Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru

9. Cronfeydd ac Asedau

October 16, 2023 Cyfoeth Naturiol Cymru Season 2 Episode 9
Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru
9. Cronfeydd ac Asedau
Show Notes Transcript

Yn y gyfres hon, byddwch yn clywed gan wahanol dimau Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gweithio gyda’i gilydd i leihau'r perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru.

Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw'r perygl o lifogydd, yr hyn yr ydym yn ei wneud i'w reoli yng Nghymru, a pha effaith y mae'r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.

·       Tudalennau Gwe Rheoli Perygl Llifogydd

·       Atebion sy’n seiliedig ar natur ar gyfer rheoli arfordirol

·       Cynlluniau Rheoli Traethlin

·       Cronfa Ddata Cenedlaethol Asedau Llifogydd

·       Rhybuddion llifogydd

·       Gwirio lefelau'r afonydd, glawiad a data môr

·       Rhagolygon perygl llifogydd 5 diwrnod

·       Gwiriwch eich perygl llifogydd ar fap (Map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru)

·       Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio / Datblygu Cyngor

·       Swyddi, prentisiaethau a lleoliadau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau ar unrhyw beth a gwmpesir yn y gyfres podlediad hon, cysylltwch â ni ar FloodRiskManagement.Strategic@naturalresourceswales.gov.uk 

LLION: Helo a chroeso i gyfres fach hon o bodlediadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar reoli perygl llifogydd. Fy enw i yw Llion Bevan ac rwy’n gweithio fel Uwch Swyddog Cyfathrebu i Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn y gyfres hon, byddwch yn clywed am y gwahanol dimau sy’n gweithio gyda’i gilydd i leihau’r perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru. Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw perygl llifogydd, beth rydym ni’n ei wneud i reoli’r risg yng Nghymru, a pha effaith mae’r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.

Helo a chroeso i bennod 9 o’r gyfres fach ar Reoli Perygl Llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru! Heddiw, mae Gareth Richards, sy'n gweithio fel ein Rheolwr Tîm Perfformiad Asedau yn y de orllewin, yn ymuno â mi. Croeso Gareth, a diolch am ymuno â ni! 

GARETH: Shwmae

 

Rwy'n meddwl, i gychwyn pethau, a chyn i ni fentro'n llawn i fyd rheoli asedau, y byddai'n braf iawn clywed am eich cefndir. Allwch chi ddweud ychydig wrthym am eich addysg a’ch llwybr gyrfa? Beth sydd wedi eich arwain i weithio yn y maes gwaith hwn a gweithio yn Cyfoeth Naturiol Cymru? 

 

GARETH: Fi wastad wedi mwynhau daearyddiaeth a gwyddoniaeth – fy hoff bynciau yn yn yr ysgol. Fi wastad wedi mwynhau yr awyr agored. Mae lluniau gyda Mam gytre yn yr albym o fi a efaill fi yn chwarae yn y afonydd – twli cerrig – doedd dim byd well ‘da ni na mynd lawr i’r afon yn Rhydaman. Gem ni oedd gosod botel pop ar carreg a twli cerrig i weld pwy oedd yn gallu taro fe bant. A on i’n adeiladu llongau bach, so oedd wastad gyda fi diddordeb yn yr awyr agored a hefyd gydag afonydd. 

 

Ar ôl neud Lefel A yn yr ysgol – on i wedi neud daearyddiaeth a bioleg a cemeg on i wedi astudio daearyddiaeth ffisegol yn Aberystwyth. On I wedi cael tri mlynedd brilliant really lan fana. Wedi mwynhau agweddau dysgu a’r gwaith maes. Ar ôl 3 mlynedd o’n i wedi graddio o Aberystwyth a wedi cael cynnig am swydd gyda Asiantaeth yr Amgylchedd oedd e ar y pryd – a on I wedi cael cyfweliad yn stadiwm y mileniwm – Stadiwm Principality nawr – a on in lwcus wedi cael cynnig swydd. On I dim ond wedi graddio yn 2004 yn yr haf, a dechrau wedyn yn yr Hydref 2004 yn Hwlffordd oedd y swydd cyntaf. A fel oedd e’n digwydd, mae gyda fi efaill, a llwyddodd e cael job yr un pryd a dechreuon ni’n dau yr un dydd yn Hwlffordd. 

 

Llion: O da iawn, a sut nes di symud ymlaen a dod I’r swydd presennol? 

 

GARETH: Dwi wedi cael sawl swydd I gyd yn Asiantaeth yr Amgylchedd, a wedyn CNC – job cyntaf fi oedd arolygwr asedau, so on i’n cerdded afonydd, arolygu cyflwr asedau fel llif gloddiau, walau, pibau, ‘gabions’, ‘blockstone’. Wedyn oedd angen recordio nhw, cymryd lluniau, dweud wrth y Swyddfa os oedd problem gyda asedau os oedd angen atgyweirio neu gwaith cynnal a chadw – on i’n mwynhau y swydd na – mas ym mhob tywydd a mas ym mhob cwts a chornel o Gymru. Ges i amser da yn gwneud hwnna - Wedyn ges ddyrchafiad fel peiriannydd yn reoli asedau. Fel rhan o’r swydd ‘na on in neud cynlluniau er mwyn adeiladu amddiffeydd atal llifogydd. So on I wedi neud bob cam – gweld problem ar ol llifogydd, cynllun ar fel I atal e, delio gyda contractwyr a wedyn gweld y cynllun yn cael ei adeiladu. So oedd e’n neis I weld y pictiwr llawn o dechrau I ddiwedd yn y job ‘na. Ar ol hynny wedyn ces I cwpl o swyddi eraill – un o nhw yn edrych ar rheoli gwaith pobl arall ar yr afonydd. OS mae rhywun moyn neud gwaith ar yr afan mae rhaid I nhw ddod mewn I CNC am yn Saesneg “flood risk activity permit” – so mae bach fel cynllun er mwyn adeiladu tai – mae rhaid cael planning permission – ond am afonydd. Nes I hwnna am tua 8 mis wedyn death cyfle I ddod yn arweinydd y tîm so fi wedi mynd am hwnna, a wedyn dwi wedi bod yn gwneud hwn nawr am ddau mlynedd a hanner. 

 

Llion: Da iawn – mae’n braf dy fod ti wedi gallu cael gyrfa tu fas, fel oeddet ti yn dy blentyndod. 

 

GARETH: Dwi wedi mwynhau y gyrfa dwi wedi cael, a dwi’n credu fi wedi gweld o’r dechrau. So, fel un ni’n casglu’r gwybodaeth am yr asedau, fel un ni’n defnyddio’r gwybodaeth na I wneud penderfyniadau a nawr dw i wedi cyrraedd man lle dwi’n gallu neud gwaith mwy strategol a hefyd datblygu pobl yn y tîm fel o’n I wedi cael y cyfle o’r blaen. 

 

Llion: Gwych gwych, a wnes di sôn am y wahanol fathau o asedau mae dy dim yn edrych ar ol. Dyw’r term asedau ddim yn term bob dydd I lot o bobl – so o rhan asedau – mae hwnna’n golygu, unrhywbeth ni wedi roi mewn lle er mwyn trio rheoli perygl llifogydd, nage fe?

 

GARETH: Ie – so mae lot o bobl yn meddwl am asedau fel pethau mwya cyffredin fel llifgloddiau neu waliau mawr, ond hefyd mae gyda ni pethau mwy anghyffredin fel cronfeydd dal dwr sydd fel arfer yn gallu bod yn sych 99% o’r amser ond pan mae llif yn dod maen dal y dwr, fel maen debyg I bath – os mae’r bath yn wag trwy’r amser, ond mae’r tap yn mynd flat out arno fe, yn y pendraw bydd y dwr yn mynd dros top y bath. Mae’r cronfa yn gweithio fel na. Maen dal y dwr am bach o amser – dim ond beth sy’n mynd lawr y plyg sy’n mynd lawr I’r pentre. A yn y pendraw os ni’n cael mwy a mwy o ddŵr, maen mynd dros y top, Ond maen helpu reoli risg llifogydd – lle maen cymryd y top off y hydrograff. 

 

Llion: Ie, so yn lle bod y dwr I gyd yn hedfan lawr I’r pentre, ni’n dal e a lleihau. 

 

GARETH: Ie, cwtogi fe a arafi y llif lawr, rheoli’r dŵr lan top y dyffryn fel bod y llif ddim mor gloi i’r trefi a dinasoedd. Mae’r asedau yn gweithio gyda’i gilydd, mae bach felt tsain - mae gyda ni cynllun llifogydd sydd dim mond mor gryf a’r linc mwya’ gwan. Dim pwynt I ni gael cynllun llifogydd brilliant ond gap yn y canol neu ar y pen lle mae’r dwr yn ffeindio ffordd rownd – mae’r dwr wastad yn ffeindio ffordd a mannau gwan so ni’n trio neud yn siŵr bod dim mannau gwan yn cynlluniau ni. 

 

Llion: A gyda’r asedau yma – sut ydyn ni’n defnyddio nhw? 

 

GARETH: Fel arfer mae gyda ni arolygwyr yn arolygu nhw, fel o’n I arfer wneud blynyddoedd yn ol, checko nhw i wneud yn siŵr bod nhw mewn cyflwr da a gyda ni gradd o arbennig o dda I gwael, pump. So mae bob ased yn cael cyflwr wedi roi I fe a wedyn wedi’i roi mewn bas data. Mae lot or gwaith ni’n neud yn edrych ar y bas data a be asedau sydd mewn cyflwr sydd angen atgyweirio neu gwaith cynnal a chadw. A wedyn ni’n siarad ar tîm yn Crosshands a nhw syn neud y gwaith cynnal a chadw. Ni hefyd yn edrych ar lle ni’n gallu gwella ein cynlluniau amddiffynfeydd neud llifogydd neu ar hyn o bryd, edrych ar cymunedau sydd ddim gyda unrhyw asedau sy’n amddiffyn nhw, mae gyda ni opsiynau er mwyn adeiladu rhai. Un o’r sialensiau sydd gyda ni yw mae lot o’r opsiynau rwydd wedi neud – mae’r walydd, llifgloddiau mewn dinasoedd a pentrefi mawr wedi cael ei adeiladu. A wedyn mae pocedau o gymunedau ar ôl sydd heb cael ei neud so mae rhaid I ni ffeindio opsiynau cost-effective er mwyn galluogi bod ni’n amddiffyn mwy o bobl. Ond na’r sialens yw ffeindio opsiynau sy’n gweithio ond sydd ddim yn cynyddu risg o lifogydd I cymunedau sydd lawr yr afon. So, os ni’n adeiladu wal mewn pentre yn Dyffryn Tywi, wedyn mae’r dwr yn mynd lawr dyffryn yn gynt gyda potensial i gynyddu risg llifogydd y pentrefi arall bellach lawr. So ni’n trial neud yn siŵr os bo ni’n neud cynllun atal llifogydd bo fed dim yn achosi mwy o risg llifogydd i gymunedau eraill. 

 

Llion: Grêt, a o ti’n sôn at gwaith cynnal a chadw – allai ddychmygu bod hwnna yn rhywbeth bo chi’n neud boed bod e’n glaw neu’n heulog – maen rhywbeth sy’n barhaus ydy fe? 

 

GARETH: Ydy, ydy – mae lot o fe yn dibynnu ar beth yw’r ased. Mae rhai mwy pwysig – fel cronfeydd dwr, mae legislation sy’n dweud bod ni’n gorfod cynnal a chadw hwnna i well gyflwr achos y risg sy’n ynghlwm a fe. Ond mae timoedd ni’n mynd mae ym mhob tywydd i gynnal a chadw asedau – disgwyl ar ôl pibau, torri gwair – fath na o beth. Tynnu mas coed sy wedi cwympo – blockages o trash screens. 

 

Llion: A ni wedi sôn tipyn am concrit, tipyn o adeiladu. Ydw i’n iawn yn meddwl bo ni’n edrych ar ol asedau mwy naturiol a sy ddim yn golygu adeiladu yn y ffordd traddodiadol? 

 

GARETH: Ni wedi cael cyfle i ddefnyddio mesuriadau mwy naturiol gyda cynlluniau mwy traddodiadol gyda walydd a llifgloddiau a phethau fel na. Ni wedi bod yn gwneud gwaith leaky dams ble ni’n gosod coed neu brwyn yn yr afon er mwyn arafu llif yr afon a dal y dwr nol. Ni’n defnyddio hynny. Ni’n cael mwy a fwy o wybodaeth pryd mae rhain yn cael ei dodi mewn a gobeithio yn y dyfodol bydd mwy o gyfle da ni I wneud fwy o waith hyn achos maen gwneud gwahaniaeth ond ar hyn o bryd mae angen y gwyddoniaeth a gwybodaeth I wneud y cas busnes er mwyn esbonio I bobl maer gwaith hyn yn mynd I lleihau y risg o lifogydd. Mae rhan fwyaf o gymunedau moyn gweld rhywbeth weladwy fel y welydd neu llifgloddiau yn cael eu gosod yn hytrach na’r gwaith mwy naturiol hyn. So mae eisiau gwaith casglu gwybodaeth a gwaith newid meddylfryd o beth mae pobl yn meddwl amdano fe. 

 

Llion: So, o rhan y gwaith yna le o ti’n gweud bo chi’n rhoi coed yn yr afon. Mae hwnna yn gweithio yn yr un ffordd a chronfeydd mwy naturiol mewn gwirionedd ydy fe? 

 

GARETH: Mae’n dal y dwr yn y top yn y dyffryn, yn lle bod e gyd yn rhuthro I waelod yr afon. Mae’r cronfeydd da mwy o beirianneg ynghlwm a nhw fel bo ni’n gwybod yn gwmws faint o lif sy’n dod trwy’r biben – ni’n gwybod gyda digwyddiadau fel un bob deg mlynedd neu un bob cant mlynedd. So mae e bach mwy hit and miss gyda’r pethau mwy naturiol a os ni’n cael llif mawr – gyda’r leaky dams, os mae llif mawr, bydd y dwr yn mynd dros y top. So maen nhw’n cael lot o effaith ar y llifogydd llai o seis. So mae eisiau mwy o wybodaeth a data fel bod ni’n gwybod faint o effaith mae nhw’n cael mewn digwyddiadau fwy o faint oherwydd fod y maeth yma o asedau yn eithaf newydd. 

 

Llion: Ni wedi siarad yn gyffredinol am y gwahanol asedau. Oes gyda ti enghraifft eithaf diweddar o pryd mae un o’n asedau ni sydd yn gorwedd yn dawel lot o’r amser, wedi gweithio a lleihau y risg I gymunedau?

 

GARETH: Yn 2019, ni wedi cwblhau cronfa ddŵr uwchben pentre Pontarddulais, ac mae hwn yn amddiffyn yn 224 ty a 22 busnes o lifogydd. Costiodd 6.1m sy’n swnio lot o arian ond doedd dim lle adeiladu amddiffynfeydd mwy traddodiadol fel walydd yn y pentre achos oedd y tai reit ar yr afon. So, mae e’n gweithio fel cronfa. Mae’r dwr dim ond yn gallu mynd trwy’r culvert, ddim y piben. Ni dim ond yn gadael trwy’r cronfa sy’n gallu mynd trwy’r pentre yn ddiogel. Felly mae unrhyw dwr mwy na hynny yn yr afon yn cael ei ddal nol tu ôl llif glaw, fel embankment. Mae’r cronfa yn gallu dal 170mil ciwb o ddŵr. Sy’r un peth a 70 pwll nofio seis olympig. So mae’n lot o ddŵr. A maen lleihau perygl I bentrefwyr Pontarddulais. Mae’r cynllun wedi atal tai rhag llifogu yn barod. Llynedd, ni ‘di cael storm yn mis Hydref yn debyg i ni wedi cael yn y gorffennol. Ni’n gwybod ‘ny achos ni’n mesur glaw yn y dalgylch. Yn y gorffennol aeth tai dal dwr – ond tro hyn doedd dim tai wedi cael eu llifogu achos wnaeth y dwr gael ei ddal lan tu ôl y cronfa. 

 

LLION: Wel gwych, mae fe’n brafgweld rhywbeth yn cael effaith mor dda mor fuan ar ôl iddo gael ei adeiladu nagefe? O ti’n sôn am y gost – mae 6.1 miliwn yn swnio fel lot ond pan ti’n meddwl fod e’n lleihau risg i bron 250 o wahanol eiddo, mae’r cost ar gyfer bob eiddo yn gymharol isel wedyn – mae’n ddefnydd dda iawn o arian cyhoeddus. 

 

GARETH: A hefyd, y difrod uniongyrchol o llifogydd fel sofas a carped mas ar y stryd ond hefyd mae cost anuniongyrchol ar iechyd meddwl, pobl yn pryderi yn y nos pan mae’n bwrw glaw. Felly, cost o 6.1 miliwn ond hefyd maen atal llifogydd ac mae’n well at lles meddwl y pentref hefyd. 

 

LLION: A ni wedi siarad lot yn y gyfres yma o bodlediadau am y newid yn yr hinsawdd. Sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar dy waith di, a sut mae cynllunio ar gyfer y dyfodol yn digwydd? 

 

GARETH: Pan ni’n dylunio cynllun newydd ar gyfer atal llifogydd ni’n cymryd newid hinsawdd mewn I ystyriaeth. Ni’n ceisio ble ni’n gallu cael 50 mlynedd werth o newid hinsawdd yn y cynllun, felly mae hwnna’n golygu adeiladu wal ychydig yn uwch pan ma cynllun ar yr arfordir, ac ar yr afonydd. Fel maen gweithio ar yr arfordir yw ni’n ychwanegu at y cynllun yw ni’n ychwanegu at y cynllun beth ni’n meddwl bydd y lefel mor yn cynyddu dros y 50 mlynedd nesaf ac ar yr afonydd beth ni’n defnyddio yw y llif – bydd y llif afon yn cynyddu yn y dyfodol felly ni yn cynyddu y llif sy’n dod lawr yr afon gan 30% er mwyn gwybod beth fydd y llif mewn 100 mlynedd. So mae’r cynllun yn – gobeithio – para digon o amser I gael gwerth mas o’r buddsoddiad ni’n roi yn yr asedau. 

 

Llion: Beth sy’n digwydd pan dy’ ni ddim yn gallu roi cynllun mewn lle? 

 

GARETH: Yn anffodus dy ni ddim yn gallu amddiffyn bobman a phawb. Mewn byd delfrydol – basa dim llifogydd yn digwydd. A hefyd, basa ni’n gallu amddiffyn pawb. Mae 2 reswm – yn ariannol, dy ni ddim yn gallu affordo amddiffyn pawb, a hefyd – os on ni’n adeiladu cynlluniau bobman, gallan ni basio problem ar I gymuned arall. So ni’n trio codi gwytnwch ac addasu yn hytrach na dim ond adeiladu mwy. So ni’n trio ceisio siarad gyda cymunedau er mwyn iddyn nhw helpu eu hunan. Gall fod camau bach fel codi plygiau trydan bach yn uwch neu gosod llawr caled yn lle carped – mae llawer o gamau bach mae nhw’n gallu gwneud fel bo nhw mas o’r tai os fo llifogydd am wythnosau yn lle misoedd – a ni wedi gweld rhai bobl mas o tai am flynyddoedd hefyd. Ni’n trio cal cymunedau I helpu hunan hefyd. 

 

LLION: Ie, mae hwnna yn ddiddorol – felly maer asedau ni’n rhoi mewn yn ymateb I’r risg sy’n bodoli yn barod ond yn yr hir dymor, fel cymdeithas, efallai mae angen I ni edrych yn fwy strategol ar sut allwn ni sicrhau bo pobl ddim mewn risg yn y lle cyntaf. 

 

GARETH: Ie, yn gwmws – fel na fel ni’n gweithio fel uned rheoli llifogydd. Ni gyda asedau – tîm arall gyda datblygiadau – trio wneud yn siŵr bod dim mwy o dai yn cael ei adeiladu ar ardal sy’n cael ei llifogu  - a gweithio gyda’n gilydd er mwyn atal a lleihau y risg o lifogydd yng Nghymru. 

 

LLION: Beth yw dy hoff rhan o’r swydd a sy’n tynnu ti o’r gwely yn y bore? 

 

GARETH: Fi’n mwynhau yr amrywiaeth ni’n cael yn y swydd. Mae’r pobl yn CNC yn brilliant – ni’n delio a phopeth o roi rod leisens lan I wastraff niwclear a rheoli diwydiant – lot o bobl diddorol yn gweithio yma a cael dysgu lot o bobl sy’n gweithio ‘ma a cal chat yn y gegin. A fi hefyd yn joio nawr, wedi dod lan o’r gwaelod – wedi gwneud yr asesi asedau. Fi’n mwynhau datblygu pobl – roi cyfle I nhw dod mewn a dysgu am rheoli llifogydd a hefyd fi’n mwynhau gallu wneud gwahaniaeth i bobl yng Nghymru – lleihau y risg o lifogydd I bobl, a bod ni’n gwneud gwahaniaeth I bobl yng Nghymru. Maen ffantastig bod ni wedi cwblhau cynllun a ni’n gwybod bod e wedi llifogu yn y gorffennol a nawr mae nhw’n gallu cael yr heddwch meddwl bydd dim llifogydd mor wael yn y dyfodol. Ni ddim yn gallu cymryd y risg i gyd mas achos mae  bob wal wedi’i adeiladu i safon, ond mae wastad risg bod ni mynd I gael llif mwy na mae’r wal wedi’i gynllunio amdano. 

 

LLION: A dyna’r bwriad yn y pen draw yw gwasanaethu bobl Cymru a helpu cymunedau lleol. Diolch yn fawr Gareth am siarad gyda fi hefyd. Mae wedi bod yn ddiddorol iawn I glywed am y gwaith pwysig iawn ych chi’n gwneud I warchod pobl Cymru heddiw a hefyd I wneud Cymru yn fwy gwydn am y dyfodol. Diolch

 

GARETH: Oce, diolch.

 

Llion: Dwi'n gobeithio eich bod wedi mwynhau’r bennod hon. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu gwestiynau, gallwch chi gysylltu â ni ar Facebook, Twitter neu Instagram neu drwy’r cyfeiriad e-bost sydd yn nodiadau'r sioe yma. Fe welwch hefyd hefyd dolenni i'n tudalennau gwe ar reoli perygl llifogydd lle gallwch weld rhai o'r pethau ‘dy ni wedi sôn am yma heddiw.

Diolch am wrando!