Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru

7. Rhagweld Llifogydd

October 16, 2023 Cyfoeth Naturiol Cymru Season 2 Episode 7
Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru
7. Rhagweld Llifogydd
Show Notes Transcript

Yn y gyfres hon, byddwch yn clywed gan wahanol dimau Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gweithio gyda’i gilydd i leihau'r perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru.

Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw'r perygl o lifogydd, yr hyn yr ydym yn ei wneud i'w reoli yng Nghymru, a pha effaith y mae'r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.

·       Tudalennau Gwe Rheoli Perygl Llifogydd

·       Atebion sy’n seiliedig ar natur ar gyfer rheoli arfordirol

·       Cynlluniau Rheoli Traethlin

·       Cronfa Ddata Cenedlaethol Asedau Llifogydd

·       Rhybuddion llifogydd

·       Gwirio lefelau'r afonydd, glawiad a data môr

·       Rhagolygon perygl llifogydd 5 diwrnod

·       Gwiriwch eich perygl llifogydd ar fap (Map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru)

·       Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio / Datblygu Cyngor

·       Swyddi, prentisiaethau a lleoliadau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau ar unrhyw beth a gwmpesir yn y gyfres podlediad hon, cysylltwch â ni ar FloodRiskManagement.Strategic@naturalresourceswales.gov.uk 

LLB: Helo ‘na a chroeso i gyfres fach bodlediadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar reoli perygl llifogydd. Fy enw i yw Llion Bevan ac rwy’n gweithio fel Uwch Swyddog Cyfathrebu i Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Yn y gyfres hon, byddwch yn clywed am y gwahanol dimau sy’n gweithio gyda’i gilydd i leihau’r perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru. Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw perygl llifogydd, beth rydym ni’n ei wneud i reoli’r risg yng Nghymru, a pha effaith mae’r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. 

LLB: Helo a chroeso i’r seithfed bennod yn y gyfres fach ar Reoli Perygl Llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru! Heddiw, mae Samantha Mitchell a Nia Crayford yn ymuno â fi. Mae’r ddwy yn gweithio yn ein tîm Rhagweld Llifogydd Cenedlaethol. Diolch am ymuno gyda fi heddi, a chroeso! 

Cyn in ni mewn i’r pwnc heddi, ry ni eisiau gwybod ychydig mwy am y pobl sy’n gweithio i ddiogelu cymunedau Cymru rhag llifogydd. Alla chi ddweud i ni beth yw eich swydd, ac ychydig am eich cefndir a sut daetho chi i weithio yn y maes? 

NC: Ie. So fe wnes i radd Daearyddiaeth yn y brifysgol, ac, ie, oeddwn i wastad eisiau gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru. So, oeddwn i’n cadw llygad ar y swyddi gwag. I gychwyn, dechreuais i yn y tîm Cyfleusterau yn gweithio ar y dderbynfa yn un o swyddfeydd Caerdydd, ac yna, ar ôl ychydig fisoedd pan ddaeth swydd i fyny yn y tîm, symudais i’r adran Rhagweld Llifogydd. So rydw i wedi bod yn y tîm ers chwe blynedd nawr, ac rwy'n gweithio ar y systemau, y rota ddyletswydd a'r gweithdrefnau gweithredol.

 

LLB: Diolch – a Sam?

SM: Ces i fy ngradd mewn Gwyddor yr Amgylchedd, ac ar ôl graddio ym 1999 dechreuais i weithio i Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a gafodd ei huno â sefydliadau amgylcheddol eraill yn y pen draw i ddod yn Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2013. 

 

Roeddwn i yn y tîm Hydrometreg am y ddwy flynedd gyntaf, yna symudais i i'r tîm Hydroleg am tua chwe blynedd, a nawr dw’i wedi bod yn gweithio yn yr adran Rhagweld Llifogydd ers y 14 blynedd diwethaf. 

 

Dwi’n gyfrifol am yr holl fodelau rhagweld ar gyfer afonydd, sef sut rydyn ni’n monitro ac yn rhagweld llifogydd posibl o afonydd yma yng Nghymru.

 


LLB: Diolch. A dewch i ni gael dechrau gyda’r pethau sylfaenol; beth yn union yw gwaith tîm Rhagweld Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru? 

 

NC: Ok so mae ein tîm yn gyfrifol am redeg a chynnal y gwasanaeth rhagweld gweithredol ar gyfer llifogydd posibl yng Nghymru. So mae hwn yn wasanaeth 24/7 sy’n helpu ein cydweithwyr mewn timau eraill yn Cyfoeth Naturiol Cymru i gyhoeddi negeseuon ‘llifogydd – byddwch yn barod’ a rhybuddion llifogydd ledled Cymru pan fydd perygl o lifogydd er mwyn helpu’r cyhoedd i baratoi a cymryd camau os oes angen. So, i wneud hyn, rydyn ni’n defnyddio modelau cyfrifiadurol rydyn ni’n eu rhedeg mewn amser real ar adegau o law trwm neu lanwau uchel er enghraifft, er mwyn rhagweld pa ardaloedd allai orlifo o ganlyniad i lefelau uchel afonydd neu lefelau uchel y môr. So mae deg ohonom ni yn y tîm Rhagweld Llifogydd, ac mae ein gwaith wedi’i rannu’n dri phrif faes – so afonydd, a wedyn arfordiroedd a’r systemau cyfrifiadurol sydd eu hangen ar gyfer ein gwaith. 

 

LLB: Felly sut yn union ydych chi’n rhagweld llifogydd?

 

SM: Rydy ni’n defnyddio amrywiaeth o fodelau a meddalwedd cyfrifiadurol arbenigol i ragfynegi lefelau afonydd neu lefel y llanw rhwng awr ymlaen llaw a phum niwrnod ymlaen llaw. Ar gyfer ein modelau afonydd ‘dy ni’n defnyddio data o rwydwaith lefelau afonydd a arsylwir Cyfoeth Naturiol Cymru – dyma’r data rydyn ni’n ei gael gan ein cydweithwyr yn yr adran Hydrometreg a Thelemetreg y byddwch chi wedi clywed amdanyn nhw mewn pennod flaenorol. 

 

‘Dy ni hefyd yn defnyddio data ar ragolygon glawiad gan y Met Office, felly y rhifau tu ôl i'r smotiau o law a welwch chi ar y teledu yn y rhagolygon tywydd. Ar gyfer ein model arfordirol ‘dy ni’n defnyddio data o ragamcanion llanwau, data arsylwadol o fwiau tonnau a gorsafoedd gwynt a data gwynt a thonnau rhagamcanol gan y Met Office hefyd.

 


LLB: Ble ydych chi'n cael y modelau hyn? Ydych chi'n eu creu nhw neu'n eu datblygu eich hunain? 
 

SM: Ydyn. ‘Dn ni’n defnyddio data o ddigwyddiadau tywydd mawr sydd wedi digwydd yn y gorffennol-  fel Storm Ciara a Storm Dennis yn ôl yn 2020. Rydyn ni'n rhedeg y modelau i weld sut mae'r canlyniadau'n cymharu â'r hyn ‘dyn ni'n gwybod a ddigwyddodd yn ystod y digwyddiadau hynny, ac yna, rydy ni’n addasu paramedrau'r model nes i ni gael y cyfatebiad agos...agosaf i'r lefelau a gafodd eu harsylwi. 

 

Mae hyn yn rhan o’r beth dw’in gyfrifol amdano ar yr ochr afonol gyda Rachel a Siân yn y tîm. Mae Neil yn ein tîm yn gwneud pethau tebyg ar gyfer y modelau arfordirol. 

 

Ar ôl i'r modelau gael eu datblygu, maen nhw’n cael eu trosglwyddo i Christopher, Nia a Lisa sy'n eu ffurfweddu nhw i'r ffeiliau a'r fformatau cywir i'w defnyddio gan ein system rhagweld. A wedyn, ar ôl i’r modelau ddod yn fyw, rydyn ni’n monitro eu perfformiad yn gyson, a byddwn ni’n mynd yn ôl ac yn eu hail-raddnodi ar ôl digwyddiadau os dydyn ni ddim yn meddwl eu bod nhw’n perfformio cystal ag y dylen nhw, felly rydyn ni’n ceisio gwella ansawdd a chywirdeb ein gwaith rhagweld yn gyson.

 

NC: Ie – so y brif system rydyn ni'n ei defnyddio yn y tîm yw FEWS, sy'n sefyll am Flood Early Warning System. Mae y system FEWS yn cael ei defnyddio’n eang mewn llawer o wledydd eraill dros y byd.

 

Aeth ein fersiwn bresennol ni o FEWS yn fyw yn 2016 a dyma'r tro cyntaf yn unrhyw le yn y byd i FEWS gael ei rhedeg o bell yn y cwmwl yn hytrach nag ar weinyddion lleol pwrpasol. Mae hyn yn ei gwneud hi’n system llawer mwy gwydn. 

 

So mae FEWS yn cynnwys yr holl ffeiliau model sydd wedi cael eu ffurfweddu. Mae hefyd yn derbyn yn barhaus y data a arsylwir gan y gorsafoedd monitro y mae ein cydweithwyr yn yr adran Hydrometreg a Thelemetreg yn gyfrifol amdanyn nhw, ynghyd â’r rhagolygon gan y Met Office bob 15 munud, felly mae ganddi’r wybodaeth ddiweddaraf bob amser, yn barod i’r rhagolygon gael eu rhedeg pan fydd angen. 

 

Mae'r system yn hyblyg iawn, a gallwn ni redeg rhagolygon pryd sydd angen neu eu gosod nhw i redeg yn awtomatig cyn glaw trwm. Wedyn, mae’r rhagolygon sydd wedi cael eu cynhyrchu yn cael eu hanfon i’r Gwasanaeth Rhagolygon Llifogydd ar y We, sef gwefan fewnol lle gall staff Cyfoeth Naturiol Cymru weld y rhagolygon er mwyn eu helpu i benderfynu a oes angen iddyn nhw roi unrhyw rybuddion ai peidio. 

 

Byddwch chi’n clywed mwy am y rhan honno o’r gwaith yn y bennod nesaf ar rybuddio a hysbysu am llifogydd. So ie, felly, mae FEWS yn hanfodol i ni wrth ddarparu’r gwasanaeth rhagweld gweithredol.

 

 


LLB: Mae’r cyfan yn swnio’n dechnegol iawn! Sut mae’r holl elfennau technegol hyn yn dod at ei gilydd pan gawn ni dywydd garw? 
 

NC: Um so, cyn gynted bod tywydd garw ar ei ffordd, er enghraifft stormydd mawr fel Dennis neu Ciara, bydd pwy bynnag sydd ar ddyletswydd ar y pryd yn dechrau paratoi yn syth. 

 

So mae hyn yn cynnwys cysylltu â’r Met Office, rhedeg gwahanol senarios drwy ein modelau er mwyn cael ystod o ganlyniadau posibl, dechrau llunio rotâu shift i sicrhau bod gennym yr ymateb 24/7 hollbwysig hwnnw, a dechrau briffio gweddill Cyfoeth Naturiol Cymru. 

 

Mae yna hefyd ragolwg perygl llifogydd pum diwrnod ar gael i’r cyhoedd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, a ni sy’n helpu i bennu’r risg ar ei gyfer. 

 

So wedyn pan fydd y digwyddiad, neu'r storm, yn dechrau, byddwn ni fel arfer yn agor yr Ystafell Digwyddiadau Cenedlaethol yng Nghaerdydd. Mae gennym ni ddau unigolyn sy’n monitro a rhagweld ar yr pryd ar shifftiau wyth awr, efallai’n cwmpasu gwahanol rannau o Gymru, neu efallai y bydd un o ni yn monitro’r afonydd a’r llall yn monitro’r arfordiroedd, ond mae’n jyst dibynnu beth sydd angen ar y pryd. Fel arfer rydy ni’n rhedeg y rhagolygon bob hanner awr a wedyn rydy ni’n trosglwyddo'r wybodaeth rhagweld i swyddogion eraill sydd ar ddyletswydd mewn gwahanol dimau fel y gallan nhw ddechrau meddwl am gyhoeddi’r negeseuon ‘llifogydd – byddwch yn barod’ a’r rhybuddion i'r cyhoedd. 

 

Yna, ar ôl y digwyddiad, rydyn ni’n dadansoddi perfformiad y modelau i weld pa mor dda oedden nhw a phenderfynu a oes angen eu hail-raddnodi nhw. Rydyn ni hefyd yn helpu i gasglu ystadegau o'r digwyddiad, er enghraifft, um, ymhle oedd y cyfansymiau glawiad uchel, neu a oes unrhyw gofnodion glawiad neu lefelau afon sy’n uwch nag erioed. A wedyn mae hyn gyd yn ein helpu ni i gasglu mwy o ddata i'w ddefnyddio yn y dyfodol.

 


LLB: A oes unrhyw heriau o ran rhagweld llifogydd yng Nghymru? 

 

SM: Llawer o heriau yng Nghymru! 

 

Mae gan Gymru arfordir hir - dros 800 milltir ohono -  felly mae llawer o effeithiau posibl yn sgil llanwau. Hefyd, mae gan aber Hafran...Hafren yr ail amrediad llanw uchaf yn y byd, mae'n tua 14 metr felly mae hynny'n heriol iawn i'w fodelu a'i rhagweld. 

 

Dy ni hefyd yn cael llawer o donnau mawr, yn enwedig o amgylch Sir Benfro a Bae Ceredigion. So um, dyma’r tonnau chwyddo sy’n croesi’r Iwerydd, so mae’r rhain yn wych i syrffwyr, ond yn eithaf anodd eu rhagweld. 

 

Mewndirol, mae rhan fwyaf o Gymru yn fynyddig iawn, ac mae mynyddoedd yn achosi mwy o law wrth i aer symud i fyny a throstyn nhw ond mae'n anodd iawn rhagweld faint mwy o law fydd yna. Mae’r mynyddoedd hefyd yn rhwystro pelydrau’r radar tywydd, felly mewn sawl rhan o Gymru mae’n anodd cael data dibynadwy ar faint o law sy’n disgyn mewn gwirionedd, pa mor gyflym, ac i ba gyfeiriad mae’r cymylau’n symud. 

 

Yn olaf, mae gan Gymru lawer o ddalgylchoedd afon bach a serth gyda chreigiau anathraidd oddi tanynt, felly mae hyn yn golygu bod yr afonydd yn codi’n gyflym iawn mewn ymateb i law, ac nid yw hyn yn rhoi llawer o amser i ni rhagweld beth all ddigwydd nac i weithredu.
 
 


LLB: Um...Ry’ ni wedi trafod yn y gyfres yma yn barod am yr argyfwng hinsawdd. Ydych chi’n gweld bod newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eich gwaith?

 

NC: Ie - Rydyn ni’n teimlo bod newid yn yr hinsawdd wedi dechrau effeithio ar ein gwaith, yn enwedig ar y rôl y swyddog ar ddyletswydd, sef y system sydd gennym ni ar waith i sicrhau bod pobl ar alwad 24/7 i ymateb i lawer o wahanol fathau o ddigwyddiadau amgylcheddol yng Nghymru. 

 

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld llawer o recordiau’n cael eu torri ar gyfer lefelau afonydd uchaf, ar draws pob rhan o Gymru. Er enghraifft, ym mis Hydref 2018, torrodd Storm Callum recordiau mewn llawer o orsafoedd monitro lefelau afonydd yn ne-orllewin Cymru. Yna ym mis Chwefror 2020, torrodd Storm Ciara recordiau ar draws y gogledd, ac wythnos yn ddiweddarach torrodd Storm Dennis recordiau ar draws y de-ddwyrain. 

 

Mae rhai o'r gorsafoedd sy'n cofnodi'r lefelau uchaf hyn wedi bod yn eu lle ers 50 i 60 mlynedd - neu fwy - felly mae'r lefelau hyn sydd wedi torri recordiau yn eithaf arwyddocaol mewn gwirionedd.

Rydyn ni hefyd yn dechrau sylwi ar gynnydd yn nifer y stormydd a enwir a nifer y digwyddiadau mwy sylweddol yn ystod misoedd y gaeaf. So ym mis Chwefror 2022 cawson ni dair storm wedi’u henwi mewn cyfnod o wythnos. Unwaith eto, yn ystod yr olaf o'r rhain, Storm Franklin, torrwyd recordiau lefelau afon hirsefydlog ar afon Hafren ac afon Efyrnwy yng nghanolbarth Cymru. 

 

A hefyd, rydyn ni’n bendant wedi bod yn brysurach pan fyddwn ni ar ddyletswydd. Mae'n rhaid i ni alw ar y swyddog ar ddyletswydd cynorthwyol i helpu yn amlach nawr, ac yn ddiweddar bu'n rhaid i ni gynyddu nifer y swyddogion ar ddyletswydd ar y rota fel ein bod ni’n gallu ymdopi'n well â'r cynnydd yn y llwyth gwaith. 

 

 

Mae mwy o'r digwyddiadau tywydd eithafol hyn hefyd yn cael effaith ar y gwaith bob dydd sy'n gorfod cael llai o flaenoriaeth pan fyddwn yn delio â digwyddiadau mawr, oherwydd mae pawb yn helpu mas. Um, a wedyn mae’n hefyd yn golygu bod mwy o waith i’w wneud ar ôl y digwyddiadau i gadw ar ben yr holl waith dadansoddi ac adrodd sy'n helpu i wella ein systemau a'n rhagolygon yn barhaus.

 


LLB: A ydych chi'n gweld y gwasanaeth yn datblygu yn y dyfodol er mwyn mynd i'r afael â phethau fel newid yn yr hinsawdd? 
 

SM: Ydw yn bendant. Hoffen ni gynyddu nifer y lleoliadau dy ni’n cynhyrchu rhagolygon o afonydd ar eu cyfer a chwmpasu mwy o ddalgylchoedd. Felly, ar hyn o bryd rydyn ni’n cynhyrchu rhagolygon o afonydd ar gyfer 117 o leoliadau sy'n cwmpasu 30 o ddalgylchoedd - sy'n nifer mawr, ond dydyn ni ddim yn cynhyrchu rhagolygon o hyd ar gyfer pob lleoliad yr ydyn ni’n cyhoeddi rhybuddion ar eu cyfer yng Nghymru. 

 

Felly, dros y pum i ddeg mlynedd nesaf ‘dy ni eisiau cynyddu’r rhagolygon i 100% o’r cwmpas a ddylai fynd â ni hyd at tua, ooh 215 dwi’n meddwl o leoliadau y, y cynhyrchir rhagolygon o afonydd ar eu cyfer, ar draws 43 o ddalgylchoedd. 

 

Ar yr ochr arfordirol, mae gennym ni 87 o le...leoliadau rydyn ni’n cynhyrchu rhagolygon o’r arfordir ar eu cyfer sy’n gwmpas o 100%. Felly ar gyfer y lleoliadau hyn ‘dyn ni’n gweithio i wella’r rhagolygon trwy, er enghraifft, fireinio proffiliau traethau a phroffiliau amddiffynfeydd o fewn y modelau, a dilysu’r canlyniadau a ragwelwyd gyda’r data a arsylwyd er mwyn gweld a yw'r negeseuon ‘llifogydd – byddwch yn barod’ a rhybuddion wedi cael eu gosod ar y lefelau cywir neu a oes angen eu haddasu nhw. 

 

Byddwn ni hefyd yn parhau i weithio gyda’r Met Office i geisio gwella’r rhagolygon tywydd, a fyddai, yn ei dro yn cynyddu’r amser paratoi ar gyfer cyhoeddi negeseuon ‘llifogydd – byddwch yn barod’ a rhybuddion. 

 

Yn y dyfodol, hoffen ni hefyd symud tuag at ragolygon tebygol, sef rhai lle yn hytrach na defnyddio un mewnbwn rhagolwg o’r Met Office fel ‘dyn ni’n neud ar hyn o bryd, byddwn ni’n defnyddio hyd at 24 o fewnbynnau rhagolwg o’r Met Office, sydd ychydig yn wahanol er mwyn cynhyrchu ystod fawr o allbynnau rhagolwg gwahanol ar gyfer afonydd a’r arfordir. Bydd hyn yn ein helpu ni i benderfynu pa mor debygol yw gwahanol senarios o ddigwydd, a fydd yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau mwy gwybodus.

 

 


LLB: Mae'n swnio fel bod llawer o egni ac uchelgais yn y tîm i wneud mwy a gwella'n gyson, nid yn unig i gadw i fyny gyda’r hinsawdd, ond hefyd i gynnig gwasanaeth gwell ac yn barhaus. 

 

Un peth ni’n lico gofyn i bobl ar, ar ddiwedd y podlediad yw beth yw’ch hoff rhan o’ch swydd, neu beth sy’n cael chi mas o’r gwely yn y bore?

 

NC: Um.. Mae'n just swydd ddiddorol iawn i'w gwneud. Mae’n wych gweithio fel rhan o dîm lle mae pawb yn cyfrannu elfen wahanol o’r gwasanaeth. So rwy'n hoff iawn o dderbyn y modelau afon mae Sam a'r lleill wedi’u datblygu, yna eu ffurfweddu ar y system yn fy swydd bob dydd, ac yna cael gweld y modelau hynny’n cael eu defnyddio gen i a'r swyddogion eraill ar ddyletswydd mewn amser real pan fyddant eu hangen yn ystod y tywydd garw. 

 

Mae'n wych gweld sut maen nhw'n perfformio a'r gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud i, i sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o'r hyn a allai ddigwydd tra hefyd yn rhoi cymaint o amser â phosibl iddyn nhw i baratoi a chymryd unrhyw gamau sydd eu hangen. 

 

SM: Ie – Dwi’n cytuno. Mae'n swnio'n ystrydebol iawn, ond y peth gorau i mi yw gwybod bod ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth – so ein bod ni’n helpu yn y broses honno o anfon rhybuddion llifogydd allan yn gynharach i'r rheini sydd mewn perygl o lifogydd, fel bod ganddyn nhw fwy o amser i weithredu er mwyn amddiffyn eu cartrefi a'u bywoliaeth. 

 

O ystyried yr heriau o ran rhagweld yng Nghymru nid oes gennym ni lawer o amser bob amser, ond mae'n wych pan ddaw popeth at ei gilydd. 

 

So er enghraifft, yn 2012 bu storm fawr iawn y rhagwelwyd y byddai’n effeithio ar Lanelwy yng ngogledd-ddwyrain Cymru dros nos, ond roedd ein rhagolygon y bore cynt yn golygu bod y cynghorau lleol wedi penderfynu sefydlu canolfannau gwacáu yn y prynhawn, a digwyddodd y trefniadau gwacáu tua 9 o’r gloch yn y nos. Ond os o ni ddim wedi cael unrhyw ragolygon, fydden ni ddim hyd yn oed wedi gwybod y byddai angen gwacáu tan tua 3 o’r gloch y bore, felly efallai na fyddai’r canolfannau wedi bod yn barod hyd yn oed. Byddai wedi bod yn llawer anoddach a thrall... thrallodus deffro pobl i'w gwacáu ganol nos, ac mae siawns dda na fydden nhw wedi gallu gwacáu pawb mewn pryd. Ond yn ystod y digwyddiad hwnnw roedd y ffaith bod rhagolygon da ar gael ymlaen llaw ar gyfer Llanelwy yn golygu bod pawb wedi cael digon o amser i gynllunio a pharatoi.

 

LLB: Ac mae hwnna’n bwysig iawn nag yw e? A roedd e’n mor werth chweil gwybod eich bod chi'n gwneud gwaith sy’n cael gwahaniaeth gwirioneddol. 

 

Diolch i'r ddwy ohonoch chi am roi o'ch amser i siarad gyda fi heddiw. Mae wedi bod yn ddiddorol iawn clywed am y gwaith i chi’n neud i helpu cymunedau yng Nghymru a sut i ni’ i baratoi ar gyfer llifogydd yn y dyfodol a chlywed am y gwahaniaeth y mae hynny'n ei wneud mewn bywyd go iawn. So diolch yn fawr i chi. 

 

LlB: Dw i’n gobeithio eich bod wedi mwynhau’r bennod hon. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau, gallwch gysylltu â ni ar Facebook, Twitter neu Instagram neu drwy’r cyfeiriad e-bost sydd yn nodiadau'r sioe yma. Fe welwch hefyd yn ddolenni i'n tudalennau gwe ar reoli perygl llifogydd lle gallwch weld rhai o'r pethau dyn ni wedi sôn am yma heddiw. Diolch am wrando.