Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru

Rhifyn 3 - Sut i gynnal canolfan ymwelwyr lwyddiannus - Bwlch Nant yr Arian

December 07, 2021 Cyfoeth Naturiol Cymru Season 1 Episode 3
Rhifyn 3 - Sut i gynnal canolfan ymwelwyr lwyddiannus - Bwlch Nant yr Arian
Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru
More Info
Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru
Rhifyn 3 - Sut i gynnal canolfan ymwelwyr lwyddiannus - Bwlch Nant yr Arian
Dec 07, 2021 Season 1 Episode 3
Cyfoeth Naturiol Cymru

Rydym ym Mynyddoedd Cambria yng Nghanolbarth Cymru yn y bennod yma yng Nghanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian. Mae'r ganolfan wedi cael blwyddyn lwyddiannus yn 2021 er gwaetha heriau pandemig Covid-19.

Eleni, fe enillodd y ganolfan y TripAdvisor Travellers’ Choice Award unwaith eto; gwobr mae’r ganolfan wedi'i hennill ers nifer o flynyddoedd yn olynol erbyn hyn.  Mae'r wobr yn cydnabod lleoliadau sy'n ennill adolygiadau cadarnhaol gan ymwelwyr yn gyson. Mae hyn yn golygu bod y safleoedd yn y 10% uchaf o leoliadau a restrir ar y wefan deithio boblogaidd.

Hefyd eleni, dyfarnwyd Gwobr y Faner Werdd i'r ganolfan am y tro cyntaf. Mae'r wobr  – sy’n cael ei gynnal gan Cadwch Gymru'n Daclus yng Nghymru - yn arwydd bod gan barc neu fannau gwyrdd y safonau amgylcheddol uchaf posibl, ei fod yn cael ei gynnal a'i gadw'n hardd ac bod ganddo gyfleusterau ardderchog i ymwelwyr. 

Bwlch Nant yr Arian yw'r ail safle CNC yn unig i dderbyn y Faner Werdd ar ôl i Ganolfan Ymwelwyr Garwnant ger Merthyr Tudful dderbyn y wobr yn 2016.

Felly pa fath o ymdrech sydd angen tu ôl i’r llen i ennill y gwobrau hyn a bod yn boblogaidd gydag ymwelwyr a phobl leol? Dyna beth oeddem ni eisiau darganfod.

Show Notes Transcript

Rydym ym Mynyddoedd Cambria yng Nghanolbarth Cymru yn y bennod yma yng Nghanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian. Mae'r ganolfan wedi cael blwyddyn lwyddiannus yn 2021 er gwaetha heriau pandemig Covid-19.

Eleni, fe enillodd y ganolfan y TripAdvisor Travellers’ Choice Award unwaith eto; gwobr mae’r ganolfan wedi'i hennill ers nifer o flynyddoedd yn olynol erbyn hyn.  Mae'r wobr yn cydnabod lleoliadau sy'n ennill adolygiadau cadarnhaol gan ymwelwyr yn gyson. Mae hyn yn golygu bod y safleoedd yn y 10% uchaf o leoliadau a restrir ar y wefan deithio boblogaidd.

Hefyd eleni, dyfarnwyd Gwobr y Faner Werdd i'r ganolfan am y tro cyntaf. Mae'r wobr  – sy’n cael ei gynnal gan Cadwch Gymru'n Daclus yng Nghymru - yn arwydd bod gan barc neu fannau gwyrdd y safonau amgylcheddol uchaf posibl, ei fod yn cael ei gynnal a'i gadw'n hardd ac bod ganddo gyfleusterau ardderchog i ymwelwyr. 

Bwlch Nant yr Arian yw'r ail safle CNC yn unig i dderbyn y Faner Werdd ar ôl i Ganolfan Ymwelwyr Garwnant ger Merthyr Tudful dderbyn y wobr yn 2016.

Felly pa fath o ymdrech sydd angen tu ôl i’r llen i ennill y gwobrau hyn a bod yn boblogaidd gydag ymwelwyr a phobl leol? Dyna beth oeddem ni eisiau darganfod.

Llion: Helo ‘na, a chroeso i Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru. Fy enw i yw Llion Bevan ac rwy'n uwch swyddog cyfathrebu yn gweithio i CNC.

Rydym ym Mynyddoedd Cambria yng Nghanolbarth Cymru yn y bennod yma yng Nghanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian. Mae'r ganolfan wedi cael blwyddyn lwyddiannus yn 2021 er gwaetha heriau pandemig Covid-19.

 Eleni, fe enillodd y ganolfan y TripAdvisor Travellers’ Choice Award unwaith eto; gwobr mae’r ganolfan wedi'i hennill ers nifer o flynyddoedd yn olynol erbyn hyn.  Mae'r wobr yn cydnabod lleoliadau sy'n ennill adolygiadau cadarnhaol gan ymwelwyr yn gyson. Mae hyn yn golygu bod y safleoedd yn y 10% uchaf o leoliadau a restrir ar y wefan deithio boblogaidd.

 Hefyd eleni, dyfarnwyd Gwobr y Faner Werdd i'r ganolfan am y tro cyntaf. Mae'r wobr  – sy’n cael ei gynnal gan Cadwch Gymru'n Daclus yng Nghymru - yn arwydd bod gan barc neu fannau gwyrdd y safonau amgylcheddol uchaf posibl, ei fod yn cael ei gynnal a'i gadw'n hardd ac bod ganddo gyfleusterau ardderchog i ymwelwyr. 

 Bwlch Nant yr Arian yw'r ail safle CNC yn unig i dderbyn y Faner Werdd ar ôl i Ganolfan Ymwelwyr Garwnant ger Merthyr Tudful dderbyn y wobr yn 2016.

 Felly pa fath o ymdrech sydd angen tu ôl i’r llen i ennill y gwobrau hyn a bod yn boblogaidd gydag ymwelwyr a phobl leol? Dyna beth o’n i eisiau ddarganfod.

 Dechreuais fy ymweliad gyda sgwrs gyda Jenn Jones, Rheolwr Tîm Canolfannau Ymwelwyr i Gyfoeth Naturiol Cymru.  

 

 

Llion: Felly dw i yma nawr gyda Jenn Jones. Jenn, diolch am ymuno gyda fi heddiw. 

 Jenn: Pleser. 

 Llion: I ddechrau, beth am iti ddweud wrtha’i ychydig amdan dy hun a beth yw dy swydd yng Nghyfoeth Naturiol Cymru? 

 Jenn: Oce, felly dw i yn beth maen nhw’n alw yn Rheolwr Tîm ar gyfer y Canolfannau Ymwelwyr. Mae hynny’n feddwl bod gen i gyfrifoldeb am Fwlch Nant Yr Arian, lle rydym ni heddiw, a hefyd Ynys Las ger ardal Borth ac Garwnant ger Merthyr Tydfil. Felly dw i’n rheoli staff dros bob canolfan ac yn gwneud yn siŵr bod popeth yn mynd yn oce yn y canolfannau. 

 Llion: Diddorol, sut es ‘di fewn i’r math yna o waith? 

 Jenn: Dw i wedi gweithio mewn Gwasanaeth Cwsmer ers oeddwn i’n bedair ar ddeg felly dw i’n mynd yn ôl sawl blwyddyn nawr a dw i wedi mwynhau gweithio gyda’r cwsmeriaid drwy’r amser. Fe es i Gyfoeth Naturiol Cymru o Barc Arfordir Sir Benfro lle roeddwn i’n rheoli tair canolfan iddyn nhw, un yn Nhŷ Ddewi, Castell Henllys hefyd ac un hefyd yn Nhrefdraeth, felly dw i’n dod hefo’r cefndir hynny. 

 Llion: Diddorol, felly mae Bwlch Nant Yr Arian yn le poblogaidd iawn. Alla ti ddweud ychydig wrtha’i am hanes y lle? 

 Jenn: Reit mi oedd y canolfan cyntaf yma yn y nawdegau rhywbryd ac fe oedd ganddo ystafell fach ble mae’r siop nawr ac oedd hwnnw hefyd fel rhyw fath o Ganolfan Wybodaeth oedd hefyd yn gwerthu bwyd a diod. Wedyn yn 1999, ddechreuwn ni fwydo'r barcud coch ac yn 2001 cafodd y Ganolfan Ymwelwyr fel y gwelwn ni heddiw ei adeiladu. Hynny’n cynnwys caffi, siop, toiledau a hefyd ystafell dysgu yn fewnol. Wedyn yn 2016 cafodd y gegin ei ehangu i gynnig ychydig mwy o le inni yn y caffi.

 Llion: Grêt. Nawr yn amlwg mae Bwlch Nant yr Arian wedi ennill tipyn o wobrau dros y blynyddoedd a tydi'r flwyddyn hon heb fod yn unrhyw wahanol. Felly beth yn dy farn ti sydd yn gwneud y lle yn un mor boblogaidd? Beth yw’r gyfrinach am gadw’r lle i weithio ar lefel mor uchel? 

 Jenn: Yma ym Mwlch Nant yr Arian mae yna rywbeth i bawb. Os ti’n dŵad yma hefo plentyn bychan mae yna fannau chwarae iddyn nhw, mae yna hefyd lefydd i gerdded, reidio beic ac i fynd ar gefn ceffyl. ‘Da ni’n rhoi tamaid bach o bob peth dw i’n meddwl ac yn ystod Covid dw i’n meddwl bod pobl wedi gweld hynny gan aros yn agosach at eu cartrefi. Maen nhw’n dod, mae hi’n ddiogel yma ac mae le iddyn nhw fod tu allan, ond y wir gyfrinach yw’r staff. 

 Y gyfrinach yw’r staff a’r ffordd maen nhw’n gweithio yma a’r ffordd maen nhw’n caru’r lle ‘ma ac yn edrych ar ôl y lle. Dyna’r gyfrinach a dyna pam mae’r cwsmer yn cael profiad da a pham ‘da ni wedi ennill yr holl wobrau oherwydd gwaith caled y staff. 

 Llion: Ie, da iawn yn wir. Nawr nes ‘di son ychydig yn fan yna am Covid. Wrth gwrs fe wnaeth phopeth gau lawr ar ddechrau’r cyfnod clo cyntaf a bysa’r Canolfan Ymwelwyr heb fod dim gwahanol. Ond pa fath o effaith cafodd Covid ar y ganolfan a sut wnaethoch chi ymdopi a hynny?  

 Jenn: Ie, fel wyt ti’n ddweud yn ystod y cyfnod clo cyntaf oedd phopeth wedi cau lawr. Ond os wyt ti’n cofio, y llefydd cyntaf cafodd eu hail-hagor oedd y llefydd tu allan a'r llefydd allith pobl ddod a mwynhau’r awyr iach. Felly ‘da ni wedi bod ar agor bron iawn o’r dechrau mewn rhyw ffordd. 

 Rydym wedi gorfod ymdopi hefo pethau newydd a ffyrdd newydd o weithio - tydi hynny heb fod yn rhwydd yn aml. ‘Da ni wedi gorfod meddwl ar ein traed, drwy symud a newid pethau, felly mae o wedi bod yn eithaf anodd inni, ond wedyn da ni’n credu ein bod ni wedi rhoi rhywbeth i’r cyhoedd i wella rhywfaint ar eu profiad nhw o fewn Covid. 

 Mae o’n rhywle i ddod, mae o’n rhywle tu allan ac mae o’n rhywle sydd yn ddiogel ac efallai bod hynny’n rhyw fath o comfort efallai? Felly dw i’n gobeithio ein bod ni wedi rhoi hyn i’r cwsmer yn ystod yr adeg anodd hyn. 

 Llion: Fi’n siŵr eich bod chi. Un sgwrs ges i gyda Sarah am y ganolfan y ddiweddar oedd am nid yn unig bod yr ymwelwyr wedi dod yn ystod yr haf fel y disgwyl, ond bod y niferoedd yna wedi parhau ychydig yn hirach i mewn i’r Hydref rhywfaint nag y bysech yn disgwyl fel arfer… 

 Jenn: Mae gennych chi’r ‘staycation’ a dw i’n meddwl ein bod ni wedi tapio mewn i hwnnw. Mae pobl wedi bod yn edrych am rywle gwahanol i ddod ac i brofi rhywbeth gwahanol. 

 ‘Da ni’n meddwl ein bod ni wedi gweld nifer o ymwelwyr na welwn ni o’r blaen oherwydd y ffaith eu bod nhw wedi bod yn edrych am y lle yna - sef lle gwahanol i fynd, rhywle sydd yn ddiogel a rhywle sydd hefyd a chyfleusterau yma. Mae yna doiledau, caffi a siop fach felly maen nhw’n cael rhywbeth bach i wneud tra bod nhw yma os nad ydyn nhw’n edrych i fynd allan a beicio mynydd - dyna sialens mae rhai pobl yn ei fwynhau tra bod eraill eisiau gwneud rhywbeth ychydig mwy tawel, a dyna rywbeth y gallwn ni gynnig i’r cwsmer. 

 Felly oherwydd hynny ‘da ni wedi gweld cwsmeriaid newydd a gobeithio y gwelwn ni’r cwsmeriaid hyn yn dod yn eu hol. Maen nhw wedi cael y profiad nawr a ‘da ni’n gwybod eu bod nhw wedi mwynhau oherwydd yr adborth da maen nhw wedi gadael i ni. Felly gobeithio y gwelwn ni hyn yn parhau rŵan.   

Llion: Ie, dw i’n siŵr dewn nhw nôl yn wir. Diolch yn fawr Jenn am siarad gyda mi heddiw ac mi wnâi adael iti fynd yn ôl at dy waith nawr. 

 Jenn: Diolch yn fawr.

 

 

Llion: Nawr fel y byddech chi'n dychmygu, mae nifer o dasgau dyddiol yn cael eu cwblhau i gadw'r ganolfan yn edrych ar ei orau, ac i fod yn barod i ymwelwyr. Mae gan y ganolfan griw o staff sy'n cynnal y safle ac yn helpu ymwelwyr gydag unrhyw gwestiynau. 

Mae Emma Keegan yn un o'r aelodau staff hynny, a dyna pwy ges i sgwrs gyda nesa’.

 

Llion: I ddechrau, dwed ychydig am dy hun, beth yw dy swydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru?

Emma: Dwi’n gweithio yn y siop yn y ganolfan. Dwi’n gweithio tu fas hefyd. Felly edrych ar ôl y safle a serfio cwsmeriaid. Ie, ‘na fe.

Llion: Grêt, a sut des di mewn i’r fath hyn o waith?

 Emma: O’n i’n gweithio yn y siop yn y dre cyn dod fan hyn, a hefyd es i i’r brifysgol yn Aberystwyth a o’n i’n astudio cadwraeth, yna’n ffodus i mewn i’r swydd yma.

 Llion: Beth mae diwrnod arferol yn edrych fel i ti?

 Emma: Ni’n dechrau’r gwaith tu mas, lle fi’n sicrhau fod tasgau dyddiol yn cael eu cwblhau. Mae rhai o’r tasgau yn checo’r ddau parc, gwneud yn siwr fod y safle’n lân a’n saff, a glanhau unrhyw sbwriel o gwmpas y lle.

 Ar ôl beni tu allan, fi’n mynd mewn i’r siop i baratoi i agor erbyn 10 o’r gloch, a wedyn croesawu’r ymwelwyr.

 Llion: A fi’n deall, ti wedi sôn amdano’n barod, fod rhan o dy waith di yn ymwneud â’r siop, alli di ddweud ychydig yn fwy i fi am hynny, pa fath o bethau ydych chi’n cadw mewn stoc?

 Emma: Ni wastad yn edrych am stoc newydd, ‘da ni wastad yn trio ei gadw’n lleol. Mae amrywiaeth yn y siop gyda ni achos fod amrywiath o bobl yn dod yma. Pethau ni’n gwerthu yn cynnwys crefftau pobl lleol, crochenwaith, celf, pyrograffeg ar bren, matiau clutwaith, ffotograffiaeth. A wedyn bwydydd fel mêl o Bontarfynach.

Llion: Ydy’r nwyddau chi’n gwerthu’n y siop yn boblogaidd?

Emma: Ydyn, mae nhw’n boblogaidd iawn. Mae pobl yn hoffi’r ffaith eu bod nhw’n lleol hefyd, achos mae’n cefnogi’r economi lleol, ac hefyd mae’n well i’r amgylchedd.

Llion: Grêt. Un cwestiwn dwi wedi bod yn gofyn i bobl, yn enwedig achos fod Cyfoeth Naturiol Cymru a Bwlch Nant yr Arian wedi cael cymaint o wobrau yn ddiweddar, yw beth yn dy farn di sydd yn ei nweud yn le mor arbennig?

Emma: Mae e mor brydferth yma. Fi’n credu fod lot o bobl yn dod yma achos mae e mor bert, a hefyd mae ‘na lot i bobl wneud. Mae ‘na stwff i blant wneud, neu lot o wahanol bobl. Mae ‘na lwybrau cerdded a beicio mynydd. Ni’n bwydo’r barcutiaid yma a mae hynny’n boblogaidd. Mae amrywiaeth mawr i wneud yma.

Llion: Oes, mae lot fawr yn does. Wel, diolch yn fawr Emma am siarad gyda fi heddiw, wnai adael i ti fynd nôl i dy waith. Diolch yn fawr.

 

 

Llion: Fel y mae Jenn ac Emma eisoes wedi dweud, mae rhywbeth at ddant pawb ym Mwlch Nant yr Arian, ac boed eich bod wedi mynd am wâc hamddenol o amgylch y llyn, neu os ydych wedi bod yn gwibio i lawr y llwybrau beicio mynydd, mae'r caffi a'i staff yno i'ch croesawu!  

 Siaradais â Rhian Roberts, Cynorthwydd Arlwyo yn y ganolfan am beth sydd gan y caffi i’w gynnig.

 

 

Llion: So dw’i ‘ma heddi’ gyda Rhian sy’n gweithio yn y caffi ym Mwlch Nant yr Arian. Rhian, sut wyt ti?

Rhian: Iawn diolch, ydw.

 Llion: Da iawn, da iawn. So, i ddechrau te, dweud ychydig i ni amdano dy hyn. Beth yw dy swydd yng Nghyfoeth Naturiol? 

 Rhian: Dwi’n gweithio ym Mwlch Nant yr Arian a swydd fi yw “catering assistant”. So fi sy’n ‘in charge’ o.. dwi’n dod mewn yn y bore, dwi’n neud siŵr bod popeth..dwi’n neud y cacennau. Os mae na rhyw decorations a gosod popeth yn barod i gwsmeriaid amser mae nhw’n dod mewn. So..a dyna beth. A wedyn, yn y diwrnod wedyn amser mae’r ‘customer’ yn dod mewn, fi sy’n servio nhw gyda coffis, cakes, beth bynnag sydd ar y menu. Ie.

 Llion: Ie, ie. Gret! A sut wyt ti wedi dod mewn i’r fath hyn o waith?

 Rhian: Well, o ni’n byw yn.. dim yn bell o fan hyn ac um.. ‘really’, weles i’r job wedi cael ei ‘adversisio’ a o ni’n meddwl, well…a dwi’n cerdded yma just bob dydd gyda’r cŵn so, on ni yn, dwi’n licio Bwlch Nant Yr Arian, so on ni just yn feddwl wna’i drio a mi ges i’r job a dw’i ddim wedi heb edrych yn ôl.

Llion: Gret. A ers faint wyt ti wedi bod ‘ma nawr?

Rhian: Dwy flynedd a hanner.

Llion: Oh gret.

Rhian: Ie.

 Llion: Gret. So, pa fath o fwyd ydych chi’n neud yn y caffi a pa mor brysyr mae pethe’n gallu mynd?

 Rhian: O mae’n dibynnu. Holidays! Wrth gwrs. Da ni yn fusu! Mae fe’n bedlam yma,  rhaid immi ddweud. Um. A bwyd da ni’n neud. Ni’n neud brecwast yn y bore. Da ni’n neud lot o cacennau, a da ni’n neud lot o rhai ‘homemade’. Y favourite yw scon a cream. Jam wrth gwrs gyda arno fo! Ni yn neud lot o’r cacennau ein hunain.

 Llion: Nawr gweud wrtha’i. Pwy sy’n gwerthfawrogi’r caffi mwya? Plentyn sydd â dant melys sydd eisiau darn enfawr o gacen? Neu pigwr mynydd sy’n hollol sopen a wedi blino ar ol diwrnod hir ar y llwybrau. 

Rhian: O mae’n anodd dweud achos... Yn y flwyddyn diwethaf, mae’n rhaid immi ddweud, mae’r cwsmeriaid, mae wedi dwbli yma…

 Llion: Ydy fe?

 Rhian: O teulu efo plant i pobl ar y beics achos mae nhw wedi altro lot ar y beics. So really, allwn ni ddim rili dividio fo rhwng y beics a’r teulu rili, chi’n gwybod. Mae mor fusu gyda pawb. A mae…ni’n cael lot o bobl sy’n mwyhau dod yma just i eistedd, i edrych ar y ‘view’ , mynd rownd y llyn um, a wedyn wrth gwrs mae nhw eisiau paned a cacen. But..amser fusu ydy o hyd amser mae nhw wedi fidio’r Kites a mae nhw licio dod mewn wedyn, a cael paned, te, coffi a cacen.

Llion: Ie! Gret! Mae’n amlwg bod Bwlch Nant Yr Arian wedi ennill tipyn o wobrau yn ddiweddar. Beth wyt ti’n meddwl sy’n neud y lle yn arbennig?

 Rhian: Y “view”! 

 Llion: Ie?

 Rhain: A wrth gwrs, yr adar. Mae nhw’n “big attraction” a wrth gwrs lle da’ ni hefyd. Wrth, chi’n gwybod…Mae mor gymaint o pobl yn dreifio pasio a mae nhw’n just yn gweld a mae nhw just yn dod mewn a mae nhw just ddim yn gallu credu beth mae nhw’n gweld. Dyna beth dwi’n meddwl. A wrth gwrs mae yna popeth yma. Mae yna… Ti’n gallu dod a’r teulu yma. Mae nhw’n gallu mynd ar y bikes. Mae plant bach yn gallu chwarae yn y parc. A wrth gwrs, da chi’n gallu mynd ar lot o…llwybr. Mynd am dro. Pob math o bethau.

 Llion: Ie. Hyfryd. Ie Ok! Wel..

 Rhian: A mae’r bwyd yn dda iawn yma!

 Llion: Ydy. Mae’r bwyd yn ffantasic ‘ma. Gret diolch. Diolch am dy amser di heddiw, Rhian.

Rhian: Croeso. Dim problem. 

Llion: Diolch.

 

Llion: Nawr, gobeithio erbyn hyn yn y podlediad, bod ‘da chi well syniad o beth sydd gan Fwlch Nant yr Arian i'w gynnig. Ond mae un peth ar ôl dyn ni ddim wedi rhoi digon o sylw i eto, rhywbeth y bydd llawer o bobl yn dadlau bod rhaid gwneud mewn unrhyw ymweliad â Bwlch Nant yr Arian!

Mae bwydo dyddiol y barcudiaid coch yn olygfa sydd werth ei weld ac mae'n uchafbwynt i unrhyw ymweliad. Wnes i ddal lan gyda Emma unwaith eto i ddysgu mwy am y barcudiaid.

 

 

Llion: Diolch yn fawr Emma am ymuno â fi eto. Ni newydd weld barcutiaid yn cael eu bwydo a roedd e’n boblogaidd iawn, fel mae fe bob amser. Dwed rhywfaint i fi am fwydo’r barcutiaid – pam ddechreuodd e?

Emma: Dechreuon nhw fwydo’r barcutiaid yma yn 1999 i helpu eu gwarchod achos roedden nhw bron â diflannu ar un tro.

Llion: Pryd ydych chi eu bwydo a beth ydych chi’n eu bwydo nhw?

Emma: Maen nhw’n cael 10 cilogram o gig, “Butcher’s offcut”, o’r cigydd lleol. Ni’n bwydo am 2pm yn y gaeaf a 3pm yn yr haf. 

Llion: Yn amlwg, ni wedi gweld, mae wastad yn boblogaidd iawn gyda ymwelwyr, pa fath o ymateb ydych chi’n cael gan ymwelwyr? Ydyn nhw dod i siarad â chi?

Emma: Wastad. Mae wastad lot o gwestiynau. Mae’r ymwelwyr wrth eu bodd yn gwylio nhw’n hedfan o gwmpas a’n plymio lawr i fwyta a pigo lan pishyn o gig. Ni wastad yn cael adborth da oddi wrth y cwsmeriaid.

 Llion: Gwych, diolch yn fawr am ymuno â fi. Wnai adael i ti fynd nôl at dy waith.

 Emma: Diolch yn fawr!

 

 

Llion: A dyna ni ar gyfer y bennod hon. Diolch yn fawr am ymuno â ni i’n ymweliad â Chanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian.

Os ‘dych chi heb fod o'r blaen, dw i’n gobeithio bod y podlediad hwn wedi codi’ch diddordeb ac y byddwch a’r lleoliad cyn bo’ hir.

Os ydych chi eisiau dysgu mwy, ewch i dudalen we Bwlch Nant yr Arian ar:  cyfoethnaturiol.cymru/bwlchnantyrarian. A tra bo’ chi ‘na, cofiwch fynd i'r adran ‘Ar grwydyr’ i weld yr holl lefydd arall gallwch ymweld â sy’n cael eu cynnal gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

 

Diolch am wrando.