dda clywed ychydig am eich cefndir chi. Beth wnaethoch chi astudio a sut ddaethoch chi i weithio yn y maes ’ma i Gyfoeth Naturiol Cymru?

LE:       Gwnes i radd mewn daearyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth cyn mynd ati i wneud gradd Master’s mewn rheolaeth amgylcheddol cynaliadwy o Brifysgol Bangor. Wedyn ges i swydd dros dro syth ar ôl graddio efo Cyfoeth Naturiol Cymru, ond yn y Tîm Amgylcheddol yn delio efo llygredd a gwastraff. Ond dim ond cytundeb dros dro oedd hwnna, so gwnes i benderfynu trio am swydd yn y Tîm Dadansoddi Perygl Llifogydd lle o’n i’n ddigon ffodus o gael cytundeb parhaol, a dw i dal yn yr un tîm naw mlynedd yn ddiweddarach. Felly mae raid bod fi’n ei fwynhau.

TJ:       Ie da iawn. So yn wreiddiol o ogledd Cymru a o’n i mewn bach o benbleth be o’n i eisiau wneud pan o’n i’n mynd i’r brifysgol. So gwplais i lan yn mynd i Abertawe i wneud ffiseg am bedair blynedd, so fel Integrated Master’s. A wedyn ar ôl hynny o’n i’n dal moyn aros yn academia. So ges i gynnig i fynd i Rydychen am bedair mlynedd i astudio PhD. So gwplais i lan yn Rhydychen am bedair mlynedd yn astudio dylanwad newid hinsawdd ar y cefnforoedd a edrych ar ddylanwad newidiadau o ran tymheredd a halltedd o ran ceryntau’r moroedd. A wedyn ar ôl cwpla a yn ystod y pedair mlynedd oedd y Panedmig wedi digwydd, so wedyn des i gartref. A wedyn ar ôl dod gartref ar ôl cwpla o’n i, fel, dw i eisiau aros yng ngogledd Cymru. So o’n i eisiau swydd dechnegol a oedd Cyfoeth Naturiol Cymru’n swydd oedd yn ffitio’n eitha da i fi, a oedd o’n golygu o’n i’n gallu aros yma. So ges i chat gyda bos newydd fi. O’n i fel, Ok dyma be dw i eisiau wneud. So gwnes i gais a ges i’r swydd a dyma lle dw i wedi bod am y flwyddyn a bach diwetha. 

LLB:    Ah da iawn, diddorol iawn. A Lois, allet ti esbonio ychydig i ni am waith y grŵp dadansoddi perygl llifogydd a’r timau sydd ynddo fe?

LE:      Ie, so dw i a Twm yn gweithio yn y Tîm Gweithredol Dadansoddi Perygl Llifogydd yng ngogledd Cymru. A mae ’na dîm ’run fath yn ne Cymru hefyd. A mae ’na hefyd dîm bach cenedlaethol sydd yn delio mwy efo polisïau a strategaeth. So pwrpas y Tîm Dadansoddi Perygl Llifogydd ydy cynyddu ein dealltwriaeth o risg llifogydd yma yng Nghymru drwy wneud gwaith modelu a mapio. A mae hwn wedyn yn cael ei ddefnyddio gan y busnes a’r byd tu allan i helpu hefo gwneud penderfyniadau. So ’da ni’n modelu risg llifogydd o afonydd a’r môr a wedyn mapio’r ardaloedd hynny ar ein gwefan so bod bobl yn gallu gweld y wybodaeth o defnyddio’r wybodaeth, er enghraifft i helpu i wybod lle ydy’r lle gorau i brynu tŷ neu adeiladu tŷ neu lle gallai fod yn anaddas ar gyfer datblygu achos bod risg llifogydd yn uchel. A ’da ni’n gweithio’n agos gyda timoedd eraill o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru a gyda awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.

LLB:    Diddorol. A Twm, beth yw dechrau’r broses o adnabod ardaloedd neu gymunedau sydd mewn perygl o lifogydd?

TJ:       So ’da ni’n targedu hwn mewn dwy ffordd. Un ar y lefel leol ac un ar ffordd mwy cenedlaethol. Ar lefel leol, os mae llifogydd neu os mae ’na achos o lifogydd yn digwydd yn lleol, ’da ni’n tueddu i fynd allan a wedyn hel data yn yr ardal yna, er mwyn gallu adeiladu model hydrolig sy wedyn yn rhoi syniad i ni o le mae’r dŵr wedi bod yn llifo neu le bydd y dŵr yn llifo yn ystod tywydd garw. A wedyn ’da ni’n creu y model hydrolig ’ma gan ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol, so enghreifftiau mawr yw TUFLOW, Flood Modeller, HEC-RAS. A bwriad y model yw i geisio cynrychioli sianel yr afon, y dŵr o fewn y sianel a hefyd y dŵr ar y tir cyfagos, so ar y gorlifdir, ac yn y blaen. A ’da ni’n amcangyfrif y llif sy’n llifo trwy’r afon yn ystod y digwyddiadau, neu senarios gwahanol gan ddefnyddio meddalwedd arall. So mae ’na sawl un, fel RAH2. So mae rhein yn dweud wrthon ni os mae’n glawio hyn a hyn, os mae’r tirwedd yn gallu amsugno mwy o ddŵr neu llai o ddŵr, pa mor gyflym mae’r dŵr yna’n mynd i gyrraedd yr afon. A mae hwn i gyd wedyn yn gallu dylanwadu ar y llif sy’n mynd trwy’r afon yn y lle cyntaf. Wedyn unwaith mae gynnon ni’r llif ’ma, ’da ni’n gallu rhoid o nôl mewn i’r model hydrolig a defnyddio hwnna er mwyn creu darlun o be fydd yn digwydd mewn senarios gwahanol i ardaloedd gwahanol. 

So yna caiff y llifau yma eu defnyddio o fewn y model. Mae’r model hydrolig yn cael ei redeg ar gyfer sawl llif gwahanol ac yn cyfrifo’r dyfnder, cyflymder a chyfeiriad y llif sy'n gadael yr afon. Ac wedyn ’da ni’n gallu defnyddio’r wybodaeth yma i astudio effaith y llifogydd ar yr amgylchedd ac unrhyw drefi cyfagos. Ac wedyn rhan pwysig o’r model hydrolig yma yw’r arolygon topograffig o’r sianel a’r gorlifdir. Felly mae angen i ni ddeall yn union be yw graddiant y tir, sut mae’r afon yn troi a be sy o fewn yr afon ei hunan. A un o’r ffyrdd gorau o ddal y wybodaeth yma yw dibynnu ar declynnau synhwyro o bell, so yn Saesneg ‘remote sensing’, er enghraifft LIDAR. A mae hwn yn dibynnu ar luniau a delweddau awyr a lloeren sy wedyn yn mynd i greu model topograffig 3D o’r dirwedd. A ’da ni’n defnyddio’r cyfuniad o fodelau manwl lleol, so rhein, a wedyn ’da ni’n cyfuno nhw gyda un model mwy syml ond o Gymru gyfan o’r enw Asesiad Perygl Llifogydd Cymru, so Flood Risk Assessment Wales, FRAW Map. A mae’r prosiect yma wedi cael ei ddechrau, dw i’m yn cofio’n union pryd, ond dwy fil a un deg naw ddoth o allan, dw i’n meddwl, Lois?

A wedyn ma hwn wedi bod sawl blwyddyn enfawr yn adeiladu’r model yma. A wedyn mae hwn yn rhoi syniad i ni o be yw’r risg dros Gymru gyfan a ’da ni’n gallu mewn rhei ardaloedd cyfuno’r model mwy syml ’ma gyda’r modelau mwy manwl o’r ardaloedd. A bwriad hwn i gyd yw creu data cyson, so bod unrhyw berson sy eisiau deall y risg llifogydd yn eu ardal nhw neu os mae angen creu penderfyniad neu mae angen tystiolaeth er mwyn cynllunio ar gyfer adeiladu tai ac yn y blaen, bod yna un set o ddata sy’n gyson dros bopeth sy i wneud â perygl llifogydd.

LLB:    A Lois, ar ôl creu’r modelau a’r mapiau hyn, beth ydyn ni’n wneud gyda’r wybodaeth ’na? Pa dechnoleg ydyn ni'n defnyddio? 

LE:       So mae’r holl fodelau ’da ni’n eu hadeiladu’n lleol yn cael eu cyfuno â’r model cenedlaethol a ’da ni’n cyhoeddi’r allbynnau yna fel mapiau ar ein gwefan, o’r enw Mapiau Perygl Llifogydd Cymru. A ’da ni’n diweddaru nhw bob chwe mis. So ’da ni’n defnyddio meddalwedd modelu safonol i amcangyfrif llif llifogydd, gan ddefnyddio’r wybodaeth hydroleg ddiweddaraf a gwybodaeth am unrhyw asedau rheoli perygl llifogydd, sy’n rhoi syniad i ni o sut mae’r risg yn cael ei effeithio gan y strwythurau hynny. ’Da ni’n mapio holl allbynnau'r model lleol a chenedlaethol gan ddefnyddio GIS ac mae’r allbynnau'n cael eu dangos ar ein gwefan lle mae'r mapiau ar gael i bawb eu gweld yn rhad ac am ddim. Mae’n waith reit gymhleth ac mae gwerth tua £20 miliwn o bunnoedd o fodelau afon ar lefel leol. A mae rhoi’r wybodaeth hynny i’r system FRAW, fel wnaeth Twm sôn, yn golygu bod angen mapio gwerth tua 16 terabeit o allbynnau model, ac mae’r nifer hwnnw’n parhau i dyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Un o allbynnau allweddol y FRAW ydy yr offeryn o’r enw Cofrestr Cymunedau mewn Perygl a mae hwn yn defnyddio'r holl dystiolaeth i flaenoriaethu cymunedau Cymru sydd mewn risg o lifogydd, sydd yn helpu i wneud penderfyniadau i ba gymuned sydd angen y cymorth mwyaf er mwyn ceisio’u hamddiffyn nhw rhag llifogydd.

LLB:    A Lois, beth yw GIS? 

LE:       So meddalwedd mapio ’da ni’n defnyddio o’r enw ArcMap lle ’da ni’n defnyddio’r allbynnau o’r model i allu gweld yn union lle sydd yn llifogi yng Nghymru.

LLB:    A Twm, mae newid yn yr hinsawdd yn fater enfawr i bawb, yn amlwg. Felly pa effeithiau wyt ti’n meddwl y bydd e’n ei gael ar eich gwaith, a pha newidiadau gallai fod angen eu gwneud o’i ganlyniad? 

TJ:       So yn syml, dealltwriaeth gwyddonol o newid hinsawdd, mae’n ymddangos fel bod yna sawl newidyn yn mynd i ddigwydd i’r hinsawdd sy o’n cwmpas ni o ddydd i ddydd, a falle bod hwn yn mynd i ddigwydd dros y degawdau, canrifoedd nesa. Y prif bethau bydd yn newid fydd lefelau’r môr yn codi, a byddwn ni’n disgwyl cael mwy o dywydd eithafol, so er enghraifft sychder a stormydd ac yn y blaen. Oherwydd hyn byddwn ni’n gweld mwy o gymunedau o fewn perygl llifogydd gan foroedd ac afonydd. O ran Cyfoeth Naturiol Cymru a asesu’r risg bydd newid hinsawdd yn ei gael, ’da ni eisoes wedi bod yn modelu a mapio sawl senario newid hinsawdd er mwyn dechrau meddwl amdan risg llifogydd yn y dyfodol a lle gallent fod. A mae hwn yn glir o fewn Flood Map for Planning, sef mapiau perygl llifogydd Cymru. ’Da ni’n barod yn gweld bod lefelau’r afonydd yn codi o ganlyniad i fwy o law a hefyd mae mwy o law yn debygol o gynyddu llifogydd o ddŵr wyneb, oherwydd fod y tir methu amsugno mwy o ddŵr a hefyd bod ers yr Ail Ryfel Byd ’da ni wedi bod yn adeiladu lot o dai a mae lot o drefi wedi cael eu hadeiladu a felly lot o goncrit ac yn y blaen. Yn ddiweddar mae’r nifer o dai ac eiddo sydd wedi dioddef o lifogydd gan nentydd, cyrsiau dŵr bach a dŵr wyneb yn ystod stormydd wedi cynyddu yn sylweddol. Rhan bwysig o ddod i afael gyda newid hinsawdd yw gwneud pobl yn ymwybodol ohono, yn ogystal â risg llifogydd. ’Da ni’n gweld sawl achlysur ble mae’r perchnogion heb ystyried risg lifogydd i’r tai. Gall nant fach yn yr haf fod yn broblem enfawr yn y gaeaf, yn enwedig ar ôl storm. Rhan bwysig i wneud y cyhoedd yn ymwybodol o newid hinsawdd a’r cynnydd yn risg llifogydd. Unwaith mae dealltwriaeth o’r risg a sut mae’r hinsawdd am newid, gallwn gydweithio gyda’r chymunedau er mwyn lleihau’r risg a hefyd creu cynllun os oes llifogydd yn dueddol o ddigwydd yn yr ardal. Ac yn anffodus, mae’n debygol mi fydd llifogydd yn fwy cyffredin yn y dyfodol. Mae’r map llifogydd ar gyfer cynllunio, Flood Map for Planning, a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn gynharach eleni, yn gam pwysig tuag at godi ymwybyddiaeth llifogydd a dylanwad newid hinsawdd arno. Mae’n dangos dylanwad newid hinsawdd am y can mlynedd nesa ac ar ein mapiau am y tro cyntaf erioed. So mae popeth ’da ni ’di neud o’r blaen ddim ’di ystyried dylanwad newid hinsawdd. Ac mewn gwirionedd mae wedi’i anelu tuag at helpu cynghorau a’r llywodraeth er mwyn creu penderfyniadau synhwyrol ar gyfer ble i adeiladu a ble ddim i adeiladu yn y lle cynta, fel ’da ni wedi gweld yn digwydd dros y degawdau diwetha. ’Da ni’n anelu at ryddhau rhagor o wybodaeth am newid hinsawdd dros y ddwy flynedd nesaf. Oherwydd yr ansicrwydd ynglŷn â chyflymder newid hinsawdd a’r newidiadau o ran y rhagolygon, mi fydd rhaid adnewyddu’r data’n barhaus am y degawdau nesa ac yn amlwg os bydd y newid yn yr hinsawdd yn gyflymach na be ’da ni’n ei fodelu bydd risg llifogydd yn cynyddu neu’n lleihau. A felly mae ’na dal eitha lot o ansicrwydd o ran beth yn union bydd yn digwydd i risg llifogydd. Ond yn gyffredinol, mi fydd risg llifogydd yn tueddu i gynyddu dros Gymru gyfan. 

LLB:    Lois, mae’n swnio fel bod y Mapiau Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn offeryn pwysig iawn – sut yn union maen nhw’n cael eu defnyddio? A gan bwy? 

LE:       Ydy. So mae’n cael ei ddefnyddio mewn sawl ffordd, ac un o’r ffyrdd mae’n cael ei ddefnyddio ydy i gefnogi TAN15, sef canllaw cynllunio sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau nad oes adeiladau yn cael eu datblygu mewn mannau anaddas. A mae’n cael ei ddefnyddio gan gynllunwyr a datblygwyr yn bennaf. So mae’r cynllunwyr a’r datblygwyr yn gallu edrych ar y map i weld lle mae’r risg mwyaf o lifogydd, ac os ydy’r ardal mewn risg uchel bydd rhaid iddyn nhw unai trio adeiladu yn rhywle arall neu dim ond adeiladu datblygiad risg isel yn yr ardal yna. So enghraifft o ddatblygiad risg isel ydy mannau gwyrdd a pharcdir lle mae’r risg i fywyd yn lot llai na os fasen nhw’n adeiladu tŷ preswyl yno. Ac y syniad ydy y dylai’r canllawiau yn TAN15 a’r map llifogydd ar gyfer cynllunio helpu i arwain datblygwyr i ffwrdd o adeiladu mewn ardaloedd anaddas sydd efo risg uchel o lifogydd.

LLB:    Twm, pam bod hi mor bwysig i lywio datblygiad i ffwrdd o ardaloedd ble mae perygl llifogydd? Beth yw canlyniadau adeiladu yn yr ardaloedd hyn? 

TJ:       Mae’n angenrheidiol dylanwadu ar y datblygwyr i osgoi adeiladu ar dir sydd mewn perygl o lifogydd oherwydd y difrod mae’r llifogydd yn gallu achosi yn y lle cynta. Os wyt ti’n meddwl amdano, os mae un adeilad yn cael ei lifogi, mae’n andros o gost enfawr economaidd i’r person yna neu’r cwmni yswiriant ond hefyd i’r gymuned. A be ’da ni’n sylwi yw bod sawl ardal wedi cael ei datblygu ar orlifdiroedd afonydd dros y ganrif diwethaf oherwydd cynnydd yn y boblogaeth ac y galw am dai newydd. Ond yn anffodus pan o’n nhw’n adeiladu’r tai yma ar y pryd, oedd ystyried risg llifogydd ddim mor bwysig â dylai fod. A hefyd oherwydd y diffyg dealltwriaeth yma am y risg am y llifogydd yn cael eu hachosi, mae sawl cymuned heddiw o fewn risg. Ar ôl llifogydd gall gymryd tua blwyddyn i drwsio’r tai, sy’n gostus. Ond hefyd mae’n rhaid symud y bobl i rywle am y flwyddyn yna. So wedyn mae hwnna’n gallu achosi trawma i’r bobl yna, yn gostus i’r bobl yna a hefyd mae’r dylanwad seicolegol o orfod gadael dy dŷ a gadael dy gymuned di yn andros o fawr. Ac yn y byd perffaith, ’da ni’n trio osgoi hwnna ar bob cost. A gall llifogydd fod yn beryglus iawn hefyd. ’Da ni wedi gweld sawl achos dros y byd i gyd bod pobl yn gallu colli eu bywydau o fewn llifogydd. Ar hyn o bryd ’da ni’n amcangyfrif bod bron i chwarter miliwn o dai neu fusnesau mewn perygl o lifogydd. So mae hwnna’n tua un ym mhob wyth adeilad yng Nghymru dan risg. A ’da ni mond yn dechrau deall yr effeithiau iechyd meddwl hirdymor mae llifogydd yn eu hachosi. Ond mae’n glir ei fod yn cael dylanwad negyddol, sy’n gallu para andros o hir. A mae rhai pobl byth yn recyfro ar ôl gweld bod eu tŷ nhw’n cael ei lifogi, bod nhw’n gorfod gadael, wedyn maen nhw ’di colli i gyd o’u heiddo a phopeth. Felly y ffordd mwya synhwyrol yw peidio adeiladu yn y lle yna yn y lle cynta. A dyna pam mae’n hollbwysig bod datblygwyr yn ystyried risg llifogydd yn y lle cynta a wedyn bod nhw’n defnyddio TAN15 yn y lle cynta mewn ffordd synhwyrol a hefyd bod nhw wedyn yn sicrhau bod pob adeilad ’da ni’n adeiladu nawr mewn can mlynedd, fyddan nhw ddim mewn risg o lifogydd. 

LLB:    Diolch. Ie mae’n andros o bwysig, nag yw e. Wrth i ni recordio hyn heddiw mae llifogydd ledled y byd. Mae wedi bod yn y newyddion, nag yw e, gyda pobl yn colli bywydau a cymunedau yn cael eu heffeithio yn ofnadwy. Felly un cwestiwn ’dyn ni hefyd yn lico gofyn yn y gyfres yma yw, beth yw eich hoff ran o'ch swydd? Beth sy’n dod â chi mas o’r gwely yn y bore? Lois? 

LE:       Dw i’n meddwl mai’r hoff ran o’n swydd i fi ydy creu y modelau yma er mwyn gallu deall mwy am risg llifogydd yn y cymunedau, sy’n gallu arwain at greu cynllun rheoli perygl llifogydd a lleihau risg llifogydd i’r bobl hynny. Hefyd dw i’n mwynhau’r her o adeiladu’r model a’r holl ddatrys problemau i drio cael o i gynrychioli be sy’n digwydd yn y byd go iawn, ac yna dadansoddi’r canlyniadau a’u cyfathrebu drwy greu gwahanol fapiau, sydd ar gael ar ein gwefan i bawb gael eu gweld. A hefyd rhan arall o’r swydd ’da ni’m wedi sôn amdano fo eto, ond mae o yn rhan bwysig iawn, ydy’r ochr bod ar alwad. So ’da ni ar rota i ddelio gyda llifogydd dau ddeg pedwar awr y diwrnod, saith diwrnod yr wythnos, tri chant chwe deg pump diwrnod y flwyddyn. A fy rôl i ydy Swyddog Dyletswydd Rhybudd Llifogydd, so mae hynny’n golygu mai fi sy’n gorfod gwneud y penderfyniad o roi y rhybudd llifogydd allan neu beidio. A dw i’n gwneud y penderfyniad yna drwy edrych ar y rhagolygon tywydd, lefel yr afonydd ac amodau’r môr. Felly mae’n dipyn o gyfrifoldeb i wneud yn siŵr bod fi’n gwneud y penderfyniad cywir er mwyn gwneud yn siŵr bod y bobl yn cael y rhybudd mewn digon o bryd.

LLB:    Ydy yn wir. Diolch Lois. A ti Twm?

TJ:       Wel yn syml, cytuno gyda be mae Lois yn deud, ond hefyd o’n i’n licio bod pwrpas uniongyrchol i’r swydd a bod fi’n gweithio ar brosiectau sy’n cael dylanwad ar y gymuned dw i’n byw ynddi a mae teulu fi’n byw ynddi a mae ffrindiau fi’n byw ynddi. O’r blaen oedd lot o’r gwaith dw i’n wneud yn lot fwy damcaniaethol a cyfrannu at bethau mwy byd-eang. Ond o't ti ddim yn gallu gweld yn union be oedd gwaith fi’n cyfrannu ato, ble rŵan, fel roedd Lois yn deud, ’da ni ar ddyletswydd, ti’n gallu gweld straight away, os ’da ni’n cyhoeddi rhybudd, ti’n gallu gweld syth bin dyna yw dylanwad gwaith fi, syth bin, wedi digwydd. A hefyd os mae llifogydd yn digwydd, rhan o’n swydd ni yw gorfod mynd allan a casglu data a wedyn defnyddio’r data yna er mwyn gwella’n dealltwriaeth ni o be ddigwyddodd ond hefyd sut i ddefnyddio’r data yna o fewn model i greu senario synhwyrol fel bod llifogydd byth yn digwydd yn yr ardal yna neu bod ni’n lleihau risg llifogydd yn yr ardal yn y dyfodol. A wedyn y peth olaf fydden i’n deud yw mae’r gymuned o fewn y cwmni yn andros o gyfeillgar ac o brofiad, mae bod mewn gweithle ble mae pawb yn cyd-dynnu yn rhan bwysig iawn o gael swydd hwylus ac os mae hwn ddim yn xx mae’r swydd yn gallu bod yn eitha, wel ddim yn lot o hwyl. Yn ogystal â dw i’n licio gallu jest dysgu sgiliau gwahanol a mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n neud lot o bethau, o lifogydd holl ffordd i bethau amgylcheddol, gwastraff, i stwff yn y moroedd a cynefinoedd ac yn y blaen. Felly mae’r gwaith ’da ni’n gallu edrych arno yn eitha eang. A hefyd mae’n eitha neis bod mewn gweithle ble mae Cymraeg yn cael ei defnyddio yn ogystal â Saesneg. 

LLB:    Diolch yn fawr i’r ddau ohonoch chi am siarad gyda fi heddiw. Mae wedi bod yn ddiddorol iawn, ac mae’n amlwg bod chi’n angerddol iawn am eich gwaith chi a bod eich gwaith chi yn cael effaith go iawn ar bobl ledled Cymru. Felly diolch yn fawr am ymuno gyda fi heddiw.

TJ:       Dim problem.

LE:      Diolch.

LLB:    Dw i’n gobeithio eich bod wedi mwynhau’r bennod hon. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau gallwch gysylltu â ni ar Facebook, Twitter neu Instagram. Neu drwy’r cyfeiriad e-bost sydd yn nodiadau’r sioe yma. Fe welwch hefyd ddolenni i’n tudalennau gwe ar reoli perygl llifogydd, lle gallwch weld rhai o’r pethau ’dyn ni wedi sôn am yma heddiw. Diolch am wrando.