Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru

8. Rhybuddio a Hysbysu

October 16, 2023 Cyfoeth Naturiol Cymru Season 2 Episode 8
Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru
8. Rhybuddio a Hysbysu
Show Notes Transcript

Yn y gyfres hon, byddwch yn clywed gan wahanol dimau Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gweithio gyda’i gilydd i leihau'r perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru.

Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw'r perygl o lifogydd, yr hyn yr ydym yn ei wneud i'w reoli yng Nghymru, a pha effaith y mae'r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.

·       Tudalennau Gwe Rheoli Perygl Llifogydd

·       Atebion sy’n seiliedig ar natur ar gyfer rheoli arfordirol

·       Cynlluniau Rheoli Traethlin

·       Cronfa Ddata Cenedlaethol Asedau Llifogydd

·       Rhybuddion llifogydd

·       Gwirio lefelau'r afonydd, glawiad a data môr

·       Rhagolygon perygl llifogydd 5 diwrnod

·       Gwiriwch eich perygl llifogydd ar fap (Map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru)

·       Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio / Datblygu Cyngor

·       Swyddi, prentisiaethau a lleoliadau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau ar unrhyw beth a gwmpesir yn y gyfres podlediad hon, cysylltwch â ni ar FloodRiskManagement.Strategic@naturalresourceswales.gov.uk 

LLB: Helo a chroeso i gyfres fach hon o bodlediadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar reoli perygl llifogydd. Fy enw i yw Llion Bevan ac rwy’n gweithio fel Uwch Swyddog Cyfathrebu i Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn y gyfres hon, byddwch yn clywed am y gwahanol dimau sy’n gweithio gyda’i gilydd i leihau’r perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru. Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw perygl llifogydd, beth rydym ni’n ei wneud i reoli’r risg yng Nghymru, a pha effaith mae’r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. 

LLB: Helo a chroeso i bennod 8 o’r gyfres fach ar Reoli Perygl Llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru! Heddiw mae Gwenno a Gwyn, sy'n gweithio yn ein tîm Rhybuddio a Hysbysu gweithredol yng Ngogledd Cymru yn ymuno â mi. Croeso bawb, a diolch yn fawr am ymuno â ni! 

C1 – I ddechrau, allwch chi ddweud ychydig wrthyf i amdanoch chi? Beth sydd wedi eich tywys at y rôl hon, a Cyfoeth Naturiol Cymru? 

GM – Rwyf wedi bod yn gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru, ac Asiantaeth yr Amgylchedd cyn hynny ers dros 10 mlynedd bellach. Gwnes i fy ngradd israddedig mewn Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Bangor. Fel rhan o’m blwyddyn gyntaf, bu’n rhaid i mi fynd ar leoliad proffesiynol pedair wythnos, ac fe wnes i hwnnw gyda’r Tîm Arfarnu Ecolegol yn Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Treuliais bedair wythnos yn gwneud gwaith pysgota trydan er mwyn ymchwilio i boblogaethau o eogiaid a brithyllod mewn afonydd ar draws Gogledd Cymru. Yn dilyn y lleoliad cyntaf hwnnw, roeddwn i’n ffodus o gael contract â thâl dros yr haf i wneud rhagor o waith pysgota trydan, ond hefyd samplu ansawdd dŵr afonydd a dŵr ymdrochi. Gwnes i hyn am rai blynyddoedd cyn cael cyfle i ymuno â’r tîm Rheoli Digwyddiadau Llifogydd fel swyddog Ymwybyddiaeth Llifogydd Cymru. Roedd hyn yn bennaf yn ymwneud â churo drysau eiddo a oedd mewn perygl o lifogydd a cheisio cael pobl i gofrestru â'n Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd. Wrth i amser fynd yn ei flaen, datblygais fy sgiliau a’m gwybodaeth o fewn y tîm, ac rwyf bellach yn gyfrifol am ein swyddogion ar ddyletswydd a gweithdrefnau ymateb gweithredol yng ngogledd-orllewin Cymru, gan gynnwys hyfforddiant. Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnaethom wahanu oddi wrth Asiantaeth yr Amgylchedd i ddod yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn fuan wedyn cafodd y tîm ei ailenwi’r tîm Rhybuddio a Hysbysu.

GT – Rwyf wedi bod â diddordeb yn yr amgylchedd ers amser maith, gan sefydlu'r grŵp ‘ysgolion gwyrdd’ yn fy ysgol uwchradd a mynd ymlaen i astudio Gwyddorau Amgylcheddol yn y brifysgol yn yr Alban a'r Iseldiroedd. Fel rhan o'm profiad gwaith, bûm yn gweithio gydag Ynni Cymunedol Cymru ac Ynni Ogwen ym Methesda. Pan oeddwn i yn fy arddegau cynnar, daeth fy ewythr o UDA draw ar ymweliad, ac fe ddigiodd wrthyf am ei fod e’n meddwl bod newid yn yr hinsawdd yn ffug a mod i wedi cael fy nghyflyru. Roeddwn innau wedi fy nghythruddo dipyn a phan ddaeth hi'n amser dewis fy ngradd prifysgol, cofiais pa mor rhwystredig oeddwn i wedi bod a phenderfynais i wneud rhywbeth yn ei gylch.

C2 – Allwch chi ddweud ychydig wrtha i am y tîm Rhybuddio a Hysbysu a'r gwaith rydych chi’n ei wneud yno? 

GM – Mae’r tîm Rhybuddio a Hysbysu yn gyfrifol am sicrhau bod y cyhoedd ac unrhyw un sy’n ymateb yn barod ar gyfer y posibilrwydd o lifogydd.

Rydyn ni’n gweithio i sefydlu a chynnal gwasanaeth rhybuddion llifogydd ar gyfer eiddo yr ystyrir eu bod mewn perygl o lifogydd o afonydd ac o lifogydd arfordirol.

Mae fy rôl i yn ymwneud â gwella’r gwasanaeth rhybuddion llifogydd ar gyfer gogledd-orllewin Cymru ac afon Dyfrdwy. Mae gen i hefyd rôl ar alwad, fel un o’r swyddogion rhybuddion llifogydd ar ddyletswydd ar gyfer y gogledd-orllewin, yn cwmpasu Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, rhannau o ogledd Ceredigion a hefyd arfordiroedd gorllewin Ynys Môn, Penrhyn Llŷn a Bae Ceredigion.

Rydyn ni hefyd yn gyfrifol am baratoi, cynllunio, a chydlynu ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i ddigwyddiadau llifogydd ac, yn dilyn hyn, cynnal dadansoddiadau ar ôl digwyddiad er mwyn cyfrannu at wella ein canllawiau a hyfforddi ein swyddogion ar ddyletswydd.

GT – Mae fy rôl yn ymwneud â delio â’r system rhybuddion llifogydd a gwneud yn siŵr bod pobl wedi’u cofrestru i dderbyn rhybuddion. Mae rhai cymunedau yng ngogledd a chanolbarth Cymru wedi datblygu Cynlluniau Llifogydd Cymunedol sy’n helpu i’w gwneud i wrthsefyll llifogydd yn well, ac mae rhan o'm swydd yn ymwneud â chefnogi’r rhain. 

Mae gen innau rôl ar alwad hefyd, fel swyddog cynorthwyol rhybuddion llifogydd ar ddyletswydd. Fy rôl i yw cyhoeddi negeseuon a gynhyrchir gan swyddogion rhybuddion llifogydd ar ddyletswydd fel Hollie a Gwyn, a'u hanfon drwy'r system rhybuddion llifogydd.

Mae gennym ni nifer o rotas rheoli digwyddiadau yn ymwneud â llifogydd ar draws gogledd Cymru a rhannau o’r Canolbarth. Fel tîm, rydyn ni’n cydlynu’r rotas hyn a’u cynlluniau ar sut i ymateb i lifogydd.

Mae bod ar rota yn gofyn i chi fod ar gael unrhyw bryd pan fyddwch ar alwad, ac rydw i wedi cael fy neffro bob awr o'r dydd a'r nos ers i mi ddechrau! Rwy’n eithaf siŵr bod y tywydd yn gwaethygu pan ydw i ar alwad!

 

C3 – Sut rydych chi’n rhybuddio ac yn hysbysu'r cyhoedd am lifogydd posibl? 

GT – Rydyn ni’n rhybuddio ac yn hysbysu’r cyhoedd am lifogydd posibl drwy ein system rhybuddion llifogydd, sy’n gronfa ddata enfawr o gyfeiriadau a mapiau rhybuddion llifogydd sy’n dangos eiddo yr ystyrir eu bod mewn perygl o lifogydd. 

Rydyn ni’n anfon negeseuon drwy'r system rhybuddion llifogydd i ddweud wrth y cyhoedd bod llifogydd yn bosibl neu'n ddisgwyliedig. Gall y neges hon fod ar ffurf galwad ffôn, neges destun neu e-bost, gan ddibynnu ar yr hyn mae'r unigolyn hwnnw wedi'i ddewis. 

Mae tair lefel i’r rhybuddion, a’r lefel isaf yw neges ‘lifogydd – byddwch yn barod’, sy’n golygu bod llifogydd yn bosib ac i fod yn barod. Rydyn ni'n cyhoeddi negeseuon ‘llifogydd – byddwch yn barod’ pan ydyn ni'n credu bod llifogydd ar dir amaethyddol isel a ffyrdd yn debygol, ond nid llifogydd mewn eiddo. 

Y lefel nesaf i fyny yw rhybudd llifogydd, sy'n golygu bod disgwyl i lifogydd ddigwydd, a bod angen gweithredu ar unwaith. Rydyn ni'n cyhoeddi rhybuddion llifogydd pan ydyn ni'n meddwl bod llifogydd yn debygol o fynd i mewn i eiddo. 

Y lefel olaf o rybuddion yw rhybudd llifogydd difrifol sy'n golygu bod llifogydd difrifol a bod perygl i fywyd. Mae digwyddiadau sy'n gofyn am rybudd llifogydd difrifol yn brin ond maen nhw’n gallu digwydd ac maen nhw wedi digwydd.

GM – Mae rhai pobl yn dod atom ni i gofrestru eu manylion er mwyn cael y rhybuddion hyn, ond mae pobl eraill yn cael eu cofrestru'n awtomatig gan eu darparwr ffôn. Dydyn ni ddim yn gweld manylion cyswllt y bobl hyn, ond byddan nhw’n dal i gael neges pryd bynnag y bydd eu heiddo mewn perygl. 

Mae gwybodaeth am negeseuon a gyhoeddir ar gael ar ein gwefan, a gallwch glywed y wybodaeth ar y ffôn hefyd drwy ffonio'r Llinell Rybuddion Llifogydd; Floodline. Mae tua 40 mil o eiddo wedi’u leoli mewn ardaloedd rhybuddion llifogydd yng ngogledd a chanolbarth Cymru, ac mae manylion tua thri chwarter o’r rhain wedi’u cofrestru ar y system rhybuddion llifogydd. 

 

C4 – Rydyn ni wedi clywed am eich gwasanaeth a'ch system rhybuddion llifogydd a sut maen nhw'n cael eu defnyddio i rybuddio cymunedau am lifogydd posibl, ond sut mae e'n gweithio? 

GT - Rydyn ni’n darparu gwasanaeth rhybuddion llifogydd i bob ardal rhybuddion llifogydd. Rydyn ni’n creu’r rhain drwy adolygu a yw’r ardal benodol honno mewn perygl o ddioddef llifogydd drwy edrych ar Fap Asesu Perygl Llifogydd Cymru - y byddwch chi wedi clywed amdano yn ystod pennod flaenorol ac y gallwch gael mynediad ato drwy’r dolenni yn nodiadau’r sioe.

Rydyn ni’n dechrau drwy weithio gyda thimau eraill i gydlynu’r holl agweddau gwahanol sy’n ein galluogi i ddarparu gwasanaeth rhybuddion llifogydd. Rydyn ni’n defnyddio offer telemetreg arbenigol sydd wedi’u gosod mewn lleoliadau amrywiol ledled Cymru i gasglu data. Yna mae’r data hwn yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu modelau, gan roi syniad i ni sut y gall afonydd a’r môr ymateb i amodau gwahanol. Mae canlyniad y gwaith modelu hwn yn ein galluogi i osod trothwyon neu lefelau penodol y gall ein swyddogion ar ddyletswydd eu defnyddio i gyhoeddi negeseuon ‘llifogydd – byddwch yn barod’ a rhybuddion llifogydd. Mae gennym ni hefyd fodelau darogan llifogydd y gall ein swyddogion ar ddyletswydd eu defnyddio i gyhoeddi negeseuon.

GM – Mae gan bob ardal rhybuddion llifogydd drothwyon penodol, a phan fydd lefel yr afon neu’r lleoliad arfordirol yn cyrraedd y trothwy a osodwyd gennym, mae larwm yn cael ei anfon at y swyddog rhybuddion llifogydd ar gyfer yr ardal berthnasol. Yna mae'r swyddog yn penderfynu a oes angen cyhoeddi neges ac mae’n gallu monitro'r sefyllfa cyn gwneud penderfyniad. Yna mae'n cyfarwyddo'r swyddog cynorthwyol rhybuddion llifogydd i anfon neges ar y system rhybuddion llifogydd, sy'n cael ei hanfon at bob cwsmer cofrestredig yn ogystal â sefydliadau perthnasol.

Mae rhybuddion llifogydd difrifol yn cael eu trin yn wahanol i negeseuon ‘llifogydd – byddwch yn barod’ a rhybuddion llifogydd gan mai ystyr y neges yw perygl i fywyd. Oherwydd hyn, mae rhybuddion llifogydd difrifol fel arfer yn cael eu cyhoeddi ar sail arsylwadau yn y gymuned gan gydweithwyr yn ogystal ag arsylwadau gan ymatebwyr fel yr heddlu a'r Gwasanaeth Tân ac Achub.

 

C5 – Beth gall pobl ei wneud i sicrhau eu bod yn barod am unrhyw lifogydd posibl?

GT – Un o’r pethau cyntaf y dylai pobl ei wneud os ydyn nhw’n byw mewn ardal sy’n dueddol o gael llifogydd yw gwirio a allan nhw gofrestru i gael rhybuddion llifogydd. Gall pobl gofrestru i gael rhybuddion llifogydd mewn nifer o ffyrdd. Gallan nhw fynd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, gallan nhw ffonio'r Llinell Rybuddion Llifogydd, gallan nhw anfon e-bost at Cyfoeth Naturiol Cymru, neu gallwn ni roi ffurflen gofrestru bapur iddyn nhw i’w chwblhau. Rydyn ni’n anfon ffurflenni papur i fannau lle rydyn ni wedi sefydlu ardal rhybuddion llifogydd newydd. Rydyn ni’n gwybod bod rhai ardaloedd sydd â Chynlluniau Llifogydd Cymunedol a Wardeiniaid Llifogydd neu Wirfoddolwyr Llifogydd yn rhagweithiol wrth hyrwyddo ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd a chael pobl i gofrestru. Gan ddibynnu ar eu hanghenion, gallwn ni eu cefnogi gyda llenyddiaeth llifogydd a ffurflenni cofrestru papur.

Yn ogystal â gwybodaeth am sut i gael rhybuddion llifogydd mae ein gwefan yn cynnwys llawer o wybodaeth ychwanegol ar gyfer pobl sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd, gwybodaeth fyw am lefelau afonydd, a mapiau a gwasanaethau ynglŷn â sut i ganfod a yw eich eiddo mewn perygl o’r môr, o afonydd ac o ddŵr wyneb.

Ar gyfer cymunedau, mae gennym ni hefyd dempledi ar gyfer Cynlluniau Llifogydd Cymunedol a gwybodaeth am yr hyn y gall cymunedau ei wneud i baratoi ar gyfer llifogydd.

GM – Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynllunio beth i'w wneud mewn argyfwng. Byddai cynllun llifogydd yn cymryd peth o'r pwysau oddi arnoch chi, eich teulu ac y gymuned yn ystod cyfnod sydd eisoes yn llawn straen. Mae pacio pecyn llifogydd bob amser yn syniad da hefyd! Dylai pecyn llifogydd gynnwys yr holl bethau y byddai eu hangen arnoch chi yn ystod ac ar ôl llifogydd pe bai llifogydd yn effeithio arnoch chi, a dylai fod yn benodol ar gyfer eich anghenion. Gallai hyn gynnwys pethau fel pecyn cymorth cyntaf, meddyginiaeth, a dogfennau yswiriant. Yn ystod llifogydd gallwch wirio lefelau'r afon drwy gyfeirio at lefelau afonydd ar-lein, ond cofiwch gadw rhestr o rifau ffôn pwysig wrth law hefyd. Mae gennym ni lawer o daflenni ar ein gwefan, a all helpu'r cyhoedd. Os oes gennych chi offer amddiffyn rhag llifogydd fel giatiau llifogydd neu orchuddion brics aer gallwch chi eu gosod nhw yn eu lle er mwyn paratoi, a diffodd cyflenwadau nwy, trydan a dŵr a hefyd symud eich car i dir uwch.

Os byddwch yn cael neges ‘llifogydd – byddwch yn barod’, dylech chi ystyried paratoi pecyn llifogydd, monitro lefelau afonydd ac, os ydych chi’n ffermwr, dylech chi ystyried symud da byw ac offer o ardaloedd sy'n debygol o ddioddef llifogydd. Mae rhybudd llifogydd yn cyfeirio at lifogydd posibl mewn eiddo felly mae'n syniad da paratoi drwy symud eich teulu, anifeiliaid anwes a phethau gwerthfawr i fan diogel, diffodd cyflenwadau nwy, trydan a dŵr a gosod offer amddiffyn rhag llifogydd yn eu lle. Os caiff rhybudd llifogydd difrifol ei anfon, dylech chi aros mewn man diogel sydd â ffordd o ddianc, bod yn barod i adael eich cartref a chydweithio â’r gwasanaethau brys. 

 

C6 – A pan fod yn digwydd, beth ddylech bobl wneud? Sut ydych chi'n ymateb ac yn helpu pobl mae llifogydd yn effeithio arnyn nhw?

GM – Gall llifogydd achosi straen a bod yn frawychus, yn enwedig os nad yw pobl yn barod neu heb gofrestru i gael rhybuddion. Pan fydd llifogydd yn digwydd, mae gennym ystod o swyddogion ar ddyletswydd a fydd yn ymateb gan ddibynnu ar eu rôl. Bydd y swyddog rhybuddion llifogydd ar ddyletswydd yn cyhoeddi'r negeseuon ‘llifogydd– byddwch yn barod’ / rhybuddion llifogydd / rhybuddion llifogydd difrifol ac yn anfon y rhain at y swyddog cynorthwyol Rhybuddion llifogydd ar ddyletswydd i fewnbynnu'r manylion i'r system rhybuddion llifogydd. 

Byddan nhw hefyd yn trosglwyddo'r wybodaeth hon i'r swyddog digwyddiadau llifogydd ar ddyletswydd a'r swyddog cynorthwyol digwyddiadau llifogydd ar ddyletswydd. Mae'r swyddog digwyddiadau llifogydd ar ddyletswydd yn delio â digwyddiadau y mae aelodau o'r cyhoedd yn rhoi gwybod amdanynt, gan gynnwys coed sydd wedi cwympo a all fod yn rhwystro afonydd, er enghraifft, ac yn cyfathrebu â Wardeiniaid Llifogydd neu Wirfoddolwyr Llifogydd trwy'r Cynllun Llifogydd Cymunedol. 

Mewn rhai ardaloedd mae'r swyddog cynorthwyol digwyddiadau llifogydd ar ddyletswydd wedyn yn trefnu ymateb gweithredol a bennwyd ymlaen llaw. Mae hyn fel arfer er mwyn rheoli asedau o fewn cylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys gwirio a chlirio sgriniau sbwriel, gosod amddiffynfeydd dros dro, a mynd i orsafoedd pwmpio yn ystod llifogydd, os oes angen. 

GT – Ar ôl llifogydd, rydyn ni’n gweithio gyda chymunedau i ddarganfod cymaint o wybodaeth â phosib. Gall y cyfathrebu rhyngom ni hefyd ein harwain at wella'r gwasanaeth ar eu cyfer. Rydyn ni’n sicrhau bod ein swyddogion ar ddyletswydd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf drwy gynnal sesiynau dal i fyny a hyfforddi rheolaidd, yn ogystal â sesiynau ôl-drafod yn dilyn digwyddiadau. Drwy gynnal dadansoddiad o’r sefyllfa ar ôl digwyddiad, gallwn ni gadw cofnod o newidiadau angenrheidiol sy’n ymwneud â'n tîm ni a thimau eraill drwy gynhyrchu cynlluniau gwaith rydyn ni’n eu diweddaru'n rheolaidd fel y gallwn ni olrhain cynnydd mewn cymunedau amrywiol – mae hyn yn ein galluogi i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl.

Yn syth ar ôl i ni orffen ymateb i ddigwyddiad llifogydd posibl, os ydyn ni’n ymwybodol o Gynlluniau Llifogydd Cymunedol mewn cymuned sydd wedi dioddef llifogydd, byddwn ni’n ceisio cysylltu ag arweinydd y cynllun llifogydd er mwyn cael syniad o ba mor ddrwg oedd y difrod. Gallwn ni gyfeirio pobl sydd wedi dioddef llifogydd at adnoddau defnyddiol eraill a all eu helpu i ddelio ag ôl-effeithiau difrod yn sgil llifogydd. Dros yr hirdymor, gallwn ni drefnu sesiynau galw heibio neu gylchlythyrau ar gyfer cymunedau yr effeithiwyd arnynt fwyaf a chasglu gwybodaeth gan wahanol dimau o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru i’w rhannu â’r cyhoedd.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn cynnal ymchwiliad i’r llifogydd os ydyn ni o’r farn bod hynny’n briodol, a byddwn yn llunio argymhellion ar bethau mae modd eu gwella ar gyfer y dyfodol. Bydd ein tîm yn cydlynu'r argymhellion hyn i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cael eu gweithredu.

 

C7 – Ydy newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eich gwaith? Os felly, sut ydych chi'n ei weld yn dod yn fwy o her yn y dyfodol a sut fyddwch chi’n addasu eich ffyrdd o weithio er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn? 

GT– Dydw i ddim wedi bod yn gweithio yma ers amser hir iawn, ond mae rhai o'm cydweithwyr sydd wedi bod yma yn hirach wedi dweud eu bod nhw’n llawer prysurach gyda stormydd nawr nag oedden nhw’n arfer bod. O edrych ar y wyddoniaeth, mae’n debyg y gallwn ni ddisgwyl llawer mwy o lifogydd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. 

Gall hyn arwain at lawer mwy o darfu ar gymunedau sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd ac o’r môr, ac mae angen i gymunedau fod yn barod nawr ar gyfer y posibilrwydd o ddigwyddiadau gwaeth yn y dyfodol.

Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r awdurdod lleol mewn perthynas ag amddiffynfeydd môr yn Fairbourne er enghraifft, sydd wedi cael ei nodi’n ardal sy’n peri pryder o ran newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol, a’i effaith.

Am y tro, mae ein tîm yn gweithio i roi rhybuddion priodol i'r gymuned pryd bynnag y mae perygl llifogydd, ac mae gwirfoddolwyr llifogydd yn y gymuned wedi gwneud gwaith anhygoel o ran codi ymwybyddiaeth ac annog pobl i gofrestru er mwyn cael y rhybuddion hyn. 

GM – Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ein gwaith. Yn ddi-os, rydyn ni wedi profi mwy o gyfnodau sych dros y blynyddoedd diwethaf, ond rydyn ni hefyd wedi sylwi bod stormydd y gaeaf yn dod yn amlach ac yn fwy dwys. Mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i'r busnes addasu iddo wrth symud ymlaen. 

Tan hynny gallwn ni i gyd geisio lleihau’r risgiau o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd drwy leihau ein hôl troed carbon. 

 

C8 – Gan edrych i'r dyfodol, sut ydych chi'n gweld eich rôl a'ch gyrfa’n datblygu? Beth ydych chi'n ei garu fwyaf am eich swydd?

GM – Rydw i wir yn mwynhau gweithio yn y tîm Rhybuddio a Hysbysu, gan ei fod yn brofiad heriol ond gwerth chweil. Mae llawer o'n gwaith yn ymwneud â datrys problemau a defnyddio tystiolaeth i gefnogi ein prosesau o wneud penderfyniadau. Mae'n rhaid i ni weithio'n dda gyda thimau eraill o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru, ond hefyd gyda sefydliadau eraill fel awdurdodau lleol lle mae ein gwaith ni a'u gwaith nhw yn gorgyffwrdd. Fy nod i yw parhau i ddatblygu o fewn y tîm a gwella ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd presennol er budd ein cwsmeriaid a'n cymunedau. 

GT – Dechreuais i weithio ar ddechrau'r pandemig, felly dydw i ddim yn gwybod beth mae gwaith ‘normal’ yn ei olygu mewn gwirionedd, ond rwy'n cael yr argraff bod pethau wedi newid llawer dros y blynyddoedd diwethaf. Es i am bron i ddwy flynedd heb siarad wyneb yn wyneb â phobl yn y cymunedau rydyn ni’n eu cefnogi, felly roedd hi’n braf iawn gweld cydweithwyr o wahanol dimau a thrigolion o'r gwahanol gymunedau rydw i wedi bod yn ymwneud â nhw o'r diwedd! 

Dydw i ddim yn siŵr sut bydd fy swydd yn newid yn y dyfodol. Ar hyn o bryd mae llawer o ffocws ar fesurau rheoli perygl llifogydd mwy meddal fel gwytnwch cymunedol a rheoli llifogydd yn naturiol, ond rwy'n ymwybodol bod rhai pobl am inni ganolbwyntio ar atebion anoddach fel adeiladu mwy o amddiffynfeydd. Gan ddibynnu ar yr hyn sy'n digwydd ar lefel y llywodraeth ac a ph’un a fydd argymhellion gwahanol yn dilyn llifogydd yn y dyfodol, gallai pethau newid llawer!

 

LLB: Diolch, Gwenno a Gwyn am roi o'ch amser i siarad â mi heddiw. Mae wedi bod yn hynod ddiddorol clywed am y gwaith rydych chi’n ei wneud i helpu cymunedau yng Nghymru i baratoi ar gyfer llifogydd posibl, a chlywed am y gwahaniaeth mae hynny'n ei wneud mewn bywyd go iawn. 

 

Bydd ein pennod nesaf yn cael ei rhyddhau yr wythnos nesaf a bydd yn canolbwyntio ar ein timau asedau a chronfeydd dŵr a sut mae’r gwaith hwnnw’n cyd-fynd â’r nod cyffredinol o leihau’r perygl o lifogydd yng Nghymru.

 

Rwy'n gobeithio eich bod wedi mwynhau’r bennod heddiw. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu gwestiynau, gallwch chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost i’r cyfeiriad sydd i'w weld yn nodiadau'r sioe. Byddwch hefyd yn dod o hyd i ddolenni i'n tudalennau rheoli perygl llifogydd lle gallwch weld rhai o'r pethau y buon ni’n siarad amdanyn nhw yma heddiw.

Diolch am wrando! 

 

 

Trawsgrifiad

Llion Bevan: Helo ‘na a chroeso i gyfres fach podlediad Cyfoeth Naturiol Cymru ar Reoli Perygl Llifogydd.

Fy enw i yw Llion Bevan a dwi’n gweithio fel uwch swyddog cyfathrebu i Gyfoeth Naturiol Cymru.

Yn y gyfres hon, byddwch yn clywed gan wahanol dimau sy’n gweithio gyda’i gilydd i leihau perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru. Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw perygl llifogydd, beth ydyn  i’n ei wneud i reoli’r risg yng Nghymru, a pha effaith mae’r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru nawr, ac yn y dyfodol.

Helo a chroeso i bennod 8 o’r gyfres fach ar Reoli Perygl Llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru! Heddiw mae Gwenno a Gwyn, sy'n gweithio yn ein tîm Rhybuddio a Hysbysu gweithredol yng Ngogledd Cymru yn ymuno â mi. Croeso i’r ddau ohonoch chi, a diolch am ymuno â fi!

Gwenno Talfryn: Ie, diolch Llion am ein cael ni yma.

Llion: I ddechrau, beth ni’n licio gwneud yw gofyn ychydig am chi’ch hunain, felly beth sydd wedi dod â chi i’r rôl yma, a gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru? 

Gwyn Moseley: Wel, dwi wedi bod yn gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru, ac Asiantaeth yr Amgylchedd cyn hynny ers ryw 10 mlynedd bellach. Gwnes i fy ngradd israddedig mewn Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Bangor. Fel rhan o flwyddyn gyntaf yn cwrs yna, roedd rhaid i mi wneud lleoliad proffesiynol am bedair wythnos. Wnes i hyn gyda Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a treuliais bedair wythnos yn gwneud gwaith pysgota trydan er mwyn ymchwilio i boblogaethau o eogiaid a brithyllod. Yn dilyn hynny wedyn, ro’n i’n ffodus iawn i gael contract â thâl dros yr haf canlynol i wneud rhagor o waith pysgota trydan, ond hefyd yn gwneud samplu ansawdd dŵr afonydd a dŵr ymdrochi, ‘bathing waters’. Gwnes i hyn am sawl blwyddyn, yna ges i gyfle i ymuno â’r tîm Rheoli Digwyddiadau Llifogydd. Ac yn fan ‘na ro’n i’n swyddog Ymwybyddiaeth Llifogydd Cymru. Roedd y rôl yna yn bennaf gyda cnocio drysau, rheina a oedd mewn perygl o lifogydd a trio cael nhw  i gofrestru i'n Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd ni. Wrth i amser fynd yn ei flaen wedyn, dwi wedi datblygu fy sgiliau a’m gwybodaeth o fewn y tîm, a dwi bellach yn gyfrifol am ein swyddogion ar ddyletswydd a’n gweithdrefnau ymateb gweithredol yng ngogledd-orllewin Cymru, gan fwyaf, ac hefyd yn ymwneud â gwaith hyfforddi ein swyddogion hefyd. Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnaethom wahanu oddi wrth Asiantaeth yr Amgylchedd i ddod yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Ar ôl hynny cafodd y tîm ei ailenwi’r tîm Rhybuddio a Hysbysu.

Llion: Diolch, Gwenno, beth yw dy gefndir di?

Gwenno: Dwi ‘di bod gyda diddordeb yn yr amgylchedd ers amser maith, gan sefydlu'r grŵp ‘ysgolion gwyrdd’ yn fy ysgol uwchradd a wnes i symud ymlaen i  brifysgol ac astudio Gwyddorau Amgylcheddol yn y brifysgol yn Yr Alban a'r Iseldiroedd wedyn. Fel rhan o'm profiad gwaith ar gyfer un o’r cyrsiau yna, es i Ynni Cymunedol Cymru ac Ynni Ogwen draw yn Bethesda. Mynd nôl, ‘rewind’ bach, pan oeddwn i yn fy arddegau cynnar, dwi’n cofio unwaith fy ewythr o Unol Daleithiau wedi dod draw ar ymweliad, ac doedd dim diddordeb ag yr amgylched na newid hinsawdd, a doedd o ddim yn credu mewn newid yn yr hinsawdd. Roedd o wedi gwylltio bach gyda fi am hynny, meddwl bod fi’n ‘brain-washed’. Pan ddaeth hi'n amser dewis beth oeddwn i’n mynd i wneud ar gyfer fy ngradd prifysgol, o’n i’n cofio pa mor rhwystredig o’n i’n teimlo bryd hynny a phenderfynais mod i’n mynd i wneud rhywbeth amdano.

Llion: Gwych, cefndir diddorol iawn gyda’r ddau ohonoch chi. Tipyn o angerdd yn amlwg. Allwch chi ddweud ychydig wrtha i am waith y tîm a beth rydych chi’n ei wneud yno? 

Gwyn: Mae’r tîm Rhybuddio a Hysbysu yn gyfrifol am sicrhau bod y cyhoedd ac unrhyw un sy’n ymateb i lifogydd yn barod ar gyfer y posibilrwydd.

Rydyn ni’n gweithio i sefydlu a chynnal gwasanaeth rhybuddion llifogydd ar gyfer eiddo ‘dy ni’n meddwl sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd ac hefyd o’r arfordir.

Mae fy rôl i yn ymwneud â gwella’r gwasanaeth rhybuddion llifogydd ar gyfer gogledd-orllewin Cymru ac yr afon Dyfrdwy. Mae gen i hefyd rôl ar alwad, fel un o’r swyddogion rhybuddion llifogydd ar ddyletswydd, eto ar gyfer gogledd-orllewin Cymru, ac mae’r ardal yn cwmpasu Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, rhannau o ogledd Ceredigion a hefyd arfordir gorllewin Ynys Môn, Penrhyn Llŷn a Bae Ceredigion.

Rydyn ni hefyd yn gyfrifol am baratoi, cynllunio, a chydlynu ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i ddigwyddiadau llifogydd ac, yn dilyn hyn, cynnal dadansoddiadau ar ôl digwyddiad. Mae hyn wedyn yn cyfrannu at wella ein canllawiau a hyfforddi ein swyddogion ar ddyletswydd.

Gwenno: Mae fy rôl i’n ymwneud â delio â’r system rhybuddion llifogydd a gwneud yn siŵr bod pobl wedi’u cofrestru i dderbyn rhybuddion. Mae rhai cymunedau yng ngogledd a chanolbarth Cymru wedi datblygu Cynlluniau Llifogydd Cymunedol sy’n helpu i’w gwneud yn fwy parod ar gyfer llifogydd, ac mae rhan o'm swydd ydy cefnogi’r rhain. 

Mae gen i rôl ar alwad hefyd, fel swyddog cynorthwyol rhybuddion llifogydd ar ddyletswydd. Mae’r rôl yma wir yn golygu cyhoeddi negeseuon a gynhyrchir gan swyddogion rhybuddion llifogydd fel Gwyn, fel mae o’n ei wneud, ac yna eu hanfon drwy'r system rhybuddion llifogydd i bawb sydd eu hangen nhw.

Mae gennym ni nifer o rotas rheoli digwyddiadau yn ymwneud â llifogydd ar draws gogledd a canolbarth Cymru. Fel tîm, rydyn ni’n cydlynu’r rotas yma a’n creu  cynlluniau ar sut i ymateb i lifogydd.

Mae, dwi’n siŵr fod Gwyn yn cytuno, mae bod ar rota yn waith caled, â gofyn uchel arnoch chi, a ni’n cael ein galw allan unrhyw awr o'r dydd a'r nos, tri o’r gloch y bore yn rheolaidd! Yn bersonol, dwi’n eithaf siŵr bod y tywydd yn gwaethygu pryd bynnag dwi ar ddyletswydd! Ond dyna fo, dim [cyfnod] braf eto. Dyna beth dwi’n meddwl.

Llion: (chwerthin) Dwi’n siŵr dim ti yw’r unig un sy’n meddwl hynny. 

Gwenno: (chwerthin) O bosib, ie.

Llion: Allwch chi ddweud ychydig i fi am beth mae e fel i fod ar ddyletswydd? Pa fath o dasgiau rydych yn cael eich gofyn i wneud tra rydych chi mas, falle am dri o’r gloch yn y bore, fel roedd Gwenno wedi dweud?

Gwyn: Rydyn ni ar ddyletswydd am saith diwrnod, am wythnos gyfan o ddydd Mercher i ddydd Mercher. Ac yn yr amser yna ‘dy ni’n paratoi wrth edrych ar y tywydd, edrych ar ei modelau ac yn y blaen, i benderfynu os oes ‘na bosibilrwydd o gyhoeddi pethau. Yn sgîl hynny, ‘dy ni’n ymwybodol pryd dylai ni gael galwadau, ond ‘dy ni ddim yn gwneud dim byd tan pan mae’r galwadau yna’n dod drwy. Gyda’n rôl i, mae hynny’n golygu derbyn galwadau gan systemau o ran lefelau afonydd ac yn y blaen, neu gan swyddogion eraill yn dweud fod modelau yn ymddangos fod lefelau uchel yn dangos. Felly o hynny wedyn, mae gen i dipyn o waith i benderfynu i gyhoeddi negeseuon a’i peidio, a pan dwi wedi gwneud y penderfyniad yna wedyn, dwi’n cysylltu gyda rhywun fel Gwenno er mwyn cyhoeddi’r negeseuon yna ar y system.

Gwenno: Unwaith dwi’n cael galwad ffôn gan Gwyn, am dri o’r gloch y bore, neu pa bynnag amser ydy o, mae Gwyn yn anfon e-bost ata i, sydd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â’r rhybudd llifogydd sydd angen cael ei anfon allan. Mae hyn efo gwybodaeth byw Cymraeg a Saesneg, yn ogystal â ychydig o bethau technegol dwi’n defnyddio ar gyfer rhoi mewn i’r system i gael y rhybudd cywir i anfon allan i bobl, gwybod pwy dwi’n gorfod anfon allan i. Oherwydd ei fod yn dri o’r gloch y bore, ac mae Gwyn wedi blino, dwi’n edrych dros y Gymraeg a’r Saesneg i wneud yn siŵr bod Gwyn wedi cynnwys yr holl wybodaeth cywir i mewn, ac os oes camgymeriad dwi’n dod nôl at Gwyn a gofyn iddo checio fod popeth yn iawn. Yna dwi’n gwneud ychydig o ‘checks’ i wneud yn siŵr bod pobman sydd angen derbyn y neges yma gan y system wedi derbyn. Felly dwi’n derbyn galwad ffôn gan y system, os dwi ddim yn ei dderbyn o mae ‘na broblem dwi angen checio. Dwi’n derbyn ebost gyda’r wybodaeth yma. Dwi angen edrych ar ein gwefan i wneud yn siŵr fod o ymlaen yn gywir yn Gymraeg a Saesneg. Ac ar ôl hynny dwi angen cofnodi hyn ein hunain i ddweud beth sydd wedi’i gyhoeddi a faint o’r gloch. Mae hyn yn ddefnyddiol ar ein gyfer ni ar ôl llifogydd i ni weld cofnod o beth sydd wedi’i gyhoeddi pryd.

Llion: Gwych, diolch.   

Gwyn: Gan amlaf, fel arfer dim ond ambell i neges ‘llifogydd – byddwch yn barod’ (flood alert) sy’n cael ei ddanfon, felly un galwad yn ystod y nos neu dydd wrth gwrs. A dyna ni, dim byd mwy diolch byth. Ond ar ambell adegau, mae pethau’n gallu gwaethygu hefyd. Rydyn ni’n gallu cyhoeddi mwy o negeseuon o ran lefel uwch, a’r niferoedd hefyd o fewn yr ardal rydw i’n cwmpasu, ac hefyd y swyddogion eraill y gogledd a chanolbarth Cymru, wrth gwrs.

Llion: Sut ydych chi’n rhybuddio a hysbysu’r cyhoedd am lifogydd posibl?

Gwenno: Wel, rydyn ni’n rhybuddio a hysbysu’r cyhoedd am lifogydd trwy’r system rhybuddio llifogydd, yr un o’n i’n siarad am o’r blaen, a cronfa ddata enfawr yw hyn yn llawn o gyfeiriadau a mapiau rhybuddion llifogydd sy’n dangos yr holl eiddo yn ein hardal ni sydd â pherygl llifogydd. ‘Dy ni’n anfon negeseuon trwy’r system rhybuddio llifogydd yma i ddweud wrth y cyhoedd fod llifogydd yn bosibl neu’n ddisgwyliedig.  

Gall y neges yma sy’n cael ei anfon allan fod yn galwad ffôn, neu neges destun neu ebost, neu y tri ohonyn nhw, dibynnu ar beth mae’r cwsmer wedi dewis sy’n gyfleus ar eu cyfer nhw.

Mae gyda ni tair lefel o rybuddion ‘dy ni’n anfon allan i’r cyhoedd.  Yr lefel isaf yw neges ‘lifogydd – byddwch yn barod’, sy’n golygu bod llifogydd yn bosib ac i fod yn barod. Rydyn ni'n gyffredinol yn cyhoeddi negeseuon yma pan ydyn ni'n credu bod llifogydd ar dir amaethyddol isel a ffyrdd, neu ychydig bach o ‘overtopping’ ar y môr, ond ‘dy ni ddim yn disgwyl llifogydd mewn eiddo. 

Y lefel nesaf i fyny yw rhybudd llifogydd. Mae hyn yn golygu bod disgwyl i lifogydd iawn ddigwydd, a bod angen i’r bobl sy’n derbyn y neges yma i weithredu ar unwaith. Rydyn ni'n cyhoeddi rhybuddion llifogydd pan ydyn ni'n meddwl bod llifogydd yn debygol o fynd i mewn i eiddo. 

Ac yna’r lefel uchaf o rybudd ‘dy ni’n anfon allan, yr un mwyaf difrifol, ydy rhybudd llifogydd difrifol (severe flood warning). Mae hyn yn golygu bod llifogydd difrifol a bod perygl i fywyd. Mae digwyddiadau lle ‘dy ni’n anfon hyn allan yn brin dros ben, ond mae nhw yn gallu digwydd.

Gwyn: Mae rhai pobl yn dod atom ni i gofrestru eu manylion er mwyn cael y rhybuddion hyn, ond mae pobl eraill yn cael eu cofrestru'n awtomatig gan eu darparwr ffôn. Dydyn ni ddim yn gweld manylion cyswllt y bobl hyn, ond byddan nhw’n dal i gael neges pryd bynnag y bydd eu heiddo mewn perygl. 

Mae gwybodaeth am negeseuon a gyhoeddir ar gael ar ein gwefan, a gallwch glywed y wybodaeth ar y ffôn hefyd drwy ffonio'r Llinell Rybuddion Llifogydd; Floodline. Mae tua 40 mil o eiddo wedi’u leoli mewn ardaloedd rhybuddion llifogydd yng ngogledd a chanolbarth Cymru, ac mae manylion tua thri chwarter o’r rhain wedi’u cofrestru ar ein system rhybuddion llifogydd. Ond wrth gwrs hoffwn i dderbyn mwy o bobl i dderbyn y wasanaeth yna.

Llion: Ie, felly mae’n bwysig iawn, os yw rhywun yn meddwl ei bod nhw mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd mae’n bwysig fod nhw yn cofrestru am y wasanaeth yma. Gallai fod yn bwysig iawn i’w eiddo a’n bwysig iawn i’w teuluoedd a’i hunain wrth gwrs.

Gwyn: Ydy. Ac mae’n wasanaeth rhad ac am ddim hefyd.

Llion: Ie, am ddim, wrth gwrs, felly dim rheswm i beidio mewn gwirionedd. A beth all bobl wneud i sicrhau fod nhw’n barod am unrhyw lifogydd?

Gwenno: Wel, fel ‘dy ni wedi bod yn sôn, un o’r pethau cyntaf y dylai pobl ei wneud os ydyn nhw’n byw mewn ardal sy’n dueddol o gael llifogydd yw cofrestru i gael y rhybuddion llifogydd ‘ma. ‘Dy chi’n gallu gwneud hynny mewn nifer o ffyrdd. Gallai fod trwy’n gwefan ni, mae’n bosib ffonio Llinell Rybuddion Llifogydd, Floodline, neu anfon e-bost at Cyfoeth Naturiol Cymru, neu weithiau ‘dy ni hyd yn oed yn gallu rhoi ffurflen bapur i chi i lenwi. 

Rydyn ni’n anfon ffurflenni papur i fannau lle rydyn ni wedi sefydlu ardal llifogydd newydd. A ‘dy ni’n gwybod bod rhai ardaloedd hefyd efo Cynlluniau Llifogydd Cymunedol a Wardeiniaid Llifogydd neu Wirfoddolwyr Llifogydd sydd yn gweithio yn y gymuned i hybu’r wasanaeth a dibynnu ar anghenion y gwirfoddolwyr llifogydd yma, gallwn ni eu cefnogi drwy rhoi llenyddiaeth llifogydd a ffurflenni cofrestru.

Yn ogystal â gwybodaeth am sut i gael rhybuddion llifogydd mae ein gwefan yn cynnwys llawer o wybodaeth ychwanegol ar gyfer pobl sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd, gwybodaeth fyw am lefelau afonydd, a mapiau a gwasanaethau ynglŷn â sut i ganfod a yw eich eiddo mewn perygl o lifogydd o’r môr, afonydd a dŵr wyneb.

Ar gyfer cymunedau, mae gennym ni hefyd dempledi ar gyfer Cynlluniau Llifogydd Cymunedol a gwybodaeth am beth mae cymunedau yn gallu gwneud i helpu nhw baratoi ar gyfer llifogydd.

Gwyn: Mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod wedi cynllunio beth i'w wneud mewn argyfwng hefyd. Byddai cynllun llifogydd yn cymryd peth o'r pwysau oddi arnoch chi, eich teulu ac y gymuned yn ystod cyfnod sydd eisoes yn llawn straen. Mae pacio pecyn llifogydd bob amser yn syniad da.

Dylai pecyn llifogydd gynnwys yr holl bethau y byddai eu hangen arnoch chi yn ystod ac ar ôl llifogydd pe bai llifogydd yn effeithio arnoch chi, a dylai fod yn benodol ar gyfer eich anghenion penodol chi. Gallai hyn gynnwys pethau fel pecyn cymorth cyntaf, meddyginiaeth, a dogfennau yswiriant. Yn ystod llifogydd gallwch wirio lefelau'r afon drwy gyfeirio at lefelau afonydd ar-lein, ond cofiwch gadw rhestr o rifau ffôn pwysig wrth law hefyd. Mae gennym ni lawer o daflenni ar ein gwefan, a all helpu'r cyhoedd hefyd. Os oes gennych chi offer amddiffyn rhag llifogydd fel giatiau llifogydd neu orchuddion brics aer gallwch chi eu gosod nhw yn eu lle er mwyn paratoi, ac hefyd diffodd cyflenwadau nwy, trydan a dŵr a hefyd symud eich car i dir uwch.

Os byddwch yn cael neges ‘llifogydd – byddwch yn barod’, dylech chi ystyried paratoi pecyn llifogydd, monitro lefelau afonydd ac, os ydych chi’n ffermwr, dylech chi ystyried symud da byw ac unrhyw offer o ardaloedd sy'n debygol o ddioddef llifogydd. Mae rhybudd llifogydd wedyn yn cyfeirio at lifogydd posibl mewn eiddo, mewn tai, felly mae'n syniad da paratoi drwy symud eich teulu, anifeiliaid anwes a phethau gwerthfawr i fan diogel, diffodd cyflenwadau nwy, trydan a dŵr a hefyd gosod offer amddiffyn rhag llifogydd yn eu lle. Wedyn os caiff rhybudd llifogydd difrifol ei anfon, dylech chi aros mewn man diogel sydd â ffordd o ddianc, bod yn barod i adael eich cartref a chydweithio â’r gwasanaethau brys. 

Llion: A sut ydych chi’n ymateb wedyn ac yn helpu pobl pryd mae llifogydd yn digwydd ac yn effeithio arnyn nhw?

Gwyn: Gall llifogydd achosi straen a bod yn frawychus, yn enwedig os nad yw pobl yn barod neu heb gofrestru i gael rhybuddion. Pan fydd llifogydd yn digwydd, mae gennym sawl swyddog ar ddyletswydd a fydd yn ymateb gan ddibynnu ar eu rôl nhw. Bydd y swyddog rhybuddion llifogydd yn cyhoeddi'r negeseuon ‘llifogydd– byddwch yn barod’, rhybuddion llifogydd ac y rhybuddion llifogydd difrifol ac yn anfon y rhain at y swyddog cynorthwyol Rhybuddion llifogydd i fewnbynnu'r manylion i'r system rhybuddion llifogydd. 

Byddan nhw hefyd yn trosglwyddo'r wybodaeth hon i'r swyddog digwyddiadau llifogydd ar ddyletswydd a'r swyddog cynorthwyol digwyddiadau llifogydd. Mae'r swyddog digwyddiadau llifogydd yn delio â digwyddiadau y mae aelodau o'r cyhoedd yn rhoi gwybod amdanynt, gan gynnwys efallai coed sydd wedi cwympo a all fod yn rhwystro afonydd, ac yn cyfathrebu â Wardeiniaid Llifogydd neu Wirfoddolwyr Llifogydd trwy'r Cynllun Llifogydd Cymunedol. 

Mewn rhai ardaloedd mae'r swyddog cynorthwyol digwyddiadau ar ddyletswydd wedyn yn trefnu ymateb gweithredol sydd wedi cael ei benodi ymlaen llaw. Mae hyn fel arfer er mwyn rheoli ein asedau sydd yn dod o dan ein cynllun gwaith ni. Mae hyn yn cynnwys gwirio a chlirio sgriniau sbwriel, gosod amddiffynfeydd dros dro, a mynd i orsafoedd pwmpio yn ystod llifogydd, os oes angen. 

Gwenno: Ar ôl llifogydd, rydyn ni’n gweithio gyda chymunedau i ddarganfod cymaint o wybodaeth â phosib. Gall y cyfathrebu rhyngom ni hefyd ein harwain at wella'r gwasanaeth ar eu cyfer. Rydyn ni’n sicrhau bod ein swyddogion ar ddyletswydd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf drwy gynnal sesiynau dal i fyny a hyfforddiant rheolaidd, yn ogystal â sesiynau ôl-drafod yn dilyn digwyddiadau. Drwy gynnal dadansoddiad o’r sefyllfa ar ôl digwyddiad, gallwn ni gadw cofnod o newidiadau angenrheidiol sy’n ymwneud â'n tîm ni a thimau eraill drwy gynhyrchu cynlluniau gwaith rydyn ni’n eu diweddaru'n rheolaidd fel y gallwn ni – mae hyn yn ein galluogi i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl.

Yn syth ar ôl i ni orffen ymateb i ddigwyddiad llifogydd posibl, os ydyn ni’n ymwybodol o Gynllun Llifogydd Cymunedol mewn cymuned sydd wedi dioddef llifogydd, a dydy bob cymuned heb gynllun ei hun, byddwn ni’n ceisio cysylltu ag arweinwyr y cynllun yma er mwyn cael syniad o ba mor ddrwg oedd y difrod. Gallwn ni gyfeirio pobl sydd wedi dioddef llifogydd at adnoddau defnyddiol eraill a all eu helpu i ddelio ag ôl-effeithiau difrod yn sgil llifogydd. Dros yr hirdymor, gallwn ni drefnu sesiynau galw heibio neu gylchlythyrau ar gyfer cymunedau yr effeithiwyd arnynt fwyaf a chasglu gwybodaeth gan wahanol dimau o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru a’i rhannu nhw â’r cyhoedd, oherwydd yn amlwg mae pawb eisiau gwybod beth ‘dy ni’n ein wneud yn dilyn llifogydd.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn cynnal ymchwiliad i’r llifogydd os ydyn ni o’r farn bod hynny’n briodol, a byddwn yn llunio argymhellion ar bethau mae modd eu gwella ar gyfer y dyfodol. Bydd ein tîm ni’n cydlynu'r argymhellion hyn i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cael eu gweithredu.

Llion: Ydych chi’n gweld fod newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eich gwaith? Os felly, sut ydych chi'n ei weld yn dod ymlaen yn y dyfodol? 

Gwenno: Dydw i ddim wedi bod yn gweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru ers talwm iawn, ond mae rhai o'm cydweithwyr sydd wedi bod yma yn hirach wedi dweud eu bod nhw’n llawer prysurach gyda stormydd nawr nag oedden nhw’n arfer bod. O edrych ar y wyddoniaeth, newid hinsawdd, mae’n debyg y gallwn ni ddisgwyl mwy o law a stormydd yn y dyfodol oherwydd newid hinsawdd. 

Gall hyn arwain at lawer mwy o darfu ar gymunedau sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd ac o’r môr, ac mae angen i gymunedau fod yn barod nawr ar gyfer y posibilrwydd o ddigwyddiadau gwaeth yn y dyfodol yn anffodus.

Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r awdurdod lleol mewn perthynas ag amddiffynfeydd môr yn Fairbourne er enghraifft, sydd wedi cael ei nodi’n ardal sy’n peri pryder o ran newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol, a’i effaith.

Am y tro, mae ein tîm yn gweithio i roi rhybuddion priodol i'r gymuned pryd bynnag y mae perygl llifogydd, ac mae gwirfoddolwyr llifogydd yn y gymuned wedi gwneud gwaith anhygoel o ran codi ymwybyddiaeth o risg llifogydd ac annog pobl i gofrestru er mwyn derbyn y rhybuddion llifogydd. Felly medal aur i’r wardeiniaid llifogydd yma. Jobyn da iawn!

Llion: Gwych!

Gwyn: Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ein gwaith. Yn ddi-os, rydyn ni wedi profi mwy o gyfnodau sych dros y blynyddoedd diwethaf, ond rydyn ni hefyd wedi sylwi bod stormydd y gaeaf yn dod yn amlach ac yn fwy dwys. Mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i'r busnes addasu iddo wrth symud ymlaen. 

Tan hynny gallwn ni i gyd geisio lleihau’r risgiau o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Mae pob un ohonynt efo rôl yn hyn. 

Llion: Gan edrych i'r dyfodol, sut ydych chi'n gweld eich rôl a'ch gyrfa’n datblygu, a beth yw’r hoff ran o’ch swydd?

Gwyn: Rydw i wir yn mwynhau gweithio yn y tîm Rhybuddio a Hysbysu. Mae’n brofiad heriol ond gwerth chweil. Mae llawer o'n gwaith yn ymwneud â datrys problemau a defnyddio tystiolaeth i gefnogi ein prosesau o wneud penderfyniadau. Dwi’n gwybod fod hwn yn rhan bwysig a gwaith dwi’n mwynhau. Mae'n rhaid i ni weithio'n dda gyda thimau eraill o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd, ond hefyd gyda sefydliadau eraill fel awdurdodau lleol lle mae ein gwaith ni a'u gwaith nhw yn plethu mewn i’w gilydd. Felly fy nod i yw parhau i ddatblygu o fewn y tîm a gwella ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd presennol er budd ein cwsmeriaid a'n cymunedau. 

Gwenno: Dechreuais i weithio ar ddechrau'r pandemig, felly i fod yn gyfan gwbl onest, dydw i ddim yn gwybod beth mae gwaith ‘normal’ yn ei olygu, ond dwi’n cael yr argraff bod pethau wedi newid cryn dipyn dros y blynyddoedd diwethaf. Es i am bron i ddwy flynedd heb siarad wyneb yn wyneb â phobl yn y cymunedau rydyn ni’n eu cefnogi, felly roedd hi wir yn braf iawn gweld cydweithwyr o wahanol dimau a thrigolion o'r cymunedau ‘ma o'r diwedd ar ôl yr holl amser.

Dydw i ddim yn siŵr sut bydd fy swydd yn newid yn y dyfodol. Ar hyn o bryd mae llawer o ffocws ar fesurau rheoli perygl llifogydd mwy meddal fel gwytnwch cymunedol a rheoli llifogydd yn naturiol, ond dwi’n ymwybodol bod rhai pobl am inni ganolbwyntio fwy ar atebion caletach fel adeiladu mwy o amddiffynfeydd. Gan ddibynnu ar beth sy’n digwydd ar lefel y llywodraeth ac os oes unrhyw argymhellion gwahanol yn dilyn llifogydd yn y dyfodol, gallai pethau newid cryn dipyn!

Llion: Diolch, Gwenno a Gwyn am roi o'ch amser i siarad â mi heddiw. Mae wedi bod yn ddiddorol iawn clywed am y gwaith, a’r gwaith pwysig rydych chi’n ei wneud i helpu cymunedau yng Nghymru er mwyn cael ni’n barod am lifogydd pryd bynnag mae’n nhw’n digwydd. Mae’ch gwaith chi’n bwysig iawn a dwi’n siŵr bydd ond yn dod yn bwysicach yn y dyfodol, felly diolch am siarad â fi. 

 

Gwyn: Diolch.

 

Gwenno: Diolch yn fawr iawn Llion.

 

Llion:  Dwi'n gobeithio eich bod wedi mwynhau’r bennod hon. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu gwestiynau, gallwch chi gysylltu â ni ar Facebook, Twitter neu Instagram neu drwy’r cyfeiriad e-bost sydd yn nodiadau'r sioe yma. Fe welwch hefyd hefyd dolenni i'n tudalennau gwe ar reoli perygl llifogydd lle gallwch weld rhai o'r pethau ‘dy ni wedi sôn am yma heddi.

 

Diolch am wrando!