Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru

6. Hydrometreg a Thelemetreg

October 16, 2023 Cyfoeth Naturiol Cymru Season 2 Episode 6
Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru
6. Hydrometreg a Thelemetreg
Show Notes Transcript

Yn y gyfres hon, byddwch yn clywed gan wahanol dimau Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gweithio gyda’i gilydd i leihau'r perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru.

Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw'r perygl o lifogydd, yr hyn yr ydym yn ei wneud i'w reoli yng Nghymru, a pha effaith y mae'r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.

·       Tudalennau Gwe Rheoli Perygl Llifogydd

·       Atebion sy’n seiliedig ar natur ar gyfer rheoli arfordirol

·       Cynlluniau Rheoli Traethlin

·       Cronfa Ddata Cenedlaethol Asedau Llifogydd

·       Rhybuddion llifogydd

·       Gwirio lefelau'r afonydd, glawiad a data môr

·       Rhagolygon perygl llifogydd 5 diwrnod

·       Gwiriwch eich perygl llifogydd ar fap (Map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru)

·       Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio / Datblygu Cyngor

·       Swyddi, prentisiaethau a lleoliadau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau ar unrhyw beth a gwmpesir yn y gyfres podlediad hon, cysylltwch â ni ar FloodRiskManagement.Strategic@naturalresourceswales.gov.uk 

LLB: Helo a chroeso i gyfres fach o bodlediadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar reoli perygl llifogydd. Fy enw i yw Llion Bevan ac rwy’n gweithio fel Uwch Swyddog Cyfathrebu i Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn y gyfres hon, byddwch yn clywed am y gwahanol dimau sy’n gweithio gyda’i gilydd i leihau’r perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru. Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw perygl llifogydd, beth rydym ni’n ei wneud i reoli’r risg yng Nghymru, a pha effaith mae’r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. 

LLB: Helo a chroeso i bennod 6 o’r gyfres fach ar Reoli Perygl Llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Heddiw mae Tim Owen yn ymuno â fi sy'n bennaeth y tîm Hydrometreg a Thelemetreg yng Ngogledd Cymru. 

Croeso Tim, a diolch yn fawr iawn am ymuno â ni.

I gychwyn, hoffwn holi ychydig am dy gefndir. Sut wnes di ddechrau ar y math hwn o waith yn Cyfoeth Naturiol Cymru?

TO: Wel, mae’n hanes digon hir i fod yn onest. Mi wnes i ddechrau fy ngyrfa gwaith hefo Awdurdod Dŵr Cymru ym 1982, dipyn o amser yn ôl. Ers hynny, rydw i wedi gweithio yn y cyrff eraill sydd wedi dilyn, sef yr Awdurdod Afonydd Cenedlaethol, Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth Amgylchedd Cymru, hyd at rŵan ers 2013, i Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly dyna sut mae fy ngyrfa i wedi bod o’r cychwyn. Cefndir adnoddau dŵr yn bennaf, mewn hydrometreg, ac wedyn gweithio dipyn bach mwy drwy’r system o drwyddedu’r tyniadau dŵr ac ymweliadau â safleoedd gyda thrwyddedau tynnu dŵr. Ar ôl hynny, symud ymlaen wedyn i fod yn swyddog ar drwyddedu, ar gyfer y trwyddedau tynnu dŵr, cyn i dîm Rheoleiddio Adnoddau Dŵr gael ei ffurfio. Cefais fy swydd gyntaf fel Arweinydd Tîm yn y tîm hwnnw. Ychydig bach o newid wedyn dros y blynyddoedd, hefo’r cyrff yn benodol o fewn Asiantaeth yr Amgylchedd, lle’r oedd gofyn i Arweinyddion Timau i gael profiad gwahanol o arwain gwahanol dimau fel petai. Felly yn y cyfnod hwnnw, bues i hefyd yn Arweinydd Tîm Amgylcheddol Gwynedd, Arweinydd Tîm Conwy a Môn ac Arweinydd Tîm am gyfnod ar dîm Cynllunio Amgylcheddol cyn i mi ddod yn Arweinydd Tîm yma o 2010 hyd at heddiw.

LlB: Diddorol. Wnes di sôn am adnoddau dŵr. Sut fyddet ti’n disgrifio’r gwaith adnoddau dŵr yn gyffredinol?

TO: Bob dim yn yr ystyr yna o reoli adnoddau dŵr, felly’r dŵr ei hun, ei fesur, a’i ddefnydd yn fwy na dim, ac yn ystod hynny, fel dwi’n deud, mae’r swydd o fod yn rheoli gwaith hydrometreg yn bennaf yn hynny - dyna ydi’r brif elfen o gasglu mesuriadau, fel y mae’r swydd yn sôn amdano ac yn cyfeirio ato mewn ffordd.

LlB: O ran tynnu dŵr, hynny yw, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau i gwmnïau dŵr ac ati i dynnu dŵr o’r amgylchedd. Mae’n rhaid i hynny gael ei wneud mewn ffordd sydd ddim yn niweidiol i’r amgylchedd?

TO: Yn hollol. Mae’n system drwyddedu sy’n rhoi cyfle i bobl fedru tynnu dŵr i’w ddefnyddio, ond bod y pwyslais yn bennaf i ofalu nad yw dŵr yn cael ei ordynnu a bod rheolaeth gyflawn ar adnoddau dŵr yn cael ei gadw drwy’r system drwyddedu.

LLB: Diolch. A ‘dyw hydrometreg a thelemetreg ddim yn dermau bob dydd i’r mwyafrif o bobl. Beth yw hydrometreg a thelemetreg?

 

TO: Mae hydrometreg yn ymwneud â mesur cydrannau'r gylchred hydrolegol. Yn syml rydyn ni’n mesur y cylch dŵr mewn ffordd, fel mae o’n symud o'r awyr i'r môr. Ar gyfer llifogydd rydyn ni’n defnyddio hydrometreg i drosi glaw ac eira yn lefelau a llif afonydd er mwyn darogan, i amcangyfrif y perygl llifogydd dros yr hirdymor, er mwyn pennu safonau dylunio ar gyfer ein hasedau, ac i fesur lefelau ein hafonydd er mwyn cyhoeddi rhybuddion llifogydd i’r cymunedau hynny sydd mewn perygl. Felly dyna ydi’r brif ran ohono. Wrth wneud hynny, mae’n defnyddio, yn bennaf, gwahanol dechnoleg i gasglu data rydyn ni’n ei ddefnyddio mewn ystyr hanesyddol, mae’n cael ei archifo mewn ffordd. Ond mae gennym ni hefyd defnydd o ddydd i ddydd ohono, sef defnydd byw.

LlB: Diolch. A sut fyddet ti’n esbonio telemetreg?

TO: Telemtreg ydi’r broses o gasglu a throsglwyddo’r data o’r safleoedd sydd gennym ni ar hyd y wlad sy’n mesur, a dod â hwnnw’n ôl i mewn i system lle mae’n gallu cael ei ddefnyddio’n fewnol ac yn allanol drwy system ddata byw. Mae hefyd yn cadw data, ac mae hwnnw’n cael ei gadw’n hanesyddol. Ond y ffyrdd o ddod â gwybodaeth yn ôl o’r safleoedd yma, felly rydym ni’n defnyddio gwifrau BT, ac rydyn ni’n defnyddio system GSM, fel cardiau SIM symudol mewn ffordd, i ddod â gwybodaeth yn ôl o’r safleoedd yma i mewn i’n cyfrifiaduron. Mae gennym ni ddau weinydd mawr yng Nghaerdydd, ac mae’r rhain yn gyfrifol am gasglu’r wybodaeth a’i gwasgaru i’n systemau mewnol ni.

LlB: Felly sut mae hynny’n ein helpu i ni reoli perygl llifogydd yng Nghymru?

TO: Mae gennym ni wahanol dimau o fewn yr adran Llifogydd. Mae gennym ni dimau mapio a modelu, sy’n defnyddio data i ddiweddaru mapiau perygl llifogydd. Mae ein tîm Darogan Llifogydd yn defnyddio’r wybodaeth i redeg gwahanol fodelau er mwyn gweld lle gallai llifogydd ddigwydd ac ymhen faint o amser. Mae’r tîm yna wedi cynyddu dros y deng mlynedd diwethaf i fod yn dîm pwysig iawn yn fewnol i ni, fel timau sy’n ei ddefnyddio. Wedyn mae’r timau Rhybuddio a Hysbysu a’r swyddogion sydd ar ddyletswydd yn monitro sefyllfa llifogydd yn fyw. Maen nhw’n edrych ar afonydd a’r lefelau, ac edrych faint o law sydd wedi disgyn, a defnyddio’r safleoedd yma i gyd i fonitro fel eu bod nhw wedyn yn gallu penderfynu os oes angen cyhoeddi rhybudd llifogydd ac anfon negeseuon priodol allan i’r cyhoedd, neu bwy bynnag sydd wedi arwyddo i fyny i’r system llifogydd ar gyfer Cymru gyfan.

LlB: Diddorol. Mae’n ymddangos i mi fod gwaith dy dîm di yn bwydo i waith gweddill y tîm o ran llifogydd, felly gwaith dy dîm di yw’r craidd mewn ffordd, dyna sy’n dechrau sut rydyn ni’n mesur ac yn trio rhagweld pethau.

TO: Ie, a heb hynny yn ei le, dydi gwaith pobl eraill methu mynd yn ei flaen fel petai, achos dyma ydi’r sylfaen i’r data y mae pawb yn ei ddefnyddio. Mae’r data yn hollol bwysig. Mae hwnnw hefyd yn helpu i gynhyrchu asesiadau ar ôl llifogydd, wrth i ni edrych faint o law sydd wedi disgyn, beth oedd y lefel yr oedd yr afon wedi’i chyrraedd, ac edrych ar bethau i weld os allwn ni wella’r hyn yr ydym ni wedi’i gyfleu fel gwasanaeth. Rydym ni’n defnyddio’r data yna i helpu i wella ein modelau i fwydo i mewn i’r broses mewn ffordd. Mae’r data yma hefyd yn cael ei ddefnyddio yn yr un ffordd, felly mae’n cael ei ddefnyddio gan y timau llifogydd a thimau adnoddau dŵr hefyd, felly mewn ffordd, yr ochr arall o’r sbectrwm i ni ydi ein bod ni hefyd yn delio mewn cyfnodau o sychder, i wneud yn siŵr bod digon o ddŵr yn ein hafonydd i gynnal ein pysgodfeydd ac unrhyw fywyd gwyllt arall. Ac mae hynny’n ochr arall i’r llifogydd mewn ffordd. Ond gyda’i gilydd, mae’r un adnoddau dŵr a llifogydd yn defnyddio’r un safleoedd a’r un wybodaeth.

LLB: Diddorol. Sut mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar waith dy dîm? A oes rhaid newid y ffordd yr ydych chi’n gweithio oherwydd hynny?

TO: Mae newid hinsawdd yn amlwg yn ein plith ni fel mae pethau, ac rydym ni’n gweld enghreifftiau yn barod o fwy o law dros y blynyddoedd diwethaf, lefelau afonydd yn mynd i lefelau nad ydyn nhw erioed wedi eu cyrraedd cynt. Ac mae hynny’n dod hefo rhesymau. Felly i ni, rydym ni’n gweld mwy o ddigwyddiadau glaw eithafol yn digwydd yn fwy aml. Ond nid yw hynny yng Nghymru yn unig, mae’n digwydd ar draws y byd yn gyffredinol mewn ffordd. Felly mae newid hinsawdd yn cael effaith. Mae’n gwneud ein gwasanaeth ni o fewn hydrometreg a thelemetreg yn bwysicach fyth yn fy marn i.

LlB: Ydi wrth gwrs. Ond hefyd mae’n bwysig nid yn unig bod y data yno, ac wrth gwrs, mae’n cael ei gasglu’n barhaol bob awr o’r dydd, ond hefyd mae’n rhaid ei bod hi’n bwysig iawn bod y system yn wydn a’n bod ni’n gallu dibynnu arni. Felly a oes tipyn o waith yn mynd i mewn i sicrhau, wrth gwrs bod y systemau’n gweithio, ond bod nhw’n parhau i weithio hefyd, a’u bod nhw’n ddigon diogel mewn ffordd i barhau i weithio?

TO: Rydym ni’n barhaol yn gorfod cynnal a chadw’r safleoedd i’r pwrpas hwnnw. Rydym ni’n trio edrych ar unrhyw dechnoleg sy’n mynd i wella’r gwasanaeth. Mae’r drefn a’r oes a’r amser yn newid. Rydym ni’n trio gofalu bod gennym ni fwy nag un elfen o fesur ar bob safle, er enghraifft pe byddai gennych chi wifren BT yn gostwng, yn lle mai dim ond hynny fyddai’n anfon y wybodaeth o’r safle, gallech chi golli’r safle’n gyfan gwbl. Ac ella bod y safle yna’n bwysig, felly rydym ni’n edrych ar wahanol fath o declynnau a gwahanol fath o offer mewn ffordd i ofalu bod gennym ni ddigon yno i fedru rhoi gwasanaeth mwy cyflawn. Rydym ni bob tro’n gorfod edrych ar hynny, ac ar ôl pob digwyddiad, gofalu bod pob dim yn dal yn ei le ac yn gweithio’n iawn. Mae hynny’n rhan o’n gwaith dyddiol ni mewn ffordd. 

LLB: Bydden i’n meddwl mai dyna’r math o waith sy’n mynd heb ei weld yn ddigon aml. Ond bydden i’n meddwl gyda’r ffordd mae’r dechnoleg wedi newid, mae’n rhaid bod pethau wedi newid cryn dipyn ers i ti ddechrau yn y maes yma? 

TO: Ydi tad, mae wedi newid yn sylweddol. Rydw i’n meddwl bod yr ochr telemetreg yn rhywbeth sydd wedi datblygu’n eang dros y blynyddoedd. Yn hanesyddol, roedd mwyafrif y wybodaeth yma’n waith a oedd yn cael ei wneud ar siartiau papur yn y safleoedd. Roedden nhw’n gorfod cael eu newid, eu hail osod, ac felly’r oedd hi. Ond mae’r pwyslais a'r ffordd y mae’r rhwydwaith wedi cael ei fonitro’n reit debyg mewn ffordd o ran hynny, dim ond y dechnoleg sy’n mynd o’i chwmpas hi sydd wedi newid. Mae wedi cael ei addasu dros y blynyddoedd.

LlB: Ydi. Un peth efallai nad yw pobl yn gwybod amdano yw bod pobl yn gallu mynd ar ein gwefan ni nawr neu unrhyw bryd a gweld yr afon sy’n lleol iddyn nhw efallai os mae’n brif afon, beth yw’r lefel sydd yn yr afon ar hyn o bryd, a dy waith di a gwaith dy dîm di sy’n cynnal hynny yn y Gogledd.

 Ie, ac mae hwnnw’n wasanaeth sydd wedi cael ei roi mewn lle i hwyluso pobl i fedru gweld drostynt eu hunain mewn ffordd. Ond eto, dydi’r system honno ddim yn mynd i weithio os nad yw’n safleoedd ni’n mynd i weithio. Felly mae honno’n elfen arall o bwysigrwydd y gwasanaeth sydd dan sylw yma.

 

LlB: Un cwestiwn cyn i orffen. Rydym ni’n hoff iawn o ofyn beth yw dy hoff beth am y swydd a beth sy’n dy gadw di yn y rôl yma?

TO: I mi’n bersonol, rydw i’n mwynhau’r gwaith yr ydyn ni’n ei wneud, ac rwy’n mwynhau ei bwysigrwydd. Rydw i’n mwynhau’r ffaith ein bod ni mewn ardal mor arbennig mewn ffordd, fel Gogledd Cymru a Chymru gyfan. Mae’n braf gweithio hefo’r bobl sydd yn yr un maes. Mae’r tîm yr ydw i’n ei reoli, mae pawb yn coelio’n gryf yn yr hyn maen nhw’n ei wneud ac yn mwynhau’r hyn maen nhw’n ei wneud, ac yn deall pa mor bwysig yw’r gwaith i’r hyn y mae’r corff angen ei wneud. Rydym ni’n gweithio mewn amser sy’n newid yn sydyn iawn, ac mae addasu’r ffordd yr ydym ni’n gweithio’n broses sy’n mynd yn ei flaen ac yn parhau. Mae hynny’n rhywbeth sy’n cadw diddordeb, oherwydd nid ydym yn gwybod beth sy’n dod nesaf, ond rydym ni’n gallu bod yn rhan o’r hyn sy’n bosib i ni ei siapio. Dyna beth sy’n fy nghadw i i fynd mewn ffordd, ac yn fy nghadw i yn y gwaith. Fel yr ydw i’n ei ddweud, mae’n waith diddorol, ac rydym ni’n cael gweld y wlad fel y mae hi, mor brydferth ag ydi hi.

 

LlB: Diolch yn fawr am siarad gyda mi heddiw Tim. Mae’n amlwg yn waith diddorol iawn, ond hefyd yn hynod o bwysig, a sut mae’n bwydo i mewn, fwy neu lai i bopeth arall yr ydym ni’n ei wneud o ran llifogydd yma yng Nghymru. Felly diolch am siarad gyda mi.

TO: Croeso.

 

LlB: Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r bennod heddiw. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu gwestiynau, gallwch chi gysylltu â ni ar Facebook, Twitter neu Instagram neu drwy anfon e-bost i’r cyfeiriad sydd i'w weld yn nodiadau'r sioe. Byddwch chi hefyd yn dod o hyd i ddolenni i'n gwefannau rheoli perygl llifogydd lle gallwch chi weld rhai o'r pethau y buon ni’n siarad amdanyn nhw yma heddiw.

Diolch am wrando!