Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru

Rhifyn 1: Parth Cadwraeth Morol Sgomer

September 03, 2021 Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru
Rhifyn 1: Parth Cadwraeth Morol Sgomer
Show Notes Transcript

Y mis yma, rydyn ni’n dechrau gyda rhan gyntaf pennod dwy-ran arbennig i lawr yn Sir Benfro lle siaradodd ein uwch swyddog cyfathrebu, Llinos Merriman, â'n cydweithiwr Phil Newman am ei yrfa a'r gwaith gwych maen nhw’n ei wneud ym Mharth Cadwraeth Morol Sgomer.

 Llion: Helo a chroeso i bennod gyntaf Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru. Fy enw i yw Llion Bevan ac rwy'n uwch swyddog cyfathrebu, yn gweithio i CNC.

 Mae ein gwaith yn eang felly bydd dim prinder o straeon gwych i'w rhannu gyda chi.

 Rydyn ni’n; rheoleiddiwr sy'n diogelu pobl a'r amgylchedd, yn rheolwr tir sy'n gyfrifol am 7% o arwynebedd tir Cymru gan gynnwys coetiroedd a gwarchodfeydd natur cenedlaethol; yn ymatebydd brys categori un i oddeutu 9,000 o ddigwyddiadau amgylcheddol bob blwyddyn; yn brif gynghorydd i Lywodraeth Cymru; a ni yw cyflenwr pren cynaliadwy mwyaf Cymru gyda hyd at 835,000 metr ciwbig o bren yn cael ei gwympo yn ein coedwigoedd bob blwyddyn.

 Ac mae cymaint mwy ar ben hynny.

 Ar ddiwedd y dydd, ein gwaith yw diogelu a hyrwyddo adnoddau naturiol Cymru i helpu i drwsio'r amgylchedd lleol lle mae angen a'i ddiogelu lle mae'n arbennig.

 Y mis yma, rydyn ni’n dechrau gyda rhan gyntaf pennod dwy-ran arbennig i lawr yn Sir Benfro lle siaradodd fy nghyd-uwch swyddog cyfathrebu Llinos Merriman â'n cydweithiwr Phil Newman am ei yrfa a'r gwaith gwych maen nhw’n ei wneud ym Mharth Cadwraeth Morol Sgomer.

 Nawr, i fod yn onest gyda chi, roedden ni wedi bwriadu gwneud un bennod allan o'n hymweliad â Sgomer, ond roedd gan ein cydweithwyr gymaint o wybodaeth ddiddorol nes bod yn rhaid i ni ei throi'n ddwy bennod.

 Mae un peth arall sydd angen i ni nodi cyn i’r sgwrs ddechrau; gan nad yw Phil yn siarad Cymraeg, rydym wedi ail-greu’r sgwrs wreiddiol rhwng Llinos a Phil yn y Gymraeg. Hoffwn ddiolch i’n cydweithiwr Ioan Williams am leisio darnau Phil fan hyn .

 Draw atat ti, Llinos.

 

Llinos: Diolch Llion, dwi yma gyda Phil Newman, ein huwch swyddog Asesu'r Amgylchedd Morol yn Sgomer a diolch yn fawr i ti Phil am ymuno â fi.

 

Phil: Croeso, fe ddest ti â’r tywydd gyda ti hefyd. Wastad yn braf pan mae hynny’n digwydd! 

 

Llinos: Mae'n hyfryd heddi, on’d yw hi? Ry’ ni ’ma  ni ar Skelmy, sef ein cwch monitro ym Mharth Cadwraeth Morol Sgomer. Felly yn gyntaf Phil, alle ti ddweud ychydig wrthyn ni am ti dy hun ar gwaith rwyt ti’n gwneud yma?

 

Phil: Iawn, wel, fe ddechreuais i amser maith yn ôl rywle tua diwedd Oes yr Iâ, dwi’n meddwl. Ym 1991 ddechreuais i, a  dwi wedi bod yn y maes am sbel. Monitro morol yw ein gwaith ni, yn bennaf. Felly, gall hynny fod o dan y dŵr neu ar y glannau ac mae’n cynnwys bioleg yn ogystal ag ansawdd dŵr ac eigioneg, a phethau felly. Felly pethau fel tymheredd y dŵr a pha mor gymylog yw'r dŵr, halwynedd, pethau fel yna a rhywfaint o waith cemeg dŵr.

 Ac wedyn o dan y dŵr mae gennyn ni gyfres gyfan o safleoedd wedi'u sefydlu gyda safleoedd parhaol sydd wedi'u marcio fel ein bod ni’n gallu dod o hyd iddyn nhw o un flwyddyn i'r llall, er mwyn edrych ar amrywiaeth o wahanol gymunedau tanddwr.

 

Llinos: Swnio'n amrywiol iawn. Mae ‘na lawer yn digwydd yma. Pan benderfynon ni lansio'r podlediad, roedden ni eisiau dechrau gyda rhywbeth arbennig iawn felly fe benderfynon ni ddod fan hyn ato chi, i Barth Cadwraeth Morol Sgomer. Ond efallai i’r gwrandawyr sydd ddim yn gwybod am y lle, alla ti ddweud ychydig yn fwy am y parth a pham mae mor arbennig?

 

Phil: Iawn, wel, mae'r parth cadwraeth morol yn ymestyn o amgylch ynys Sgomer. Mae'n mynd i fyny i'r marc penllanw, felly rydyn ni’n gofalu am yr holl ddarnau gwlyb i bob pwrpas, fel rydyn ni’n hoffi dweud wrth bobl.

 Yna mae'r ffin yn ymestyn draw i'r tir mawr. Felly mae Penrhyn Marloes a'r arfordiroedd a'r dyfroedd o’i gwmpas wedi'u cynnwys yn y Parth Cadwraeth Morol. Mae’n cynnwys tua 1400 hectar o wely'r môr; mae rhywfaint ohono'n graig, mae rhywfaint yn waddodion ac mae’n cynnwys popeth rhwng y ddau, felly mae ystod eang o gynefinoedd gwahanol yno, ac yna ar un ochr i'r ynys, mae'n gysgodol iawn rhag y tonnau a’r gwynt.

 Mae’r ochr arall yn nannedd y gwynt ac yn agored i stormydd yr Iwerydd.

Ac wedyn mae gennyn ni amrediad llanw 7 metr ar ben hynny, felly mewn rhai mannau mae ceryntau cryf iawn, mewn mannau eraill prin fod unrhyw gerrynt o gwbl, felly erbyn i chi ystyried yr holl amrywiadau a chyfuniadau hynny, mae nifer y cynefinoedd gwahanol sydd yma’n rhyfeddol. Am un darn bach o wely'r môr. Ac wrth gwrs, rydyn ni’n gweld yr holl wahanol gymunedau anifeiliaid a phlanhigion sydd wedi addasu i'r holl gynefinoedd gwahanol hynny.

Felly mae amrywiaeth y cymunedau hynny'n anhygoel, a dyna'r rheswm iddo gael ei ddewis yn y lle cyntaf yn ôl ym 1990.

 Dyna pryd y cafodd ei ddynodi'n warchodfa natur forol statudol, ond roedd honno’n broses a oedd wedi bod ar waith ers rhyw 20 mlynedd cyn hynny, ond mae'r safle wedi bod yn adnabyddus erioed, fel safle â lefel uchel iawn o fioamrywiaeth sy'n hynod ddiddorol.


Llinos: Mae'n swnio fel bod llawer o waith wedi digwydd i greu’r hyn sydd yma heddiw. Oes unrhyw rywogaethau penodol yma sy'n arbennig iawn i’r lle?

 

Phil: Wel, rhan o harddwch Sgomer yw ei bod ar gyrion dosbarthiad llawer o rywogaethau.

Felly mae rhai pethau fel y môr-wyntyll binc sydd, os ewch chi ymhellach i fyny i'r gogledd ar hyd arfordir Cymru, yn prinhau. Felly dyma’r cadarnle olaf, mewn ffordd. I lawr yn ne-orllewin Lloegr, ar y llaw arall, maen nhw’n gyffredin tu hwnt. Felly, rydyn ni ar ymyl eithaf y rhywogaeth, fan hyn.

Ac yna mae rhai rhywogaethau gogleddol, rydyn ni yn y parth lle mae’r ddau’n gorgyffwrdd, felly mae hynny'n helpu i wella'r bioamrywiaeth hefyd. 

Ond mae'n golygu, gyda newid yn yr hinsawdd, ein bod ni mewn sefyllfa dda yma i weld a yw hynny'n effeithio ar rai o'r cymunedau morol hefyd, oherwydd yn amlwg bydd y ffin honno'n simsanu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.

 

Llinos: Mae cymaint o waith  yn cael ei wneud yma trwy’r flwyddyn. Sut ydych chi’n llwyddo i wneud y cyfan?

 

Phil: Wel, mae pedwar ohonon ni yn y tîm yn PCM Sgomer. Dau amser llawn, dau’n rhan-amser, felly dydyn ni ddim yn weithwyr llawn amser i ddechrau, ac i ffurfio tîm deifio mae'n rhaid i ni gael pedwar deifiwr sydd â chymwysterau masnachol.

Felly rydyn ni’n treulio cymaint o'r tymor tywydd da, sef yn fras o ddechrau mis Ebrill hyd at ddiwedd Medi, allan ar y dŵr neu o dan y dŵr, neu ar y glannau yn bwrw ymlaen â'n gwaith.

Ond yn amlwg mae angen amser i ffwrdd ar bobl. Mae angen gwyliau, weithiau mae angen iddyn nhw weld eu teuluoedd. Felly, pan fydd un o'r tîm i ffwrdd, yn amlwg, mae’n golygu na all y tîm deifio weithio gyda dim ond tri o bobl, felly bryd hynny, mae gennyn ni gronfa o wirfoddolwyr sydd â chymwysterau addas.

Mae ganddyn nhw’r holl gymwysterau deifio masnachol neu'r rhai cyfatebol ac maen nhw’n dod allan i greu tîm llawn, a hebddyn nhw, yn sicr eleni pan rydyn ni wedi cael problemau gyda rhai aelodau o staff yn methu gweithio, fydden ni ddim wedi gallu gwneud unrhyw beth.

Felly mae'r deifwyr gwirfoddol sy'n ein helpu ni fel rhan o'n tîm yn eithriadol o bwysig.

Ac yna mae gennyn ni brosiectau eraill sy'n rhy fawr i'n timau bach ni eu gwneud ar eu pennau eu hunain, sef pethau fel edrych ar ein poblogaeth warchodedig o gregyn bylchog, mae angen inni archwilio cannoedd o fetrau sgwâr o wely'r môr wrth wneud yr arolygon ar gyfer hynny. Felly dyna lle mae ein timau o ddeifwyr gwirfoddol yn gallu helpu.

Rydyn ni’n llogi cychod siarter deifio lleol, yn eu llenwi â deifwyr gwirfoddol, ac maen nhw’n bwrw ymlaen â'r gwaith, a does dim angen unrhyw brofiad ym maes bioleg forol, o reidrwydd.

Yr oll sydd ei angen yw eu bod nhw’n ddeifwyr cymwys sy'n gallu adnabod cregyn bylchog yn achos yr arolygon, ac mae pawb yn joio mas draw, a bwrw bod y tywydd yn iawn. Mae llwythi o gregyn bylchog yn cael eu cludo i ddec y cwch a maen nhw i gyd yn cael eu cyfri. 

Maen nhw i gyd yn cael eu mesur ac mae ganddyn nhw gylchoedd twf fel coeden ar y gragen, felly gallwn ni gyfri’r cylchoedd twf a chael ystadegau pwysig iawn ar ba mor hen yw'r boblogaeth a faint o bob oedran sydd, ac yna mae'r cregyn bylchog i gyd yn mynd yn ôl i’r môr eto.

Felly, os oes ambell ddeifiwr dibrofiad sydd ddim wedi gwneud yr arolwg hwn o'r blaen, maen nhw’n edrych mor ddigalon pan maen nhw’n gweld y cregyn bylchog yn mynd yn ôl i’r dŵr.

Yn anffodus, pe baech chi’n mynd â'r cregyn bylchog adref, gallai hyn gostio £50,000 i chi, achos dyna beth yw’r ddirwy am eu symud nhw. 

 

Llinos: Mae’n swnio fel eich bod chi a’r deifwyr yma i gyd yn cael amser gwych. Ydy’r un deifwyr yn dod yn dod yn ôl bob blwyddyn neu oes cymysgedd o bobl newydd pob tro? 

 

Phil: Wel, ie, ni’n gweld lot o’r un bobl pob blwyddyn, ond ein prosiect cyntaf â deifwyr gwirfoddol oedd arolygu’r gwely o wellt y gamlas yn North Haven, sydd y tu ôl i ni fan hyn.

Rydyn ni wedi’n clymu i angorfeydd yr ymwelwyr sy'n helpu i ddiogelu’r gwely hwn i atal pobl rhag angori ynddo oherwydd bod hynny'n ei ddifrodi.

Ond pe baen ni’n trio arolygu’r gwely yna ein hunain, byddai'n cymryd drwy’r flwyddyn gyda'n tîm bach ni. Felly yn ôl ym 1997, dwi’n meddwl, digwyddodd yr arolwg cyntaf fel arbrawf, mewn gwirionedd, i weld a allen ni ddefnyddio deifwyr gwirfoddol a nawr mae’r un bobl yn dod yn ôl flynyddoedd yn ddiweddarach ac yn mynnu dod yn ôl pob blwyddyn.

 

Llinos: Gwych, cymaint o waith yma! Felly bron i flwyddyn i gwblhau un math o brosiect monitro gyda’r tîm bach. Ydy’r tymor yn effeithio ar pa fath o waith sy’n digwydd a ydy fe’n amrywio o gwbl?

 

Phil: Yn bendant.

Felly yn y tymor tywydd da, ac eto, does dim dal sut y bydd y tywydd o flwyddyn i flwyddyn, rydyn ni’n gwneud yr holl waith o dan y dŵr. Unrhyw beth lle mae angen cychod i wneud y gwaith. 

Ac yna tua'r hydref mae lloi’r morloi’n cyrraedd ac mae hyd at oddeutu 400 o loi yn cael eu geni o fewn y parth cadwraeth morol ac mae tua thraean o'r rheini'n cael eu geni ar draethau’r tir mawr.

Felly o'n swyddfa yn Martin’s Haven, gallwn ni gerdded allan ar hyd y clogwyni a chadw cyfri o loi’r morloi bob ychydig ddyddiau. Ond yn amlwg ar yr ynys mae'n dasg llawer mwy, felly mae hynny’n cael ei gontractio allan i ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan yr Ymddiriedolaeth Natur sydd â wardeiniaid yn byw ar yr ynys felly maen nhw’n gallu gwneud y gwaith hwnnw i ni.

Ond un o fanteision y ffaith bod y tîm wedi'i leoli yn Martin’s Haven a bod ein cychod wedi’u hangori yn Martin’s Haven yw bod wastad ffenestr dywydd dda waeth beth wnaeth rhagolygon y tywydd ei addo i ni.s yw'n wahanol i hynny, gallwn ni fynd allan ar unwaith a bwrw ymlaen â rhywfaint o waith.

 

Felly mae'r amser segur yn gyfyngedig iawn, iawn oherwydd gallwn ni gymryd y cyfle hwnnw'n gyflym iawn.

 

Llinos: Oes ‘na ddiben penodol at yr holl ddata rydych chi’n casglu yma?

 

Phil: Mae nifer o ddibenion ar gyfer y gwaith monitro, fel y gwaith monitro ymwelwyr ac ymwelwyr hamdden rydyn ni’n ei wneud, sydd bron yn unigryw yn y DU.

Does neb yn casglu'r math hwnnw o wybodaeth yn unman arall, a hyd yn oed gyda dwysedd pysgota, gallwn i ddweud yr un peth am hynny, felly mae darnau o ddata’n cael eu defnyddio ar gyfer gwahanol fathau o yrwyr polisi.

Ond diben cyffredinol ein gwaith monitro yw gallu adrodd ar statws y safle ei hun. Ac mae'r ffaith bod y parth cadwraeth morol yng nghanol Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro yn golygu y gallwn ni hefyd gyfrannu at adrodd ar y safle hwnnw ac mae llawer o'n data yn mynd tuag at hynny hefyd.

Felly mae sawl defnydd ac fel y dywedodd un o'n cydweithiwr Catherine Duigon, samplwch unwaith a defnyddiwch sawl gwaith ar gyfer data sy'n eithaf anodd ei gasglu.

Llinos: Dwi’n gallu clywed pobl yn y cefndir a mae cychod ym mhobman. Faint o ymwelwyr sy’n dod yma mewn blwyddyn?

 

Phil: Mae'n amrywio cryn dipyn o flwyddyn i flwyddyn. Rai blynyddoedd fe ddaw heidiau o bobl mewn canŵs a chaiacau agored, ond bob blwyddyn rydyn ni’n cael cannoedd o gaiacau yn arbennig. Mae rhai o'r grwpiau o gaiacau dan arweiniad masachol yn dod allan o Martin's Haven ac yn cychwyn oddi yno, a gallan nhw fynd o amgylch yr ynys ac yn ôl eto.

Felly gallai fod dwsin neu fwy o gaiacau mewn grŵp fel yna, ond gyda thywyswr proffesiynol ac mae gennyn ni berthynas waith dda iawn gyda'r tywyswyr proffesiynol, fe wnaeth un ohonyn nhw roi llafn newydd ar un o rwyfau ein dingi am ddim, chwarae teg, felly ie, perthynas waith dda.

Wedyn mae gennyn ni bysgotwyr, a sawl deifiwr, roedd miloedd a miloedd o ddeifwyr yn dod allan, ond am ryw reswm, mae'r niferoedd hynny wedi lleihau – mae poblogrwydd gwyliau tramor wedi cyfrannu at hynny, siŵr o fod.

Rydych chi’n sicr o gael amodau cynnes braf gyda dŵr clir dramor, a does dim gwarant o hynny yn Sir Benfro.

Ond yn ystod COVID rydyn ni’n gweld llawer mwy o ddeifwyr eleni na mewn blynyddoedd blaenorol. Rydyn ni’n llwyddo i’w denu nhw eto.

 

Llinos: Sut effeithiodd hwna ar eich gwaith monitro. Ydy’r coronafeirws wedi effeithio'n fawr arnoch chi a’ch sefyllfa?

Phil: Ydy. Yn 2020, ddigwyddodd dim byd o gwbl, yn y cyfnod clo. Ac oherwydd yr holl ragofalon oedd ar waith ar y pryd, ystyriwyd na allech chi gadw pellter cymdeithasol wrth weithio ar gychod bach, felly troeon ni at ddyletswyddau eraill drwy gydol 2020, a olygai eistedd wrth ein desgiau, sy'n annaturiol i ni. Mae'r tîm wedi arfer bod allan yn y maes, a dyma'r tro cyntaf mewn 30 mlynedd i ni gael ein hatal yn llwyr rhag gwneud ein gwaith monitro.

Rydyn ni wedi goroesi stormydd. Gollyngiad olew'r Sea Empress. Pob math o bethau, prinder staff hyd yn oed, ac rydyn ni’n dal wedi llwyddo i fynd allan a chwblhau’r rhan fwyaf o’n rhaglen fonitro, os nad yr holl raglen, ac mae’r effeithiau wedi parhau rywfaint i mewn eleni gan ein bod ni tua chwe wythnos yn hwyr yn dechrau ein rhaglen fonitro, felly mae hynny wedi achosi rhai problemau.

Ond rydyn ni’n gweithio gyda rhagofalon COVID ac rydyn ni’n mynd mor gyflym ag y gallwn ni i geisio dal i fyny ar yr amser a gollwyd.

 

Llinos: Ydy’r ffaith na aethoch chi allan i fonitro dros y flwyddyn diwethaf wedi effeithio ar ansawdd y data o gwbl?

 

Phil: Wel, mae wedi creu bwlch sydd bob amser yn newyddion drwg mewn unrhyw set o ddata, ond yn ffodus oherwydd ein bod ni wedi bod yn casglu'r data dros gyfnod mor hir, mae'n golygu bod y set ddata honno'n fwy cadarn.

Felly ‘dyw bwlch o flwyddyn ddim yn drychineb, o reidrwydd. Wedi dweud hynny, gallwn ni golli blwyddyn lle mae rhywbeth yn digwydd yn ystod y flwyddyn honno ac nad oes gennyn ni unrhyw ddata monitro i ddarganfod beth oedd y sefyllfa cyn i'r digwyddiad hwnnw ddigwydd.

Felly, roedden ni’n lwcus yn y flwyddyn lle nad oedd modd gwneud unrhyw waith monitro, na ddigwyddodd unrhyw beth ofnadwy sy’n hysbys i ni ar hyn o bryd. Byddwn ni’n adrodd ddiwedd eleni os nad yw hynny'n wir.

 

Llinos: Dywedodd aderyn bach wrtha’ i Phil dy fod ti’n ymddeol eleni ar ôl 30 mlynedd yma yn Sgomer. Dw i’n siŵr bod llawer gyda ti i rannu ond alla ti roi cwpwl o dy uchafbwyntiau i ni?

 

Phil: Ie, amser i ffwrdd oherwydd ymddygiad da, mae nhw’n dweud!

Ie, mae'n rhyfedd meddwl na fydda i allan yma yn gwneud y math yma o beth, a hynny ymhen dim ond ychydig fisoedd. Ond ie, uchafbwyntiau rif y gwlith. Mae'n wych gallu gwneud y math yma o waith.

Ac ar ôl bod yma mor hir, dwi wedi bod yma'n ddigon hir i weld y newidiadau.

Rhai'n dda, rhai ddim cystal, ond dwi’n meddwl mai gallu gweld effeithiau ein rheolaeth sy'n rhoi’r boddhad mwyaf i mi.

Mae gennyn ni’r boblogaeth warchodedig o gregyn bylchog fel y soniais i o'r blaen, a'r ffaith ein bod ni allan yma'n sicrhau bod is-ddeddfau pysgodfeydd yn cael eu gorfodi hyd yn oed drwy ddulliau gorfodi ysgafn dim ond drwy fod yma ym mhresenoldeb pobl.

Ond, mae’n wych gweld y boblogaeth o gregyn bylchog yn adfer fel hyn, mae llawer mwy o gregyn bylchog nawr nag oedd yma pan ddes i gyntaf, a gweld hefyd yr adferiad yn y gwely gwaddodion ar waelod y môr lle mae'r cregyn bylchog yn byw, gan nad oes unrhyw dreillio neu lusgrwydo’n digwydd nawr, heb sôn am dynnu cregyn bylchog oddi yno, mae amrywiaeth gwely gwaddodion y môr wedi tyfu’n rhyfeddol, mae’r bobl sy’n derbyn ein samplau i’w harchwilio’n cael eu syfrdanu hefyd o weld faint o rywogaethau sydd. A hynny i gyd mewn ond graean a mwd!

Felly mae hynny’n rhoi boddhad mawr. Mae amryw o ddigwyddiadau wedi bod dros y blynyddoedd lle byddwn i’n cael sioc ac yn digalonni wrth wneud y gwaith monitro a sylweddoli efallai nad yw'r môr-wyntyll binc dwi wedi bod yn tynnu lluniau ohoni’n ddyfal bob blwyddyn dros y 25 mlynedd diwethaf yno mwyach a’i bod wedi diflannu.

Ac mae hynny’n dipyn o ergyd. Neu safle sydd wedi cael ei effeithio’n arbennig o wael gan ddirywiad gwyntyllau môr.

Atgof arall yw pan ddaethon ni o hyd i ffrwydryn parasiwt o'r Ail Ryfel Byd wrth ymyl un o'n safleoedd monitro. Wedi bod yn gorwedd yno mewn heddwch am ryw 70-80 mlynedd.

A ie, digwydd dod ar ei draws wnaethon ni, roedd yn dal i fod yn gwbl weithredol yn ôl y criw difa bomiau a ddaeth allan i’w gymryd ymaith i’w ffrwydro.

 

Llinos: Dw i’n mor falch fy mod i wedi gofyn y cwestiwn yna nawr! Doedden i ddim yn disgwyl clywed hwna o gwbl! Wyt ti’n gwybod beth fydde ti’n gwneud ar ôl ymddeol?

 

Phil: Ym, dal i fyny ar gwsg, efallai? Na, dwi eisoes wedi llenwi'r gwaith papur i gofrestru fel gwirfoddolwr achos dwi'n meddwl bod gen i rai blynyddoedd da o hyd y gall y parth cadwraeth morol elwa ohonyn nhw.

Felly dwi’n gobeithio dod allan a gwneud rhywfaint o waith deifio gyda'r tîm yn y dyfodol.

Ac wedyn mynd adref eto cyn i mi orfod gwneud dim o'r gwaith papur!

  

Llion: A dyna ni am y mis hyn. Diolch am ymuno á ni ar ein taith i Barth Cadwraeth Morol Sgomer. Dw i’n gwybod mod i a Llinos wedi dysgu llawer trwy siarad â Phil.

Yn y rhifyn fis nesaf byddwn yn parhau gyda'n hymweliad â Sgomer. Byddwn yn siarad â'n cydweithwyr, Kate Lock a Mark Burton am y gwahanol fathau o fonitro traethau maen nhw’n gwneud yn y parth.

Byddwn hefyd yn dal i fyny â Phil ar gyfer sesiwn holi ac ateb fer.

Felly os ydych chi am ofyn unrhyw gwestiynau i Phil am ei waith, anfonwch neges atom ar y cyfryngau cymdeithasol neu ar drydar gan ddefnyddio'r hashnod #CwestiynauPodCNC.

Fe wnawn  ni roi hynny yn nisgrifiad y bennod os hoffech wirio hynny, ond eu anfon yn gyflym gan fod Phil yn ymddeol ar ddiwedd mis Medi!

Nawr, fel dywedais i ar ddechrau'r bennod, dyma ein podlediad gyntaf, felly plis byddwch yn amyneddgar gyda ni!

Fe fydd pethau y bydd angen newid a gwella, ond ry’ ni’n joio mas draw yn adeiladu'r podlediad ac ry’ ni’n gwybod ei fod yn ffordd wych o roi golwg fanwl i bobl ar ein gwaith ac i wybod mwy am staff CNC.

Os ydych wedi mwynhau'r bennod hon, ystyriwch danysgrifio a'i rhannu gyda'ch ffrindiau, eich teulu neu bwy bynnag rydych ei eisiau.

A rhowch wybod i ni pa elfennau o'n gwaith yr hoffech wrando arno drwy gysylltu â ni ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Twitter ac Instagram.

 

Diolch am wrando.