
Gwrachod Heddiw
Trafod hefo rhai o genod mwyaf di-flewyn-ar-dafod Cymru.Podlediad yn dathlu merched Cymru, trwy geisio canfod pa nodweddion mae nhw’n ei rannu hefo gwrachod confensiynol.
Episodes
17 episodes
Trafod hefo Lisa Jên
Yn y bennod yma, mae Mari'n eistedd i lawr gyda'r actores, cantores, perfformiwr, a chydlynydd agosatrwydd Lisa Jên Brown ym mro ei mebyd, Bethesda. Mae'r ddwy yn sgwrsio am ddarganfod eu llwyth, byw yn driw i'w hunain, a'r holl anturiaethau ...
•
Season 3
•
Episode 3
•
1:22:36

Trafod hefo Angharad Tomos
"Gwrach glên oedd Rala Rwdins..." Anaml iawn mae rhywun yn cael y cyfle i gyfweld ag arwres eu plentyndod , ond dyna'n union mae'r podlediwr Mari Elen yn gwneud yn y bennod arbennig yma o Gwrachod Heddiw. Wedi ei recordio yn ...
•
Season 3
•
Episode 2
•
1:35:18

Trafod hefo Caryl Burke
Croeso nôl i fyd Gwrachod Heddiw! Dyma'r bennod cyntaf yn ein trydydd cyfres, ac mae'n fraint gael cyflwyno y digrifwr Caryl Burke! Yn y bennod doniol a thwymgalon hon, mae’r digrifwr Caryl Burke yn ymuno â ni o flaen cynull...
•
Season 3
•
Episode 1
•
53:01

Trafod gyda Lauren Albertina-Morais - Cathod Sassy, Beyonce a bod yn ffrind gorau i chdi dy hun
CALAN GAEAF HAPUS WITCHEZ! Dyma bennod newydd o Gwrachod Heddiw i ddathlu. Yn y bennod yma, dwi'n siarad hefo'r actor / perfformiwr / bardd / cyfarfwyddwr o fri Lauren Albertina-Morais am yr holl bethau sydd yn ei gwneud hi'n wrachaidd.
•
Season 2
•
Episode 6
•
1:02:44

Trafod gyda Mhara Starling : Swyngyfaredd, Doethgrefft, Trawsffobia a bwlio.
Sgwrs gyda'r swynwraig Mhara Starling am wir ystyr y term "Gwrach". Yn y bennod hir hon o Gwrachod Heddiw, mae Mhara yn sôn am hanes swyngyfaredd a doethgrefft yng Nghymru, ei hanes personol hi a'r rhwystrau mae hi wedi wynebu yn ei bywyd i gyr...
•
Season 2
•
Episode 5
•
1:39:38

Trafod gyda Mahum Umer : Cynrychiolaeth, Iechyd Meddwl a Ffitio Mewn
Sgwrs am Iechyd meddwl, cynrychiolaeth o ferched ifanc Mwslimaidd yn y cyfryngau yng Nghymru a ffitio mewn. Ymunwch hefo Mari Elen mewn sgwrs gwrachaidd hefo'r awdur ifanc Mahum Umer, un o gyd-awduron cyfres y Pump.
•
Season 2
•
Episode 4
•
1:03:31

Trafod Hefo Llinos Anwyl
Trafod hefo'r wrach Llinos Anwyl am ei chelf, pwer geiriau, pwysau teulu ar dy hunaniaeth a sut oedd merched yn cosbi dynion oedd yn gneud petha rybish yn yr hen ddyddiau.
•
Season 2
•
Episode 3
•
1:02:00

Trafod Hefo Emmy Stonelake
Yr actor a’r model Emmy Stonelake ydy’r wrach dwi’n sgwrsio hefo heddiw, am nabod dy hun, cathod, drag race a bod yn ferched blewog ✨
•
Season 2
•
Episode 2
•
1:02:00

Trafod Hefo Mirain Fflur
Nabod dy werth, nabod dy gorff a Jini Me Jos. Sgwrs hefo'r perfformiwr / gwneuthiwr theatr a'r artist, Mirain Fflur am yr holl bethau sydd yn ei gwenud hi'r gwrach ydy hi. Mwynhau y podlediad? Hoffwch, tanysgrifiwch a rhowch adolygiad ...
•
Season 2
•
Episode 1
•
1:02:10

Trafod Hefo Hanna Hopwood Griffiths
Heuldro'r Gaeaf Hapus fy swynwragedd ysbennydd!Ym mhennod ola'r gyfres mi ydw i'n trafod hefo'r Academwrach hyfryd Hanna Hopwood Griffiths am ferched yr oesoedd canol , gwallt, esgor a sut mae hi'n gwneud ei bywyd hi'n haws.
•
Season 1
•
Episode 8
•
1:02:47

Trafod hefo Mama Lleuad
Doula, Mam, Gwrach o Waunfawr. Sgwrs hefo'r hyfryd Mama Lleuad (Catrin Jones) am foddion, rhianta, placenta a natur. Mwynhewch!
•
Season 1
•
Episode 7
•
59:55

Trafod hefo Llio Maddocks
"Pan dwi'n cymharu'n ateb wan hefo be dd'udodd Mared Llywelyn am ri mwyar duon ym mhoced ei chwaer dwi fatha: Wyt ti'n serious?!" Sgwrs hefo'r bardd a'r awdur Llio Maddocks am berthnasau, Ffrindiau, Matilda, yr obsesiwn hefo : "Dwi...
•
Season 1
•
Episode 6
•
43:56

Trafod hefo Bethan Gwanas
Madarch, cwtshus i goed, byw ben dy hun ac wrth gwrs Siwsi Dôl-y-Clochydd. Sgwrs hefo Brenhines byd gwrachaidd Cymru, Bethan Gwanas. "Hefo synhwyro ysbrydion, ella dyna pam dwi’n gallu byw mewn tŷ ben fy hun... ma’ ‘na ysbryd...
•
Season 1
•
Episode 5
•
55:10

Trafod Hefo Nia Llinos
"Mae menywod yn treulio eu holl bywydau yn rhoi pŵer nhw a rhoi gwaed nhw a rhoi egni nhw mewn i bobl erill fel teulu a partneriaid a pethe, ond mae gwrachod yn pobl sy'n troi y pŵer 'na nôl at ei hun." Sgwrs gyda'r awdur a'r d...
•
Season 1
•
Episode 4
•
40:18

Trafod hefo Efa Lois
Positifrwydd, Gwrachod, Ffrogiau o'r 70au a chydig bach o Chwedloniaeth. Sgwrs gyda'r pensaer a'r arlunydd holl alluog, Efa Lois. Sgwrs hyfryd am godi llais pan bod angen, y broses creu a meithrin syniadau a'i chariad at cyd-...
•
Season 1
•
Episode 3
•
51:04
