Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru

Rhifyn 2: Parth Cadwraeth Morol Sgomer - Rhan 2

October 08, 2021 Cyfoeth Naturiol Cymru Episode 2
Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru
Rhifyn 2: Parth Cadwraeth Morol Sgomer - Rhan 2
Show Notes Transcript

Yn y bennod hon, dychwelwn i Sgomer i ddysgu mwy am y gwaith monitro traeth diddorol a wnaed yn y Parth Cadwraeth.

Llion:

Helo ‘na, a chroeso nôl i Cyfoeth: Podlediad Cyfoeth Naturiol Cymru ac i ail ran o’n hymweliad â Pharth Cadwraeth Forol Sgomer.  Fy enw i yw Llion Bevan ac rwy'n Uwch Swyddog Cyfathrebu yn gweithio i Gyfoeth Naturiol Cymru.

 

Yn rhifyn fis diwethaf, buom yn siarad gyda'n Uwch Swyddog Asesu Amgylcheddol Morol, Phil Newman am ei waith yn y Parth Cadwraeth Morol, a'r wythnos yma  rydym yn mynd i siarad â'n cydweithwyr Kate Lock a Mark Burton, ein Swyddogion Asesu Amgylcheddol Morol yn y parth.

 

Does dim rhaid i chi fod wedi gwrando ar ran un o’n hymweliad i ddeall yr ail ran hon, ond bydd yn rhoi sylfaen dda i chi am ein gwaith yn Sgomer, ble byddwn yn manylu ymhellach ar un elfen o'n gwaith yn y rhan hon.

 

Yn rhan dau, bydd Kate a Mark yn trafod eu gwaith monitro ar lan y môr yn Sgomer, pam mae'n bwysig, a beth allwn ddysgu ohono.  

 

Yn y gwaith hwn maen nhw’n monitro amrywiaeth a nifer rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid dros amser. Yn allweddol i lawer o'r gwaith hwn yw'r defnydd o bedrant, sef fframiau metr sgwâr maent yn eu defnyddio i sicrhau eu bod yn monitro'r un metrau sgwâr yn union sy'n caniatáu i'r canlyniadau gael eu cymharu dros gyfnod o flynyddoedd.

 

Yn y bennod ddiwethaf, dywedais y byddem yn cyfarfod â Phil eto ar gyfer sesiwn holi ac ateb gyflym, ond yn anffodus, doedden ni ddim wedi gallu cwrdd lan – ac mae Phil wedi ymddeol ers hynny! Felly os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein gwaith yn Sgomer, rhowch wybod i ni ac fe gewn ni atebion i chi gan Kate a Mark.

 

Gan nad yw Kate a Mark yn siarad Cymraeg, rydym wedi ail-greu ein sgyrsiau gyda nhw gyda help gan fy nghydweithwyr, Meinir Wigley a Rhys Griffith.

 

Felly dewch i ni ddechrau! Byddwn yn dechrau gyda sgwrs a gefais gyda Kate, a byddwn wedyn yn symud ymlaen i ddwy sgwrs a gafodd fy nghyd Uwch Swyddog Cyfathrebu, Llinos Merriman gyda Mark.

 

 

 

Llion:

Heia Kate, shwmae ‘na? 

 

 

Kate:

Hia!

 

 

Llion:

Ti'n iawn?

 

Kate:

Ydw!

 

Llion:

Diolch yn fawr iawn am ymuno gyda fi, Kate. Dwi’n gweld bod ti wedi bod yn brysur i lawr wrth y môr heddiw. Sut wyt ti’n teimlo heddi?

 

Kate:

Ie, mae'n dda. Mae'n ddiwrnod tawel hyfryd heddiw felly mae'r amodau’n berffaith i weithio y tu allan.

 

Llion:

Gwych a dweda rywfaint amdanat ti wrtha’ i. Sut wnest ti ddod i wneud y math yma o waith?

 

Kate:

O wel, dwi wedi bod yn gweithio yma ym Mharth Cadwraeth Morol Sgomer ers bron i 25 mlynedd erbyn rwan, creda neu beidio, a chyn hynny ro’n i'n gweithio'n weddol agos yng Nghanolfan Astudiaethau Maes Dale Fort; un o ganolfannau'r cyngor astudiaethau maes lle ro’n ni’n addysgu am lannau môr creigiog a bioleg forol a phethau fel yna.

 

Felly dyna sut wnes i gamu draw a dechrau gweithio'n wreiddiol i Gyngor Cefn Gwlad Cymru ac erbyn hyn i Cyfoeth Naturiol Cymru. 

 

Llion:

Grêt, a beth oedd wedi gwneud i ti eisiau gwneud y math yma o waith yn y lle cynta’?

 

Kate:

Wel, fy ngradd i'n wreiddiol oedd Gwyddor Pysgodfeydd ac fe wnes i lot o ddyframaeth i ddechrau, ond do’n i ddim wir yn mwynhau'r rhan ffermio dwys ac fe benderfynais i y byddai'n well gen i waith morol a chadwraeth a phethau gwyllt.

 

Felly es i ‘mlaen a gwneud y radd Meistr ac yna aeth hynny â fi i Dale Fort ac wedyn fan hyn. Felly, fe ddes i o gefndir dyframaethu a dweud y gwir.

 

Llion:

Ah iawn, diddorol. Felly, wyt ti wastad wedi bod wrth y môr? 

 

Kate:

Wel, roedd fy mam i’n deifio yn ystod y 70au mewn hen siwtiau gwlyb cartref gyda menig marigold a sanau am ei thraed. Ac felly ges i fy magu gyda hynny ac yn nofio gyda snorcel ac ro’n ni’n yn byw ychydig y tu allan i Lundain ond bydden ni’n mynd i lawr i arfordir Dorset yn aml. Felly ie, dwi wedi bod yn y dŵr am amser hir ac wedi bod yn nofio efo snorcel ers talwm ac yna cyn gynted ag y ces i gyfle i ddysgu deifio, fe wnes i, felly fe ddysgais i ddeifio yn 18 oed a dyna ddechrau’r hanes.

 

Llion:

Gwych! Ti’n garedig iawn yn cymryd hoe fach i siarad gyda fi, ond mae'r gwaith yn dal i fynd malen hebddot ti am y tro. Beth maen nhw'n ei wneud yna ar hyn o bryd?

 

Kate:

 

Iawn, felly mae gyda ni bedrannau; sgwariau un metr a ‘dyn ni’n eu defnyddio nhw i'w gosod nhw ar wahanol rannau o lan y môr.

 

Mae glan y môr wedi'i rhannu'n barthau, fel ‘dyn ni’n eu galw nhw. Mae hynny i gyd yn cael ei bennu gan amrediad y llanw wrth iddo ddod i mewn ac allan. Yn yr ardal hon mae amrediad llanw o tua 7.8 metr rhwng y lefel isaf a'r lefel uchaf un.

 

Felly mae gyda ni ardal fawr o lan y môr y gallwn ni ei harolygu. ‘Dyn ni’n rhannu’r lan yn barth cennau. Mae ‘na ran uchaf y lan, parth canol ac yna barth isaf sydd i lawr yn agos iawn at y môr, a dyma lle mae'r bechgyn yn gwneud y gwaith ar hyn o bryd.

 

Felly, ar gyfer ein gwaith monitro, mae gyda ni leoliadau sefydlog, lle byddwn ni’n ailadrodd yr un gwaith dro ar ôl tro ac yn arolygu bob blwyddyn.

 

Y peth cyntaf mae rhaid i ni ei wneud yw dod o hyd i'n marcwyr cornel, sy'n eithaf anodd gan eu bod nhw’n sgriwiau bach sydd wedi’u sgriwio i'r creigiau ac mae'n rhaid i ni ddod o hyd iddyn nhw bob blwyddyn ac wrth gwrs mae'r gwymon ac ati’n tyfu drostyn nhw felly'r peth cyntaf yw crafu ein pennau a chwilio o gwmpas a dod o hyd i'r rheini, ond mae hynny'n bwysig iawn gan ei fod yn golygu ein bod ni’n lleoli ein pendrant yn union yr un lle bob blwyddyn a byddwn ni’n tynnu lluniau o fewn yr ardal yna.

 

Mae gyda ni set ddata o luniau y gallwn ni edrych yn ôl arni, a ‘dyn ni hefyd yn gwneud rhestr lawn o'r holl wahanol rywogaethau sydd ym mhob un o'r pedrannau hynny, ac yna gallwn ni gymharu hyn fesul blwyddyn oherwydd ei fod yn yr un lle bob tro.

 

Llion:

Pan o’t ti’n gwneud slot o’r blaen, fe welais i fod gen ti bad a phapur ac yn amlwg rhyw fath o dabl. Ai dyna'r gwahanol fathau o rywogaethau chi’n disgwyl gweld?

 

Kate:

 

Ie, mae’r holl rywogaethau ‘dyn ni’n eu gweld yn yr ardal hon neu ‘dyn ni erioed wedi’u cofnodi mewn tablau ar daenlen gyda ni. Neu mewn tabl annibynnol ac yna bydd ‘na golofnau.

 

Yna ar gyfer cofnodi pob pedrant; bydd pob pedrant efo cenlolofn ei hun.

 

Felly dyna ein rhestr darged, ond mae'r hyn ‘dyn ni’n ei weld yn dibynnu ar ble ydyn ni ar y lan. Mae hyn gyda ni mewn wyth safle gwahanol o amgylch Parth Cadwraeth Morol Sgomer, o amgylch yr ynys.

 

Mae safleoedd gwahanol gyda ni felly dyna'r rhestr gyfan. Roedd gen i anifeiliaid ar un ochr y ddaenlen, ac roedd gen i blanhigion ar yr ochr arall, felly mae gyda ni lawer o wahanol rywogaethau y gallwn ni eu gweld.

 

Llion:

Ac ydych chi'n dod ar draws tipyn o amrywiaeth? Ydyn nhw'n tueddu i ddod ar draw yr un rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid, neu oes ‘na rywbeth annisgwyl yn digwydd weithiau?

 

Kate:

Fyddwn i ddim yn dweud bod o’n hollol annisgwyl ond mae gan y gwahanol lannau gyfansoddiad gwahanol o wymon neu wahanol gyfansoddiad o anifeiliaid, a hynny oherwydd - gan ei bod yn ynys - bod ‘na lannau sy’n wynebu'r gogledd, wynebu'r de, gorllewin a’r dwyrain. 

 

A bydd gan bob un o'r glannau amodau amgylcheddol gwahanol sy’n effeithio arnyn nhw. Mae rhai yn cael mwy o olau'r haul ac mae rhai yn mynd i fod yn fwy yn y cysgod. Mae hynny’n digwydd yn aml ar y tir, yn dydy, mae tir sy’n wynebu’r gogledd yn llawer mwy cysgodol.

 

Ond gyda’r gwaith yma ar y glannau a efo’r gwaith morol, mae’n rhaid i ni edrych ar y llanw a sut effaith mae’r tonnau yn gael. Ac wrth gwrs mae’r gwynt cyffredin yn dod o'r de-orllewin ar draws o'r Iwerydd ac yn taro’r glannau, sy’n golygu bod y glannau sy’n wynebu’r de-orllewin yn cael holl gynnwrf y tonnau a dyma yn y bôn sy’n golygu pa rywogaethau ‘dyn ni’n gweld yna, a pa rai sy’n gallu gwrthsefyll y tonnau hynny.

 

Mae glannau eraill yn gwbl gysgodol. Mae'r un yma lle ‘dyn ni nawr yn lan gysgodol iawn. Mae’n wynebu’r gogledd ac mae wedi’i chysgodi’n llwyr rhag y gwynt hefyd, 

felly does dim tonnau’n taro’r lan yma.

 

Felly mae'n ardal gyffrous i gael arolygon byr a gwaith rhynglanwol a gwaith arall hefyd oherwydd yr ystod enfawr o amodau amgylcheddol sydd mewn un lle bach, a dyna beth sy’n wych am yr ynys tma. O gwmpas pob cornel, bydd pethau ychydig bach yn wahanol ac felly dyna pam ‘dyn ni’n mwynhau gwneud y gwaith yma.

 

Llion:

Dwi’n deall fod y gwaith yma wedi bod yn digwydd ers cryn dipyn o amser nawr. Dweda ychydig mwy wrtha’ i am hyn a pam mae hynny mor bwysig?

 

Kate:

Ydy, felly mae hyn yn rhan o raglen o ddata monitro tymor hir. Dechreuodd yr arolwg penodol hwn ‘dyn ni’n ei wneud ar hyn o bryd yn gynnar yn y ganrif yma, ond roedd hefyd yn seiliedig ar waith gafodd ei wneud i ddechrau ar ffurf arolygon cynnar ar ddiwedd yr 80au a dechrau'r 90au.

 

Felly, fe wnaethon ni sefydlu'r gwahanol safleoedd ar ddechrau'r 90au, yn fuan ar ôl i'r warchodfa gael ei ddynodi a’r dyma gwraidd y prosiect yw dychwelyd i'r un lle, cael y dystiolaeth honno a gallu edrych ar newidiadau tymor hir.

 

Fe wnaethon ni sefydlu'r rhaglen hon tua 2002 neu 2003 dwi’n meddwl. Felly mae wedi bod yn digwydd nawr ers bron i ugain mlynedd.

 

Yr hyn ‘dyn ni’n edrych arno, felly, yw beth yw'r norm? Beth sy'n normal? Beth yw'r amrywiadau arferol y byddech chi’n eu gweld? Pethau sydd ddim yn cael eu heffeithio gan bethau fel gollyngiadau olew ac ati.

 

Felly mae angen i ni ddeall yr hyn ‘dyn ni’n ei alw’n amrywiadau naturiol. Oherwydd ym myd natur, does dim un flwyddyn yr un peth. Bydd y tywydd yn wahanol; mae'r llanw'n mynd i fod ychydig bach yn wahanol, a’r tonnau a phethau felly.

 

Felly, bydd newidiadau bach bob blwyddyn yn yr hyn ‘dyn ni’n ei ganfod. ‘Dyn ni bron yn galw hwnna'n sŵn data, felly mae angen inni gydbwyso hwnna drwy edrych ar y pethau hirdymor.

 

Gallwn ni weld beth yw'r tueddiadau arferol ar gyfer y gwahanol lannau, ac yna os bydd rhywbeth yn digwydd, os oes newidiadau bach neu ‘dyn ni’n gweld fod tueddiadau'n sydyn yn newid ychydig – er enghraifft - ydy ni’n gweld mwy o rywogaethau dŵr cynnes yn dod i mewn? Neu oes ‘na rywogaethau estron sydd wedi dod i mewn, neu os oes rhywbeth fel gollyngiad olew neu drychineb arall.

 

Bydd gennym ni linell sylfaen enfawr o'r hyn ‘dyn ni’n gwybod sy’n ddata normal, fel bod ni’n gallu gweld newidiadau os byddan nhw’n digwydd.

 

Llion

Felly, o ran y set ddata gyfoethog, hirdymor iawn yma, oes ‘na unrhyw dueddiadau sylweddol ‘dych chi wedi gallu’u gweld sy’n dod ar draws y cyfnod yna hyd yn hyn?

 

Kate

Gyda'r gwaith yma ‘dyn ni’n ei wneud gyda’r pedrannau mawr, ‘dyn ni ddim wedi gweld unrhyw newidiadau mawr, ond ‘dyn ni wedi sylwi ar rai gwymonau estron ‘dyn ni ddim wedi'u gweld o'r blaen ac o fewn y gwaith yma, ‘dyn ni hefyd yn gwneud rhywfaint o waith is-samplu hefyd. Felly yn nes ‘mlaen, byddwn ni’n defnyddio caliperau a ‘dyn ni wedi bod yn mesur y brennig, neu ‘limpets’, ‘dyn ni’n mesur tua 100 o frennig i weld beth sy’n digwydd i’w dosbarthiad nhw. A ‘dyn ni’n edrych hefyd ar wyrain, neu ‘barnacles’, hefyd. Felly ie, mae'n fater o edrych ar y pethau bach a'r newidiadau bach. Ond yn gyffredinol, ein gwaith ni yw cynnal y llinell sylfaen yma fel bod gyda ni wydnwch yn yr hyn ‘dyn ni’n edrych arno.

 

Llion

Ac oes ‘na unrhyw beth arbennig o ddiddorol neu anarferol ‘dych chi wedi dod ar ei draws dros y blynyddoedd?

 

Kate

Dwi’n meddwl sylwi ar rai o'r gwymonau estron yma. Pan fyddwn ni'n 

gwneud y pedrant fel wnes i sôn, mae gyda ni ein rhestr rhywogaethau ‘dyn ni’n chwilio amdanyn nhw, sy’n cynnwys y rhai sy’n gyffredin. Yna’n sydyn dwi’n dweud 'o aros am funud', dwi heb weld yr un yna o’r blaen neu 'mae hwnna ‘chydig yn wahanol' ac yna ‘dyn ni’n canolbwyntio ar y rhai yna. Dyw e ddim yn gyffrous yn union, ond mae fel pe bai rhywbeth yn sydyn yn denu’ch sylw ac mae'n gwneud y gwaith yn wahanol. A pheth arall ‘dyn ni’n ei wneud yma hefyd, sydd ychydig yn anarferol - ac fe weli di ni'n gwneud hwn yn nes ‘mlaen dwi’n siŵr - yw bod gyda ni bysgodyn o'r enw’r glynwr, neu’r Cornish clingfish yn Saesneg, ac mae ganddo sugnwr ar ei gorff ac mae’n byw o dan garreg fawr a byddwn ni’n gwneud cyfrifiadau amser ar y pysgodyn yma. ‘Dyn ni'n edrych ar ei boblogaeth achos mae’n bysgodyn anarferol iawn a dim ond ar ddwy o'n glannau ni mae i’w gael oherwydd mae’n hoff iawn o gerrig mawr a does dim llawer o lannau efo llawer o gerrig mawr yn yr ardal hon mewn gwirionedd, felly mae'n un o'r ychydig lefydd y byddwn ni'n gallu dod o hyd iddo.

 

Llion

A beth yw pwysigrwydd y data yma’n gyffredinol? Dwi’n deall eich bod chi’n chwilio am linell sylfaen a ‘dych chi ddim o reidrwydd yn trio mesur newid: chi’n trio ffeindio rhyw fath o ddarlun sy’n normal. Felly pryd mae’r data yma’n dod yn berthnasol?

 

Kate

Am ein bod ni’n gwneud yma ar amrywiaeth o lannau, mae gyda ni wyth glan wahanol. Mae rhai ar glogwyni, mae rhai ar lannau efo cerrig mawr fel sydd g7yda ni heddiw, mae rhai mewn ardaloedd eraill rhwng y ddau, ond mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru raglen fonitro rynglanwol ar draws Cymru ac mae ganddyn nhw ddulliau ychydig yn wahanol, ond gyda’r dull yma ‘dyn ni’n defnyddio’r pedrannau mawr. Mae gyda ni safleoedd arolygu yr holl ffordd drwy Ddyfrffordd Aberdaugleddau, felly maen nhw’n mynd yr holl ffordd fyny fana ac maen nhw hefyd i lawr i Dde Sir Benfro, felly ‘dyn ni’n ymestyn yn eitha pell ac mae ganddyn nhw hefyd safleoedd i fyny yn y Gogledd ac yn y canolbarth hefyd. Felly, ‘dyn ni’n un rhan fach o'r darlun ehangach ac mae'n fater o edrych ar hynny ac edrych ar newidiadau ac edrych ar sut mae cymunedau'n amrywio ledled Cymru. 

 

 

Llion

Iawn grêt, diolch yn fawr am hwnna Kate. Na’ i adael i ti fynd yn ôl at dy waith nawr. Diolch am siarad gyda fi heddiw.

 

 

 

 

 

 

 

Llinos 

Dwi yma yng nghwmni Mark heddiw, felly Mark, elli di ddweud ychydig wrtha i amdanat ti? 

 

Mark 

Wel, dwi ‘di bod yn gweithio yma ers 20 mlynedd. Wnes i ddechrau gyda’r Cyngor Cefn Gwlad fel cynorthwyydd tymhorol a dwi dal yma nawr.  

 

Biolegydd morol ydw i. Dwi wedi gweithio ym maes addysg forol, dwi wedi gweithio dipyn ar gychod, ond ecoleg ryng-lanwol yw fy maes cryfa’, mae'n debyg.  

 

Ond ‘dyn ni hefyd yn dîm deifio, felly dwi'n gwneud y stwff dan y dŵr. Ond ie, y darnau rhyng-lanwol yw fy hoff ddarnau.  

 

Llinos 

Swnio'n amrywiol iawn. Beth wnaeth i ti fynd i mewn i'r math yma o waith? 

 

Mark 

Dwi wedi glanio yma, mae mor syml â hynny! Dwi wedi gwneud sawl math o waith. Fe ddechreuais i mewn ceginau.  

 

Ti’n gwybod, yn gweithio ar gychod ac yna wnes i radd bioleg forol lan yn Newcastle ac fe wnes i flwyddyn yn gwirfoddoli yn Seland Newydd mewn parthau cadwraeth morol draw fana yng Ngwarchodfa Forol Lee ac yna i lawr yng Ngwarchodfa Forol Portobello. 

 

Ond nawr ro’n i jyst yn gwneud cymysgedd o swyddi, ac yna fe ddechreuais i yn y Cyngor Astudiaethau Maes yn gweithio gydag addysg forol yn arbennig, ond roedd llawer o hwnna’n golygu glanhau toiledau a choginio bwyd hefyd. Ac yna fe gychwynnais i yma yn 2001. 

 

Llinos 

Swnio'n grêt. Wrth dy wylio di’n gweithio gyda Kate draw fyna, dwi'n meddwl o fy safbwynt i, mae'r cyfan yn edrych yn eitha debyg, felly elli di ddweud ‘chydig wrtha i am beth yw'r gwahaniaethau rhwng y gwaith rwyt ti’n ei wneud a beth ‘dyn ni wedi bod yn gwylio Kate yn ei wneud draw fyna? 

 

Mark 

Wel, mae Kate yn gwneud rhan o'n harolwg ni o'r Parth Cadwraeth Morol cyfan fel petai, ac mae hynny'n cael ei ailadrodd ledled Sir Benfro; dyw e ddim yn cael ei ailadrodd lawer y tu hwnt i hynny.  

 

Mae'r gwaith Marclim dwi’n ei wneud yn cysylltu â'r Deyrnas Unedig gyfan. A dweud y gwir, yr arfordir cyfan o Norwy i lawr i Bortiwgal. Mae’n defnyddio'r union yr un dull. Mae wedi'i thargedu'n benodol at rywogaethau sy'n ddangosyddion newid yn yr hinsawdd.  

 

[Angen bwlch mwy yma]

 

Nawr, gallen nhw fod yn rywogaethau gogleddol a allai fod yn encilio neu gallen nhw fod yn rhywogaethau deheuol sy'n ehangu eu dosbarthiad os yw pethau'n cynhesu. A ‘dyn ni’n ailadrodd - cyn belled ag y gallwn ni ‘dyn ni’n trio defnyddio’r un dull yn union. ‘Dyn ni’n cofnodi'r un pethau ac yna ni’n gweld sut mae hynny'n ffitio mewn darlun mawr ar draws y dosbarthiad lledredol anferth sydd gyda ni fyna.  

 

Felly mae’r gwaith yn rhoi Sgomer yng nghanol y darlun o bopeth sy’n digwydd ar yr arfordir i lawr o Norwy i Bortiwgal. 

 

Llinos 

Mae'n swnio fel bod llawer o ddata'n cael ei gasglu ar hyn, felly am faint o amser mae hwn wedi bod yn digwydd? 

 

Mark 

Wel, fe ddechreuon ni wneud Marclim yma yn 2003, ond roedd y dull Marclim wedi’u llunio yn ôl yn ystod rhywfaint o'r gwaith a wnaed yn y 50au, felly mae'r dull wedi'u cynllunio i gyd-fynd â data sydd wedi'i gasglu dros gyfnod hir iawn, dim ond ers diwedd y rhyfel mewn gwirionedd.  

 

Mae'r bobl a ddechreuodd y gwaith yna wedi marw erbyn hyn, a ‘dyn ni nawr wedi cymryd yr awenau. Ond roedd hynny'n ymgais fwriadol i sicrhau bod modd cymharu'r data ‘dyn ni'n ei gasglu nawr â data o ddegawdau'n ôl, achos dyna sydd angen ei wneud.  

 

Ac mae cyfaddawd yna yn rhywle. Falle hoffen ni gofnodi data mewn ffordd wahanol nawr, oherwydd ein bod ni’n gallu, ond mae'n rhaid i ni ei gadw'n gyson. A dyma un o'r gofynion mawr gyda data cyfresi amser, monitro hirdymor: rhaid i chi fod yn gyson ar draws eich cyfnod monitro fel bod yr hyn ‘dych chi’n ei gasglu nawr yn gymaradwy â'r hyn a ddigwyddodd pryd bynnag y dechreuodd, ac yn yr achos yma fe ddechreuodd ar ddiwedd y 40au i'r 50au, gan edrych ar wyrain a brennig yn benodol. 

 

Llinos 

Alli di ddweud ychydig mwy wrtha i am waith hinsawdd morol? Er enghraifft, byddai'n ddiddorol gwybod mwy am beth allwch chi ei wneud gyda'r data ‘dych chi’n ei gasglu a hefyd beth yw ei bwrpas? 

 

Mark 

Felly ‘dyn ni’n targedu rhywogaethau penodol a ‘dyn ni’n gwybod beth yw eu dosbarthiad hinsoddol, fel petai, yn yr hyn y bydden ni’n ei weld fel ein hoes ni.  

 

Bydd e wedi newid yn ddramatig mewn 10,000 o flynyddoedd, dim ond drwy ein twll clo bach bach ‘dyn ni’n byw ynddo ar hyn o bryd y gallwn ni weld, ond ‘dyn ni’n gwybod ble mae'r rhywogaethau hyn wedi'u cofnodi yn eu dosbarthiad bio-ddaearyddol, dweda o'r 60au, hyd at yr 80au, ac yna ‘dyn ni’n edrych i weld a yw'r dosbarthiad bioddaearyddol yna’n newid. 

 

Felly ydyn nhw'n ymledu i’r Gogledd? Ydy eu niferoedd nhw’n cynyddu? Neu ydyn nhw’n encilio i'r De ac ati a ‘dyn ni hefyd yn edrych ar rai rhywogaethau mewn cryn dipyn o fanylder, felly nid dim ond cofnodi llwyth o fanylion ydyn ni.  

 

‘Dyn ni’n edrych ar ddosbarthiadau maint a strwythurau poblogaeth, ac yn edrych i weld a ydyn nhw’n bridio'n amlach. Ydyn nhw’n bridio'n gynharach? Ac yn cael sawl mag (neu brood) mewn blwyddyn yn hytrach nag un yn unig, sy'n gallu bod yn ymateb arall i newid hinsawdd. 

 

Mae'n ymddangos bod rhai o'r cregyn uchaf yn gallu bridio drwy gydol y flwyddyn yn hytrach na chael un cyfnod bridio sef beth fydden nhw falle wedi’i wneud o'r blaen.  

 

Falle fod hynny'n effeithiol, gaeafau cynhesach a phethau felly. Falle y bydd hyn yn arwain at gynnydd mewn ffynonellau bwyd, felly bydd ganddyn nhw fwy o egni i wneud hynny. 

 

A ‘dyn ni’n chwilio am newidiadau mewn rhywogaethau lle bydd rhywogaethau eraill yn eu disodli. 

 

Falle y daw rhywogaethau deheuol i fyny a disodli rhywogaethau gogleddol a'u gwthio nhw allan o'u tiriogaeth, a dylen ni allu gweld y gorgyffwrdd yna, fel y gallwch chi greu mapiau mawr o'r Deyrnas unedig gyfan a de a gogledd Ewrop. 

 

A gallwch chi nodi dosbarthiadau rhywogaethau ar y mapiau hynny a gallwch chi weld sut mae hynny'n eich newid chi. 

 

Yna ar y mapiau hynny, gallwch chi osod haenau eraill fel cyfuchliniau tymheredd a 

newidiadau a ragwelir mewn tymheredd ac yna gyda digon o ddata gallwch chi fodelu'r rhywogaethau, a dweud, wel, os gwelwn ni gynnydd o 1 radd a hanner mewn tymereddau cymedrig byd-eang, bydd hynny’n cyfateb i gynnydd o .4 gradd falle yn nhymheredd y môr yn yr ardal benodol yma. 

 

Pa rywogaethau fydden ni’n disgwyl eu gweld yn mynd i'r gogledd a pha rywogaethau y byddai disgwyl iddyn nhw fynd i'r de a diflannu, a gallwch chi brofi'r modelau yma wedyn hefyd -  felly mae hyn yn cael ei archwilio, nid yn Cyfoeth Naturiol Cymru. 

 

‘Dyn ni'n bwydo i mewn iddo. Mae wedi'i leoli nawr ym Mhrifysgol Lerpwl.  

 

Roedd e gyda'r Gymdeithas Wleidyddol Forol, ond mae'n edrych bob blwyddyn a ‘dyn ni’n cael adroddiad yn ôl bob blwyddyn a ‘dyn ni’n bwydo ein data i mewn i hwn ac yna maen nhw’n rhoi'r darlun mwy i ni. Gan ategu’r adroddiad gyda phethau fel pa rywogaethau sydd wedi symud. 

 

Oes ‘na unrhyw newidiadau mawr o ran ymddygiad atgenhedlol ac mae hefyd yn edrych nawr ar rywogaethau goresgynnol, sy’n rhywbeth newydd. 

 

Doedd e ddim wedi'i gynllunio'n wreiddiol i wneud hynny, ond mae hynny wedi dod yn fwy o ffocws yn ddiweddar. 

 

Felly ar ein rhestr sefydlog o rywogaethau mae gyda ni gyfres gyfan o rywogaethau goresgynnol ‘dyn ni’n chwilio am hefyd ac i weld lle maen nhw'n ymddangos. 

 

Nawr ‘dych chi'n gweld un arall yn cynyddu hefyd. Yn sicr Aberdaugleddau.  

Rhaid bod hwn yn fan poblogaidd ar gyfer rhywogaethau goresgynnol estron oherwydd yr holl weithgareddau morol yna. 

 

Maen nhw'n dod i mewn ar gyrff llongau. Roedd hefyd yn ardal dyframaeth a phethau fel’na sy'n tueddu i ddod â nhw i mewn. Allan fan hyn o gwmpas yr ynysoedd, ddim cymaint mewn gwirionedd. 

 

‘Dyn ni’n gweld rhywogaethau gwymon weithiau, mae ‘na wyran sydd wedi hen 

sefydlu ers y 50au. 

 

Fe ddaeth e i mewn ar long o Seland Newydd ac Awstralia ‘dyn ni'n amau, i mewn i Southampton ac mae wedi ymledu ar draws y rhan fwyaf o dde'r Deyrnas Unedig bellach, felly gwyrain Awstralia yw’r rheini a ‘dyn ni’n eu gweld nhw dipyn ar y glannau yma. 

 

Ond os ewch chi i mewn i Aberdaugleddau, Ostrum Aeneas yw'r prif wyran yn Aberdaugleddau. 

 

Yn y degawdau hynny fe ddisodlodd y gwyrain eraill a dechrau teyrnasu yn yr ardal yna a ‘dych chi'n gweld achosion tebyg gyda rhywogaethau goresgynnol eraill lle maen nhw’n dal i ddisodli rhywogaethau brodorol. 

 

Wel, mae un mawr, Crepidula fornicata, sy'n ewin mochyn, neu slipper limpet. Mae’r un yna’n sicr yn dominyddu Aberdaugleddau. 

 

‘Dyn ni wedi dod o hyd iddo ynghlwm wrth gregyn bylchog o amgylch Sgomer, felly pan fyddwn ni'n gwneud arolygon cregyn bylchog, ‘dyn ni wedi dod o hyd i bentyrrau bach. 

 

Maen nhw'n pentyrru ar ben ei gilydd, sy'n golygu eu bod nhw’n atgenhedlol os ydyn nhw'n gwneud hynny. 

 

Felly mae’n peri pryder, ond yn llythrennol, gallwch chi eu cyfri ar eich dwylo, y bysedd ar eich dwylo ar hyn o bryd, ond mae hynny'n sicr yn rhywbeth ‘dyn ni’n cadw llygad arno. 

 

‘Dwi ddim yn meddwl bod gyda ni'r amodau ffisegol lle byddai'r un yna’n mynd yn rhemp, ond ti’n gwybod, dydyn ni ddim am iddo ledaenu i fyny i Afon Menai er enghraifft achos fe all ddifa mannau dodwy cregyn gleision a phethau fel’na. 

 

Felly mae'n cael effaith economaidd, gan ei fod yn mynd i fyny i fannau dodwy cregyn gleision yn Aberdaugleddau. 

 

Roedd ardaloedd yn Aberdaugleddau lle na allech chi eu cyfri, byddai yn y biliynau. Mae’n gorchuddio gwely'r môr lan fana. ‘Dwi ddim yn hollol siŵr bod llawer y gallwch chi ei wneud am y peth unwaith y bydd yn cyrraedd y lefelau yna. 

 

Llinos:  

‘Oes na unrhyw beth arall y dylen ni wybod am waith ar hinsoddau’r môr? 

 

 

Rhys:  

Wel, mae'n debyg mai'r peth diddorol o'n gwaith ni fan hyn yw nad ydyn ni’n cynhesu. 

 

Yn amlwg, mae eu byd nhw’n cynhesu, ond newid yn yr hinsawdd yw newid yn yr hinsawdd a ‘dyw hynny ddim yn golygu bod pobman yn y byd yn cynhesu, ac mewn gwirionedd yn ystod y deng mlynedd diwetha’ ‘dyn ni wedi gweld, os rhywbeth, bod pwynt oeri bach iawn. 

 

O un radd, ti’n gwybod, os gallwn ni hyd yn oed gael y lefelau hynny o gywirdeb yn ein data, ond mae'n ymddangos mai dyna beth mae'r data'n ei ddangos, ac yn sicr ‘dyw'r anifeiliaid ddim yn dangos ymatebion mawr i gynhesu, fel maen nhw mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. 

 

Felly’r ardal fach fan hyn. Yr ardal hon o gwmpas y de-orllewin, ac mae'n ymddangos ei fod yn eitha’ sefydlog. 

 

Mae hynny'n siŵr o fod yn bwysig iawn. Mae nythfeydd allan ar Sgomer hefyd yn sefydlog, os nad yn cynyddu, ac mae hynny'n mynd yn groes i'r duedd mewn llawer  

o lefydd lle maen nhw’n gweld newidiadau mawr o ran hinsawdd y môr yn cynhesu 

neu newidiadau tymhorol, ac mae’r adar môr yn ymateb yn wael iawn i hynny, ac mae’r gyfradd atgenhedlu’n isel iawn. 

 

Felly yn Ne Gwlad yr Iâ er enghraifft, a chyfraddau atgenhedlu isel iawn ymysg palod i'r graddau lle maen nhw bron yn methu magu cyw, ond mae'n ymddangos bod ein nythfeydd ni yma'n gwneud yn dda, a tybed a yw hynny oherwydd ar hyn o bryd, gyda lwc, bod popeth wedi bod yn eitha’ sefydlog am y ddau ddegawd diwethaf. 

 

Mae'n debyg i ni gynhesu ychydig, wrth fynd drwy'r 90au, roedd ‘na duedd tuag at gynhesu, ond ers dechrau’r ganrif ac ymlaen, mae’r duedd honno wedi dod i ben, ac os rhywbeth yn ystod y degawd dwetha’, mae pethau wedi oeri fymryn. 

 

Felly oes gyda ni unrhyw wybodaeth ynghylch pam mae hwnna’n digwydd? 

 

Ddim wir. Mae’r ceryntau’n llonydd o hyd. Dydyn ni ddim yn cael Llif y Gwlff. 

 

‘Dyn ni’n cael drifft bach iawn oddi ar Lif y Gwlff. Drifft Gogledd yr Iwerydd yw’r enw arno, sy'n dod i fyny i'r Môr Celtaidd. 

 

A ‘dyn ni reit ar gyrion yr effaith yna felly dydyn ni ddim yn cael effaith sylweddol iawn oherwydd dyfroedd cynnes fan hyn. 

 

Maen nhw’n llythrennol yn diferu eu ffordd i fyny’r môr Celtaidd ac mae’n nhw’n llythrennol yn dod i tua’r lledred yma dim ond am tua mis ac yna'n encilio'n ôl i lawr. 

 

A dydyn ni ddim yn cael y ffryntiau mawr yma. A phe bawn i’n mentro dweud bod unrhyw effeithiau mawr yn sgil y newid yn yr hinsawdd, dwi’n credu bod stormydd byd-eang wedi bod yn fwy o effaith yn fy nghyfnod i. 

 

Yn Sgomer ‘dyn ni wedi gweld rhai stormydd anhygoel, bron fel stormydd trofannol 

yn dod mor bell i’r dwyrain â hwn, a ‘dyn ni erioed wedi gweld hyn o'r blaen, a ‘dyw’r data ddim yn ategu hwn yn llawn, ond dyna fyddai fy nheimlad i. 

 

Y duedd yw bod gyda ni donnau mwy, a mwy o wynt yn hytrach na dyfroedd cynhesach fel y cyfryw. 

 

Llinos:  

Felly, ydy hynny'n effeithio ar yr hyn ‘dych chi’n gallu’i weld yma?  

 

Rhys:  

 

Alla i ddim dweud yn siŵr. 

 

Dwi’n credu ei fod yn gwneud y lle’n fwy deinamig a bydd storm fawr yn newid traeth fel hyn yn llwyr. 

 

Y bois yna draw fyna sy’n trio dod o hyd i bedrannau. 

 

Fe wnaethon ni’r camgymeriad o roi rhai o’n marcwyr ni ar glogfaen ac fe symudodd 

y glogfaen, sy’n pwyso chwarter tunnell. 

 

Mae wedi symud. Mae tua pum medr i fyny'r traeth felly ‘dyw hi ddim bellach yn y safle uchel, ond dyna beth all tonnau ei wneud ac mae’r traeth yma’n gymharol gysgodol. 

 

‘Dyn ni'n wynebu’r gogledd felly dydyn ni ddim yn cael yr ymchwyddiadau mawr deheuol y byddech chi'n eu gweld. 

 

Fe gafodd effaith fawr ar forloi ac yn 2016/17 fe gawson ni storm fawr yn y tymor bridio yna, a laddodd 60 o forloi ifanc mewn un prynhawn. 

 

Storm fawr oedd hi a ddaeth drwodd, Storm Ophelia. 

 

Roedd gyda ni tua 60 o forloi ifanc allan ar y traeth. Des i o hyd i dri yn fyw y bore wedyn, sy'n swnio'n ddychrynllyd ond cyhyd â bod hynny'n ddigwyddiad unigryw, dydy hynny ddim yn rhy ddrwg. 

 

Ond os yw hynny'n dechrau digwydd bob gaeaf ac wrth gwrs mae morloi’n amseru eu cyfnodau magu oherwydd dyna'r amser bridio pan mae’r morloi benyw yn barod. 

   

Mae angen tua 5 i 10 mlynedd o stormydd cyn hynny i daro’r boblogaeth sydd wedi hen sefydlu. 

 

Ac yna eleni fe gawson ni stormydd ym mis Mai, sy'n eitha’ anarferol gydag ymchwydd o 16 metr yn y môr. 

 

Anarferol iawn ar gyfer mis Mai ac mae hynny’n difa’r holl adar, adar y clogwyni isaf a’u hwyau a’u nythod, ac eto maen nhw wedi amseru eu cyfnod magu fel eu bod nhw’n osgoi'r math yna o ymchwydd. 

 

Ond os bydd yr ymchwyddiadau yna’n dechrau digwydd o gwmpas mis Mai, pan ddylai fod yn llawer tawelach, bydd hynny’n dechrau lladd poblogaethau o adar môr ac felly byddwn ni’n gweld llai o gywion ar gyfer rhai rhywogaethau eleni. 

 

Oherwydd hynny, bydd un storm wedi difa cannoedd o nythod, a byddan nhw ddim yn ailddodwy mewn gwirionedd. 

 

Bydden nhw'n trio, ond gyda’r rhan fwyaf o'r adar môr yma, mae ganddyn nhw ddigon o egni i’w roi i un cyw yn unig a does ganddyn nhw mo’r egni i roi cynnig arall arni a chwblhau’r broses. 

 

Llinos: 

 

Felly mae'n cael effaith fawr. 

 

Mark: 

 

Dwi’n credu bod rhain yn bethau ‘dyn ni'n poeni amdanyn nhw’n gyffredinol; dwi’n bositif. 

 

Dwi’n meddwl bod pethau'n sefydlog iawn. 

 

Mae ein poblogaethau o adar môr yn llawer gwell na llefydd eraill ledled y byd. A mae ein poblogaethau o forloi’n gwneud yn dda a'n glannau'n ddeinamig. 

 

Dyna sut ddylen nhw fod. Felly oes, mae llawer o newidiadau, ond mae'r cyfan o fewn ffiniau’r hyn y byddech chi’n disgwyl ei weld. 

 

Ac mae'r cyfan yn dal yn eithaf glân a chyfoethog, ac mae popeth wedi’i orchuddio. 

 

Felly mae hynny'n beth da.  Mae’r pryderon bach hyn yn codi lle ‘dach chi'n meddwl, wel, ti’n gwybod, yn y tymor hir beth fydd y newidiadau hyn, ac mae’n bosib ei fod yn ymwneud yn fwy â stormydd o gwmpas fan hyn nag y mae’n ymwneud â chynhesu - ar hyn o bryd. 

 

Llinos: 

 

Mae wedi bod yn hynod ddiddorol siarad gyda ti, felly diolch yn fawr i ti am dy amser. 

 

Na’ i adael i ti fynd yn ôl at dy fonitro.  

 

Mark: 

 

‘Na ni te. Na’ i fynd i nôl fy nghofnodwyr nawr.  

 

 

Llinos: 

 

Felly Mark, ‘dyn ni wedi bod yn edrych ar yr anifeiliaid a’r planhigion ar hyd y lan. 

 

Alli di ddweud ychydig wrthon ni am beth arall rwyt ti ei wneud a sut rwyt ti’n gwneud hynny gyda'r gwaith monitro ymarferol?  

 

 

Mark: 

 

Yn y bôn, mae'r gwaith monitro’n bwysig iawn, oherwydd os ydych chi wir eisiau dangos bod tymheredd y môr yn codi, mae'n rhaid i chi roi thermomedr yn y môr. 

 

Ac os ydych chi am ddangos bod tymheredd yr aer yn cynhesu eto, mae'n rhaid i chi roi thermomedr yn yr awyr. 

 

Felly’n aml ar y pentir yna fyny fana, mae gennym ni orsaf dywydd sy'n cofnodi drwy’r dydd, bob dydd, bob tair eiliad yn cymryd darlleniadau. 

 

Ond yn amlwg allwn ni ddim manteisio ar rywbeth fel’na yn y môr. 

 

Felly yn y môr dwi'n defnyddio'r pethau bach yma o faint bocs matshys o’r enw cofnodwyr tymheredd. 

 

A gallwch chi eu gosod nhw i gofnodi mor aml ag ydych chi eisiau, ac mae’r rhai yma wedi'u gosod i gofnodi bob 20 munud sy'n cyfateb i'r cylch llanw yn yr ardal hon. 

 

Trwy gofnodi bob 20 munud yn hytrach na phob awr, ‘dyn ni’n cael darlleniadau llawer mwy manwl o sut mae'r llanw'n newid, a ni’n tueddu i ddal y pwynt lle mae'r  

llanw i mewn ac allan a gwneud yn siŵr bod gen i dri chofnodwr ar y lan yma. 

 

Mae un ar waelod y lan yn yr hyn ‘dyn ni’n ei alw’r lan isaf, ac mae’r un yma’n treulio'i holl amser o dan y dŵr. 

 

Ar wahân i adeg y llanw mawr. 

 

Felly heddiw gallwn ni gerdded allan ato ac fe alla i ei lawrlwytho gan ddefnyddio'r lawrlwythwr cludadwy yma ac fe all roi'r holl ddata i fi ac yna bydd yn cael ei ailosod a bydd yn dechrau cofnodi eto, bob 20 munud. 

 

Pe bawn i'n dod yn ôl yma yn ystod llanw bach wythnos nesaf, bydd o dan ddŵr drwy'r amser. 

 

Byddai'n rhaid i fi nofio i’w nôl ac yna deifio o dan y dŵr felly mae’r un yma’n wlyb ychydig yn uwch ei ben. Tua 2 fetr uwch ei ben. 

 

Mae gyda ni’r lan ganol ac mae’r un yma’n treulio'i fywyd yn dod i mewn ac allan o'r dŵr bob dydd. 

 

Felly mae hwn yn rhoi darlleniad dŵr môr a darlleniad tymheredd aer i ni bob dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. 

 

Ac yna ddau fetr arall uwchben hynny. Mae gennym ni gofnodwr y lan uchaf  

ac mae'r un bach yma, druan, yn treulio ei holl amser yn yr awyr, a fyddai'n wych i ni. 

 

Ond os ydych chi’n organeb forol, mae hwn yn anodd iawn. 

 

Mae hwn yn golygu byw mewn amgylchedd lle nid yn unig ydych chi’n mynd yn sych, ond ‘dych chi’n agored i batrymedd tymheredd eithafol iawn oherwydd gallai’r haul fod yn tywynnu arnoch chi, neu gallai fod yn bwrw eira arnoch chi. 

 

Ar y llaw arall, os ydych chi yn y môr drwy'r amser, mae'n tueddu i fod yn dymheredd eithaf mwyn. 

 

Felly mae’r un yna’n treulio'r rhan fwyaf o'r amser allan o'r dŵr a dim ond adeg y gwanwyn y byddan nhw’n cael eu gorchuddio gan ddŵr. 

 

Felly mae'r tri chofnodwr yma’n rhoi darlun manwl iawn i ni o sut mae'r tymheredd yn amrywio a ‘dyn ni wedi bod yn defnyddio’r rhain ers 2003, felly mae gyda ni gyfres amser hir, gweddol hir i ni beth bynnag, o ddata tymheredd a sut y gallai hynny newid os yw'r newid yn yr hinsawdd yn cynhyrchu effeithiau tymheredd gwahanol naill ai yn yr awyr neu'r môr. 

 

Mae'r rhain i gyd yn wynebu’r Gogledd felly mae hwn yn amgylchedd eithaf mwyn.  

Maen nhw ar greigiau gwastad ac maen nhw mewn man sy’n wynebu'r gogledd. 

 

Mae gen i set arall o gofnodwyr sy'n ailadrodd yr un gwahaniaethau uchder, ac maen nhw ar ochr ddeheuol Ynys Sgomer, felly maen nhw'n rhoi'r darlun i ni o organebau sy'n wynebu'r De, ac eto, maen nhw ar greigiau gwastad, felly'r cam nesaf yw edrych ar anifeiliaid a sut maen nhw'n byw mewn microgynefinoedd. 

 

Felly dyma lle mae'r cofnodwyr bychan yma’n ddefnyddiol, sy'n llythrennol o faint darn 10 ceiniog. A ‘dyn ni’n rhoi’r rhain mewn craciau a holltau, felly mae’r teclynnau yma ar wyneb  craig agored ond yn swatio o dan hollt. 

 

A'r un yma. Dyma un arbennig iawn. Dyma'r un cofnodwr, ond mae wedi'i adeiladu  

i mewn i gragen hen frenigen. 

 

Felly mae hyn nid yn unig yn rhoi cofnodwr tymheredd cudd i ni, ond nid dyna'r rheswm dros wneud hyn mewn gwirionedd. 

 

Mae cragen brenigen yn addasiad i reoleiddio tymheredd. Mae'n wyn am ei bod yn adlewyrchu gwres, ac mae ganddi’r holl rychau danheddog yma arni ac arwynebau allwyrol eto.  Felly maen nhw'n adlewyrchu golau, ac mae'n cadw'r anifail yn oer. 

 

Felly mewn theori, dylai’r cofnodwr tymheredd sydd ddim y tu mewn i’r gragen roi darlleniadau uwch na'r cofnodwr tymheredd y tu mewn i’r gragen, ac mae hyn yn rhoi rhyw syniad i ni o beth ddylai hynny fod ar gyfer tymheredd mewnol organeb y tu mewn i frenigen. 

 

Ac yna mae gyda ni rai wedi’u gwthio’n dynn dan y graig mewn holltau llaith, tywyll iawn y mae’n eithaf anodd cyrraedd atyn nhw.  

 

Maen nhw wedi’u glynu ar y graig dan fyna, felly maen nhw'n rhoi syniad i ni o ble mae hyn, ble mae creaduriaid yn hoffi cuddio, yn enwedig pan fydd y llanw'n mynd allan, maen nhw’n rhedeg i mewn i'r holltau llaith a thywyll hyn, ac mae hwnna’n addasiad arall i ddianc rhag tymereddau annymunol: mynd i guddio mewn microgynefin lle nad oes golau haul uniongyrchol. 

 

Felly mae hyn yn rhoi syniad o'r tymereddau mewn holltau ac yna mae gyda ni un mewn pwll glan môr. 

 

Gyda phyllau glan môr, mae’n dibynnu ar ba mor ddwfn yw'r pyllau. 

 

Gallan nhw fod yn eithaf amrywiol mewn gwirionedd, ond mantais bod mewn pwll glan môr ar gyfer yr anifeiliaid hyn yw ei fod yn eu hatal nhw rhag mynd yn rhy sych, 

ond gallan nhw brofi patrymedd tymheredd eithaf eang hefyd. 

 

Gall godi i hyd at 40 gradd mewn pwll glan môr ar ddiwrnod heulog poeth iawn, felly er eich bod chi’n wlyb, falle nad dyma'r lle delfrydol ni’n ei ddychmygu. 

 

Llinos: 

 

Swnio braidd yn gynnes. Mae hwnna’n ddiddorol ofnadwy Mark. Diolch am roi syniad i ni o’r gwaith yna. 

 

Ac oes ‘na unrhyw beth arall ti’n meddwl fyddai o ddiddordeb i ni amdano? 

 

Mark: 

 

Wel, yr unig beth dydyn ni ddim yn ei wneud, sy'n edrych fel pe bai e’n eitha’ pwysig, yw asideiddiad y cefnforoedd, a does dim syniad gyda ni sut i wneud hyn. 

 

Felly mae'r holl anifeiliaid yma ‘dyn ni'n sôn amdanyn nhw fan hyn yn galchaidd, a gallai'r newid yn lefel pH y cefnfor gael effaith ddifrifol iawn ar eu galluoedd i greu'r silffoedd hyn. 

 

A'r bocsys bach hyn maen nhw’n byw ynddyn nhw. Ac ar hyn o bryd does dim ffordd o fonitro asideiddiad y cefnforoedd. 

 

Mae'n anodd iawn yn yr amgylchedd sy’n agos at y glannau oherwydd bod llawer o ddylanwadau cemegol eraill gan bobl, yn arllwys pethau i lawr i mewn i’r môr. 

 

Felly i fesur lefel pH y cefnfor yn ddigon cywir i allu dweud a yw’n asideiddio neu beidio, byddai rhaid mynd allan yn bell i'r Iwerydd. 

 

Yn anffodus, allwn ni ddim gwneud hynny yma, a does gyda ni ddim yr offer i wneud y gwaith. 

 

A hyd yn oed pe bai’r offer gyda ni, dwi ddim yn meddwl y bydden ni’n gallu dehongli o'r data beth sy’n arwydd o asideiddiad y cefnfor a beth sy’n arwydd o lygredd yn dod i mewn ac yn effeithio ar pH y dŵr. 

 

Ond mae mor bwysig â thymheredd, yn arbennig ar gyfer yr organebau calchaidd yma. 

 

Os byddan nhw’n dechrau ei chael hi’n llawer anoddach cael calsiwm carbonad allan o'r dŵr am ei fod wedi dod yn fwy asidaidd, yna maen nhw'n mynd i gael trafferth mawr yn creu eu cregyn bach. 

 

A dwi’n meddwl y bydd llai ohonyn nhw. 

 

 

Llinos: 

 

Diolch yn fawr iawn. 

 

Mae wedi bod yn ddiddorol iawn edrych ar hwnna Mark, a diolch i ti am fwrw golau ar y pwnc i ni. 

 

Mark: 

 

Dim problem. 

 

 

 

Llion:

 

A dyna ni am y mis yma! Diolch am ymuno â ni unwaith eto ar ein hymweliad â Pharth Cadwraeth Forol Sgomer. Byddwn yn sicr yn ôl i recordio rhagor o rifynnau yn y dyfodol.

 

Y mis nesaf byddwn ym Mynyddoedd Cambria yng Nghanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth. Ewn ni â chi y tu ôl i'r llen i weld beth sydd ei angen i gynnal y ganolfan hynod boblogaidd hyn.

 

Os ydych chi wedi mwynhau'r bennod hon, ystyriwch danysgrifio a'i rhannu gyda'ch ffrindiau, eich teulu neu bwy bynnag rydych chi eisiau! 

 

Rhowch wybod i ni pa elfennau o'n gwaith yr hoffech wrando arnynt drwy gysylltu â ni ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Twitter ac Instagram.

 

Diolch am wrando.