Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru
Perlau Afon Dyfrdwy: Cydymaith sain
Nid pennod arferol o’r podlediad mo hon. Mae'n gydymaith sain i banel gwybodaeth ar hyd Afon Alwen, un o lednentydd Afon Dyfrdwy yng Ngogledd Cymru. P'un a ydych chi'n gwrando gartref neu'n sefyll wrth y dŵr, mae'r recordiad byr hwn yn dod â hanes adfer yr afon yn fyw.
Ymunwch â Gethin Morris, Uwch Swyddog Adfer Afonydd ar gyfer prosiect LIFE Afon Dyfrdwy, wrth iddo ddatgelu cylch bywyd diddorol misglod perlog sydd mewn perygl difrifol a'r gwaith cadwraeth uchelgeisiol sy'n digwydd yn Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid. Mae'r misglod hyn yn dal i oroesi yn Afon Dyfrdwy, ond mae ansawdd dŵr gwael a cholli eu cynefin yn golygu nad oes misglod ifanc yn dod i'r amlwg yn naturiol - her y mae'r prosiect yn benderfynol o’i goresgyn.
Er mwyn rhoi hwb i’r misglod hyn, mae'r prosiect yn defnyddio misglod perlog a fagwyd yn neorfa Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda'r nod o adfer poblogaethau hunangynhaliol. Mae'r prosiect hefyd wedi tynnu ac addasu coredau i helpu pysgod i symud yn rhwydd, sy'n hanfodol ar gyfer cylch bywyd y misglod, ac wedi cyflawni llu o welliannau i gynefinoedd ac ansawdd y dŵr. Mae'r cydymaith hwn hefyd yn archwilio pa mor gysylltiedig yw bywyd gwyllt yr afon yn y dirwedd arbennig hon.