Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru

10. Sgiliau, Datblygu a Chyfleoedd Gyrfa

October 16, 2023 Cyfoeth Naturiol Cymru Season 2 Episode 10
Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru
10. Sgiliau, Datblygu a Chyfleoedd Gyrfa
Show Notes Transcript

Yn y gyfres hon, byddwch yn clywed gan wahanol dimau Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gweithio gyda’i gilydd i leihau'r perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru.

Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw'r perygl o lifogydd, yr hyn yr ydym yn ei wneud i'w reoli yng Nghymru, a pha effaith y mae'r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.

·       Tudalennau Gwe Rheoli Perygl Llifogydd

·       Atebion sy’n seiliedig ar natur ar gyfer rheoli arfordirol

·       Cynlluniau Rheoli Traethlin

·       Cronfa Ddata Cenedlaethol Asedau Llifogydd

·       Rhybuddion llifogydd

·       Gwirio lefelau'r afonydd, glawiad a data môr

·       Rhagolygon perygl llifogydd 5 diwrnod

·       Gwiriwch eich perygl llifogydd ar fap (Map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru)

·       Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio / Datblygu Cyngor

·       Swyddi, prentisiaethau a lleoliadau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau ar unrhyw beth a gwmpesir yn y gyfres podlediad hon, cysylltwch â ni ar FloodRiskManagement.Strategic@naturalresourceswales.gov.uk 

LlB: Helo ‘na a chroeso i gyfres fach podlediadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar reoli perygl llifogydd. Fy enw i yw Llion Bevan a dw i’n gweithio fel Uwch Swyddog Cyfathrebu i Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn y gyfres hon, byddwch yn clywed am y gwahanol dimau sy’n gweithio gyda’i gilydd i leihau’r perygl o lifogydd i gymunedau yng Nghymru. Bydd hyn yn rhoi trosolwg da i chi o beth yw perygl llifogydd, beth ydyn ni’n ei wneud i reoli’r risg yng Nghymru, a pha effaith mae’r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar berygl llifogydd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.

Un nodyn cyn i ni ddechrau, mae Richard Kelland, y person y byddwn yn siarad gyda yn y rhifyn yma yn arbenigydd yn ei faes, ond mae e hefyd yn ddysgwr Cymraeg. Mae e wedi ymgymryd a’r her i nid yn unig recordio’r fersiwn Saesneg y rhifyn yma, ond hefyd i recordio’r fersiwn Gymraeg Mae Richard yn cael ei gefnogi gan CNC i ddysgu’r iaith, felly gofynnwn i chi fod ychydig yn amyneddgar yn y rhifyn yma, a gwerthfawrogi’r ymdrech fawr mae Richard wedi rhoi mewn i recordio hyn yn Gymraeg yn ogystal a’r Saesneg.

Helo a chroeso i bennod deg, sef pennod olaf y gyfres fach ar Reoli Perygl Llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru! Heddi, mae Richard Kelland, sy'n gweithio fel yr Arweinydd Sgiliau a Datblygu yn y tîm Rheoli Perygl Llifogydd yn CNC, yn ymuno â mi. Croeso Rich, a diolch yn fawr iawn am ymuno â fi! 

RK: Diolch yn fawr, bore da.

LlB: I ddechrau, alle ti ddweud ychydig wrthyn ni amdano ti? Dy gefndir, dy addysg a dy yrfa a pethau fel hynny? 

RK: Iawn, fy enw i yw Rich Kelland a dwi’n gweithio fel Arweinydd Sgiliau a Datblygu yn y tîm Rheoli Perygl Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Dw i wedi gweithio i CNC ac yn y maes am bron 30 mlynedd.

Dw i wastad wedi hoffi daearyddiaeth, a dyna oedd fy hoff bwnc yn yr ysgol. 

Ar ôl ysgol, es i i’r West London Institute of Higher Education, sydd nawr yn rhan o Brifysgol Brunel. 

Wnes i ddysgu llawer a ces i amser gwych. 

Es i mewn i'r diwydiant ar ôl gweld hysbyseb swydd am swydd haf yn y papur newydd lleol. Roedd y swydd yn golygu gweithio fel rhan o dîm Adnoddau Dŵr yr Awdurdod Afonydd Cenedlaethol. Yn y swydd, roeddwn i yn gweithio gyda data yn ymwneud a faint o ddŵr roedd pobl â thrwyddedau yn cymryd allan o afonydd a chronfeydd.

Ces i lawer o gyfleoedd i weithio tu fas lle helpais i gynnal gorsafoedd medryddu hydrometrig. 

Mae'r gorsafoedd yn monitro ac yn cofnodi lefelau llif ar ein hafonydd ac yn chwarae rhan bwysig mewn sawl maes o'n gwaith, yn enwedig wrth reoli llifogydd. 

Mae angen i ni gael yr wybodaeth hon fel ein bod yn gallu rhoi rhybuddion llifogydd i'r cyhoedd. 

Roedd wir wedi helpu i fi ddeall y gwahanol fathau o ddalgylchoedd yn ne Cymru, a dod i wybod fy ffordd o gwmpas yr ardal. 

Ar ôl hynny, es i’n ôl i Lundain i gwblhau blwyddyn olaf fy ngradd. 

Ar ôl gorffen y cwrs, wnes i ofyn os oedd yna gyfle i mi weithio gyda’r Awdurdod Afonydd Cenedlaethol, ac ces i swydd gyda nhw. Roeddwn i’n hapus iawn am hynny.

Ymunais i â’r tîm Rheoli Perygl Llifogydd ym 1996 a dw i wedi gwneud sawl swydd mewn swyddfa a thu fas, gan gynnwys bod ar sawl rota yn ymateb i lifogydd. 

Yn fy rolau o ddydd i ddydd, dw i wedi bod yn arolygydd asedau. Roedd hyn yn golygu asesu cyflwr y strwythurau rydyn ni’n eu cynnal, fel cloddiau llifogydd a falfiau fflap. 

Dw i hefyd wedi bod yn datblygu rhaglenni cynnal a chadw er mwyn sicrhau bod ein hasedau mewn cyflwr da. Rydyn ni’n gwneud gwahanol fathau o waith cynnal a chadw, fel torri porfa gwair ar ein hamddiffynfeydd i gael gwared ar goed sydd wedi cwympo mewn afonydd a allai arwain at lifogydd.   

Mae rheoli achosion o lifogydd wastad wedi bod yn rhan bwysig o fy ngwaith. Rydyn ni’n cynnal dros 90 rota yng Nghymru ac yn darparu gwasanaeth rhybuddion llifogydd 24/7, 365 days a year yng Nghymru. 

Rwyf wedi cyflawni sawl rôl gwahanol, ond ar hyn o bryd rwy'n Swyddog ar Ddyletswydd ar gyfer Digwyddiadau Llifogydd, ac rwyf “ar alwad” am wythnos unwaith bob wyth wythnos

Yn y rôl yma, dwi’n derbyn galwadau o’r cyhoedd a gwneud yn siŵr bod ein timau yn ddiogel allan ar safleoedd wrth iddynt ymateb i ddigwyddiadau fel cau gatiau llifogydd neu archwilio amddiffynfeydd llifogydd. 

Mae’n gallu bod yn waith heriol ar adegau, yn enwedig yn ystod llifogydd mawr, ond ni’n gweithio fel tîm ac yn cefnogi ein gilydd i ddarparu’r gwasanaeth pwysig yma i’r cyhoedd. 

Mae fy ngwaith yn ddiddorol, yn amrywiol ac yn bwysig i mi. Rwyf wedi derbyn llawer o fentora a hyfforddiant, ac rwyf wedi cael cefnogaeth i ddatblygu fy sgiliau. 

Ces i gyfle hefyd i fynd yn ôl i'r brifysgol i astudio ar gyfer HNC  - neu Higher National Certificate rhan-amser mewn peirianneg sifil. 

Dw i wedi cael cyfleoedd i weithio gyda phobl wych, ac rwy'n teimlo'n lwcus fy mod i’n gweithio mewn gyrfa sydd yn agos iawn i beth oeddwn yn hoffi astudio. 

Tu fas i’r gwaith, rwy’n hoff iawn o chwaraeon – criced a rygbi yn arbennig, ac rwyf wedi gwneud tipyn o hyfforddi dros y blynyddoedd. Rwy'n mwynhau gweld pobl yn datblygu ac rwy'n ffodus fy mod i’n gallu gwneud hyn yn fy mywyd gwaith hefyd. 

 

LLB: Mae hwnnw’n llwybr gyrfa diddorol ac amrywiol sydd wedi dy arwain at dy rôl bresennol. Alla ti ‘weud i fi beth mae’r rôl honno’n golygu?

RK: Mae’r tîm yn wynebu heriau mawr nawr ac yn y dyfodol. 

Rydyn ni’n gweld newid hinsawdd yn effeithio ar gymunedau yn barod yng Nghymru, ac rydym yn disgwyl i’r effeithiau hyn fynd yn waeth yn y dyfodol. Mae fy rôl i yn ymwneud â sicrhau bod gan y tîm yr hyfforddiant a'r sgiliau cywir i wynebu'r heriau hyn, a datblygu arbenigwyr y dyfodol yn y maes rheoli perygl llifogydd - pobl fel chi!! (gwrandawyr, nid y cyflwynydd!)

Mae fy ngwaith dyddiol yn cynnwys sicrhau bod gan y tîm Rheoli Perygl Llifogydd yr hyfforddiant sydd ei angen i gyflawni eu gwaith. 

Gallai hyn olygu trefnu cyrsiau arbenigol, hyd at trefnu cyrsiau ôl-raddedig gyda cholegau a phrifysgolion. 

Rwyf hefyd yn sefydlu fframweithiau cymwyseddau technegol ym maes rheoli perygl llifogydd, fel bod lefelau hyfforddiant yn gyson.

Rhan gwerth chweil o fy swydd yn ystod y misoedd diwethaf oedd sefydlu cynllun lleoli – neu placements yn Saesneg - yn y tîm rheoli perygl llifogydd. Mae'n fenter eitha’ newydd er mwyn cynnig profiad i bobl ifanc sydd newydd orffen astudio addysg uwch, neu sy'n edrych am flwyddyn mewn diwydiant fel rhan o gwrs gradd. 

Mae ein pedwar myfyriwr cyntaf ar leoliad yn y tîm ac wedi setlo i mewn yn dda iawn – mae un ohonyn nhw hyd yn oed wedi mynd ymlaen i gael swydd barhaol yn y tîm. 

Rydyn ni’n gobeithio ehangu’r cynllun a chynyddu’r nifer a’r math o placements rydyn ni’n cynnig. Felly cadwch lygad ar ein gwefan! Mae dysgu gydol oes a datblygu proffesiynol wrth wraidd fy ngwaith. 

Elfen bwysig o hyn yw fy ngwaith yn cydlynu aelodaeth broffesiynol gyda chorff o’r enw CIWEM, sef y Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a’r Amgylchedd – neu y Chartered Institute of Water and Environmental Management yn Saesneg. 

Mae’r sefydliad yn cynnig gwahanol fathau o aelodaeth, a dw i’n rhoi cyngor i gydweithwyr i’w helpu i ddatblygu.

LLB: Mae llawer o waith da yn digwydd felly, a llawer o gyfleoedd ar gyfer y cenedlaethau nesaf o ymarferwyr yn y maes. Mae'n debyg, gyda'r argyfwng hinsawdd a natur, bod angen gwirioneddol i barhau i ddatblygu pobl frwdfrydig i'r rolau hyn. Pa heriau wyt ti’n meddwl allai godi yn y dyfodol?

 

RK: Mae heriau mawr yn wynebu’r tîm rheoli perygl llifogydd, nawr ac yn y dyfodol.

 

Yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld y tymheredd uchaf yng Nghymru a sychder. Ar ôl hynny roedd rhai o’r llifoedd afon uchaf erioed mewn rhannau o Gymru. 

 

Bydd angen i ni addasu i’r tywydd eithafol hyn. Mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n datblygu ein pobl ac yn rhoi'r hyfforddiant cywir i nhw fel eu bod yn gallu ymateb. Mae hyn wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n trio gwneud o ran sgiliau a datblygu yn y tîm.

 

Mae recriwtio yn un o’r meysydd sy’n peri pryder, nid yn unig i ni ein hunain ond i lawer o gyflogwyr yn ddiweddar. Mae llawer o gwmnïau wedi bod yn cael trafferth dod o hyd i bobl brofiadol i lenwi eu swyddi. Rydyn ni wedi cael trafferth recriwtio i rai swyddi yn y blynyddoedd diwethaf hefyd. 

 

Rydyn ni’n gobeithio y bydd y cynllun placements yn chwarae rhan mewn creu cronfa o dalent y dyfodol i ymuno â’r tîm. 

 

Mae angen i ni hefyd adeiladu ar ein cysylltiadau gyda ysgolion, colegau a phrifysgolion, a trio dylanwadu ar gynnwys cyrsiau o ran rheoli perygl llifogydd. Bydd hyn yn darparu’r wybodaeth gynnar a sgiliau i bobl ifanc i wneud y gwaith. Rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn tanio diddordeb mewn gyrfa ym maes rheoli perygl llifogydd yn y dyfodol. 

 

LLB: Felly, os yw rhywun sy'n gwrando heddiw yn meddwl, waw, mae hon yn swnio fel gyrfa ddiddorol a gwerth chweil iawn i fi, sut ddylai’r hwnnw gychwyn arni? Pa fath o addysg neu brofiad sy'n helpu i'w gosod ar wahân?

 

RK: Mae ‘da ni bobl o gefndiroedd eang yn y tîm. Pobl fel peirianwyr, gwyddonwyr, daearyddwyr ac ecolegwyr, ond mae llawer mwy hefyd. 

 

Dyw eich datblygiad ddim yn stopio unwaith i chi ymuno â'r tîm. Byddwch chi’n cael hyfforddiant arbenigol i’r swydd sydd ei angen arnoch, a byddwn ni’n edrych i ddatbygu pobl yn y hirdymor. Gall hyn olygu astudio cyrsiau addysg uwch yn rhan-amser. 

 

Rydyn ni’n annog ein staff i brofi bywyd gwaith ar draws nifer o dimau Rheoli Perygl Llifogydd. Mae hyn yn helpu staff newydd i weld beth mae nhw yn mwynhau a beth maen nhw'n gwneud yn dda. 

 

Bydd y gyfres yma o bodlediadau yn helpu pobl i weld gwaith amrywiol ein timau, ond os oes ‘da chi unrhyw gwestiynau, cofiwch ofyn i ni. 

 

Felly, daliwch ati i weithio'n galed, gofynnwch gwestiwn bob amser a chadwch lygad am gyfleoedd swyddi a lleoliadau ar ein gwefan.

 

LLB: Diolch Rich, bydd y manylion cyswllt yn y nodiadau ar gyfer y podlediad yma. Mae’n swnio fel bod yna lawer o lwybrau gwahanol i mewn i faes rheoli perygl llifogydd a CNC, felly. Sut mae pobl yn dod i wybod am gyfleoedd i ymuno â'r tîm, boed hynny ar ffurf profiad gwaith neu ar leoliad neu ymuno â ni fel prentis neu aelod parhaol o staff? 

 

RK: Cadwch lygad ar ein gwefan a'n sianeli Facebook, Twitter a Linkedin.

 

Mae ‘da ni hefyd dudalen placements ar ein gwefan CNC lle gallwch gofrestru i gael y cylchlythyr lleoliadau sy'n dweud wrthych chi pa gyfleoedd sydd ar gael.

 

LLB: Diolch Rich, bydd y wybodaeth yna i gyd ar nodiadau’r podlediad yma hefyd. Mae hynny'n wych, mae'n swnio fel bod llawer o ffyrdd y gall pobl gadw mewn cysylltiad a chael yr wybodaeth ddiweddaraf! Rwy'n meddwl, un peth cyn i ni orffen, y byddai'n braf iawn gwybod beth yw dy hoff rhan o dy swydd?

 

RK: Er bod gwaith y tîm yn amrywiol, mae'n dal i deimlo fel grŵp agos. Mae’n wych gwybod bod y gwaith yn helpu pobl, economi ac amgylchedd Cymru.

 

Yn y pendraw, rwy’n cael pleser o weld pobl yn datblygu ac yn symud ymlaen – boed hynny ar y cae chwaraeon neu yn y tîm Rheoli Perygl Llifogydd. 

 

LLB: Diolch Rich, am roi o'ch amser i siarad â mi heddi. Mae wedi bod mor ddiddorol clywed am dy waith ond hefyd am yr holl gyfleoedd sydd i gael yn y tîm i pobl ddatblygu ond hefyd y math o gyfleoedd y bydd yn dod i bobl yn y dyfodol hefyd. Diolch am ymuno â fi!

 

Dw i’n gobeithio eich bod wedi mwynhau’r bennod hon. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau, gallwch gysylltu â ni ar Facebook, Twitter neu Instagram neu drwy’r cyfeiriad e-bost sydd yn nodiadau’r sioe yma. Fe welwch hefyd ddolenni i’n tudalennau gwe ar reoli perygl llifogydd lle gallwch weld rhai o'r pethau dyn ni wedi sôn am yma heddi.

Diolch am wrando!