Gwrachod Heddiw
Trafod hefo rhai o genod mwyaf di-flewyn-ar-dafod Cymru.Podlediad yn dathlu merched Cymru, trwy geisio canfod pa nodweddion mae nhw’n ei rannu hefo gwrachod confensiynol.
Gwrachod Heddiw
Trafod hefo Angharad Tomos
Use Left/Right to seek, Home/End to jump to start or end. Hold shift to jump forward or backward.
"Gwrach glên oedd Rala Rwdins..."
Anaml iawn mae rhywun yn cael y cyfle i gyfweld ag arwres eu plentyndod , ond dyna'n union mae'r podlediwr Mari Elen yn gwneud yn y bennod arbennig yma o Gwrachod Heddiw. Wedi ei recordio yn yr Orsaf ym Mhenygroes, mae Mari yn holi'r awdur, arlunydd, dramodydd ac ymgyrchydd Angharad Tomos. Gwrandewch a mwynhech sgwrs hir am Wlad y Rwla, Ymgyrchu, Eileen Beasley, Cyflwr y byd a pha mor bwysig ydi bod yn driw i dy hun a'th egwyddorion. Sgwrs sy'n plethu'r difyr, y dwys a'r digri.
Mae'r gyfres yma wedi'w ariannu gan gronfa Sbarduno Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Prydain.
Diolch i'r Orsaf ym Mhenygroes am gefnogi a chynnig cartref mor braf.
Diolch i Frân Wen am yr offer Sain.