
Cipolwg
Taith yr Artist - Elin Jones, Dramaturg WNO, a fydd yn cyflwyno’r rhifyn teiran arbennig hwn, lle bydd yn trafod siwrnai artistiaid o’u profiadau cyntaf o gerddoriaeth glasurol hyd at eu perfformiad proffesiynol cyntaf. Bydd y comedïwr a’r newyddiadurwr Lorna Prichard yn ymuno ag Elin i gyfweld perfformwyr, myfyrwyr a chantorion ifanc er mwyn cael dysgu mwy am bob cam o’u taith tuag at yrfa broffesiynol.
Cipolwg
Opera yn y Byd Modern gyda Robyn Lyn Evans
•
Welsh National Opera
•
Season 2
•
Episode 4
Robyn Lyn Evans sydd yn ymuno ag Elin Jones i archwilio opera yn y byd modern. Bydd Robyn yn trafod manteision addasu operâu traddodiadol i ddehongli bywyd cyfoes ar y llwyfan gyda Sion Goronwy a Paul Carey-Jones, yn ogystal â Bridget Wallbank, Rheolwr Cynhyrchu Opera Canolbarth Cymru.